Prentisiaeth Gweithiwr Desg Gymorth Gwasanaeth Cwsmeriaid (Cymraeg yn Hanfodol)
Yn y swydd hon chi fydd un o’r pwyntiau cyswllt cyntaf i gwsmeriaid Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), gan gynnwys trethdalwyr a’u cynrychiolwyr. Byddwch yn rhan bwysig o roi profiadau cadarnhaol i gwsmeriaid ac yn helpu pobl i gyflawni eu rhwymedigaethau treth yn gywir ac yn brydlon.
Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.
Mae hon yn swydd lawn amser. Fodd bynnag, croesewir trefniadau gweithio hyblyg a rhannu swydd a byddant yn cael eu hystyried.
Lleoliad: Rydym yn annog gweithio hyblyg a hybrid. Bydd angen mynychu’r swyddfa rhywfaint ar sail anghenion busnes. Mae’r swydd hon wedi’i lleoli yn ein swyddfa ym Merthyr neu yng Nghaerdydd.
Gweler ein swyddi gwag cyfredol a sut i wneud cais am ein rolau.

