Dylunydd Graffeg – 12 mis
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon
Pam ymuno ag S4C?
Yn S4C, rydym yn angerddol am greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno ag S4C fel Dylunydd Graffeg, gan gyfrannu at ddyfodol sy’n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru gyfan wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd – S4C – Mwy na Sianel Deledu – wrth i ni ehangu ein gwylio gyda’n cynnwys a datblygu ein gwasanaeth Digidol yn Gyntaf.
Trosolwg o’r Swydd
Fel Dylunydd Graffeg, byddwch yn gyfrifol am ddylunio amrywiaeth o gynnwys digidol a phrint ar gyfer adran Brand a Chreadigol S4C, ochr yn ochr â chreu mân-luniau ysgogol ar gyfer ein portffolio cynyddol o blatfformau ffrydio. Fel Dylunydd Graffeg, byddwch yn datblygu atebion gweledol creadigol ac arloesol sy’n dod â negeseuon yn fyw, yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd, ac yn gwella’r berthynas rhwng S4C a’i rhanddeiliaid.
Gan gyfuno barn greadigol a sgiliau argraffyddol cryf â sgiliau rheoli asedau rhagorol, byddwch yn sicrhau bod delweddau ar draws portffolio’r darlledwr yn weledol rymus, yn cyd-fynd â’r brand ac yn gwneud y defnydd gorau ohonynt ar gyfer ennyn sylw’r gynulleidfa.
Gan ddefnyddio eich arbenigedd mewn dylunio graffeg a chyfathrebu gweledol, byddwch yn creu, mireinio a rheoli asedau gweledol sy’n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo rhaglenni, twf y gynulleidfa ac adrodd straeon corfforaethol ar draws platfformau darlledu, ffrydio, digidol a chyfryngau cymdeithasol.
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â’n tîm creadigol wrth i ni barhau i ddatblygu ein prosesau mewnol ar gyfer dyfodol darlledunewydd sy’n cynnwys gwasanaethau ffrydio ac aml-blatfform.
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
Fel Dylunydd Graffeg byddwch yn:
- Cydweithio ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys cwmnïau cynhyrchu, a thimau mewnol S4C, er mwyn darparu atebion creadigol effeithiol.
- Cefnogi’r gwaith o gynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata integredig ar draws sawl platfform a sianeli cyfryngau.
- Cynhyrchu cysyniadau creadigol gwreiddiol a dyluniadau diddorol, cynlluniau hygyrch sy’n cael effaith weledol gan ddefnyddio argraffwaith, delweddau ac egwyddorion brandio cryf.
- Creu gwaith celf ar gyfer amrywiaeth o sianeli a fformatau, gan gynnwys y tu allan i’r cartref, sgriniau digidol, datblygu brandio ac ymgyrchoedd aml-blatfform.
- Defnyddio canllawiau brand mewnol ac allanol yn gyson, gan sicrhau bod yr holl waith yn adlewyrchu hunaniaeth weledol S4C ac yn cynnal safonau dylunio uchel.
- Gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol er mwyn deall gofynion prosiect, datblygu ymatebion creadigol i friffiau, a chyflwyno cysyniadau ac atebion dylunio.
- Defnyddio meddalwedd dylunio o safon y diwydiant, gan gynnwys Adobe Photoshop, Illustrator, InDesign ac After Effects, ar gyfer creu a chyflwyno asedau creadigol o ansawdd uchel.
- Defnyddio egwyddorion dylunio craidd fel cydbwysedd, cyferbyniad, hierarchaeth, alinio a bylchu ar gyfer cynhyrchu cyfathrebu gweledol effeithiol.
- Sicrhau cywirdeb a sylw i fanylion ym mhob allbwn dylunio, gan nodi a chywiro anghysondebau wrth gynnal safonau o ansawdd uchel.
- Blaenoriaethu llwythi gwaith yn effeithiol, rheoli nifer o brosiectau ar yr un pryd a chyflawni gwaith i derfynau amser y cytunwyd arnynt.
- Dylunio cynnwys ar gyfer ystod amrywiol o gynulleidfaoedd, gan deilwra dulliau creadigol ar gyfer gwahanol blatfformau ac anghenion defnyddwyr.
- Cyfrannu at gyflawni ymgyrchoedd blaenoriaeth a mentrau tymhorol, gan gynnwys digwyddiadau mawr, lansio rhaglenni a gweithgareddau corfforaethol.
- Cysylltu â’r tîm Marchnata a chwmnïau cynhyrchu allanol ar gyfer datblygu celf allweddol, asedau hyrwyddo a deunyddiau ymgyrchu sy’n cefnogi marchnata rhaglenni a thwf cynulleidfaoedd.
- Creu, golygu a gwella delweddau ar gyfer catalog rhaglenni S4C yn Gymraeg a Saesneg.
- Cefnogi’r tîm graffeg a ffotograffiaeth ehangach gydag ystod o ofynion dylunio, gan gynnwys creu mân-luniau, nodi a datblygu ffotograffiaeth/delweddau mwyaf effeithiol er mwyn cefnogi marchnata rhaglenni ac ennyn diddordeb cynulleidfaoedd, creu deunydd hyrwyddo, dylunio creu logos ac asedau ymgyrchu.
- Gwerthuso llwyddiant eich gwaith yn erbyn amcanion y cytunwyd arnynt, gan ddefnyddio adborth, data a barn broffesiynol er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni canlyniadau ystyrlon, gwerth am arian a gwelliant parhaus.
- Gweithio i reolau masnach deg S4C wrth archebu argraffiadau a nwyddau.
- Disgwylir i chi ymgymryd ag unrhyw waith neu gyfrifoldebau rhesymol eraill sy’n codi o bryd i’w gilydd.
Y math o berson rydyn ni’n chwilio amdano:
- Rhywun sy’n gallu cyfrannu’n hyderus at syniadau creadigol.
- Unigolyn sydd â phrofiad o weithio i ganllawiau brand.
- Gyda phrofiad amlwg o weithio i derfynau amser/amserlenni tynn, gweithio ar brosiectau lluosog ar yr un pryd.
- Unigolyn â phrofiad o weithio gydag amrywiaeth eang o asedau a chanllawiau.
- Rhywun sy’n gallu cyfathrebu, cydlynu a rheoli disgwyliadau yn effeithiol gydag ystod eang o randdeiliaid; mewnol ac allanol.
- Meddylfryd chwilfrydig a hyblyg, gyda brwdfrydedd gwirioneddol dros archwilio tueddiadau dylunio newydd, croesawu arloesedd, a dysgu offer a thechnolegau newydd yn barhaus.
Byddwch yn llwyddo yn y rôl hon os:
- Ydych yn Ddylunydd Graffeg profiadol sy’n angerddol am greu cynnwys gweledol deniadol o ansawdd uchel.
- Oes gennych sgiliau creadigol a thechnegol da (Adobe Suite), gyda hyder mewn creu asedau digidol a golygu delweddau.
- Ydych yn drefnus iawn, yn canolbwyntio ar fanylion ac yn gallu cydbwyso blaenoriaethau lluosog wrth gwrdd â therfynau amser.
- Oes gennych ddiddordeb gwirioneddol yng nghynnwys S4C a’r cynulleidfaoedd rydym yn eu gwasanaethu.
- Ydych yn hunan-gymhellol, gyda meddylfryd chwilfrydig a hyblyg ac yn ffynnu wrth weithio’n annibynnol, tra hefyd yn gweld gwerth mewn cydweithio a gwaith tîm.
- Ydych yn mwynhau meithrin perthnasoedd cadarnhaol a gweithio gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid er mwyn dod â syniadau’n fyw.
- Ydych yn gallu cyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan addasu eich dull ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd.
Yn ystod y tri mis cyntaf bydd disgwyl i chi:
- Ddeall hunaniaeth brand, canllawiau arddull, a safonau dylunio S4C.
- Defnyddio meddalwedd dylunio gofynnol yn fedrus a gweithio yn unol â llifoedd gwaith mewnol.
- Cwblhau tasgau dylunio a neilltuwyd i chi yn gywir a phrydlon.
- Gweithio’n annibynnol a chyfathrebu’n rhagweithiol â’r tîm brand a delwedd, a chyfrannu’n gadarnhaol gyda thîm ehangach a rhanddeiliaid sefydliadol eraill.
- Cynnal ffeiliau prosiect trefnus a chadw at safonau ansawdd.
- Cyfathrebu cynnydd ac unrhyw heriau mewn modd amserol.
- Dangos proffesiynoldeb, dibynadwyedd, ac agwedd gadarnhaol yn unol â’n gwerthoedd sefydliadol.
Byddwch hefyd:
- Yn ymwybodol o strategaeth S4C, a sicrhau eich bod yn cymryd cyfrifoldeb personol am ddilyn ein holl bolisïau a gweithdrefnau yn ôl yr angen, sy’n cynnwys gweithio o fewn canllawiau Iechyd a diogelwch, amrywiaeth a chynhwysiant, diogelu data, canllawiau ariannol ac yn y blaen.
- Â llygad dda am ddylunio ynghyd â deall sut mae graffeg yn gweithio ochr yn ochr â ffotograffiaeth.
- Yn cyfrannu mewn ffordd gadarnhaol tuag at ddiwylliant a chyflawni strategaeth S4C.
- Yn cyfrannu at a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
- Yn cydweithio â’ch rheolwr llinell a bod yn rhagweithiol wrth reoli a datblygu eich perfformiad eich hun.
- Yn gwneud yn siŵr eich bod yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol, gydweithredol, draws-sefydliadol, sy’n datblygu gwasanaethau gwych i’n gwylwyr ar bob platfform ac yn sicrhau amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysol sy’n trin pawb â pharch.
Beth fyddwch chi’n ei gael?
- Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn sefydliad sy’n gwerthfawrogi pobl.
- Gweithio mewn amgylchedd hyblyg yn un o’n swyddfeydd yng Nghymru.
- Mae S4C wedi ymrwymo i dwf personol ei weithwyr, gan gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu cynhwysfawr i wella sgiliau a hybu gyrfaoedd. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant mewnol, a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus lle bo’n briodol.
- Mynediad at gyfleoedd unigryw yn y sector cyfryngau gan gynnwys presenoldeb mewn digwyddiadau, rhagolwg rhaglenni, trafodaethau panel a diweddariadau mewnol.
- Mae gan weithwyr y cyfle unigryw i gyfrannu at hyrwyddo a chadw’r iaith a’r diwylliant Cymraeg drwy eu gwaith.
- Mae S4C yn cynnig Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda 10% yn cael ei gyfrannu gan S4C.
- 26 diwrnod o wyliau yn cynyddu’n raddol hyd at 32 diwrnod mewn 9 mlynedd.
Am sgwrs anffurfiol am y rôl cysylltwch â pobl@s4c.cymru.
Yn eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu sylw at y sgiliau a’r profiad sydd gennych sy’n berthnasol i’r rôl a restrir yn y fanyleb bersonol isod ac sy’n unol â’n gwerthoedd craidd. Rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos pam rydych chi’n addas ar gyfer y swydd.
Manylion eraill
Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod mewn swyddfa a gweithio yn y swyddfa’n barhaus am y pythefnos cyntaf ar gyfer hyfforddiant pellach – mae’r hyfforddiant hwn yn debygol o gael ei gynnal yn ein swyddfa/swyddfeydd yng Nghaerfyrddin neu Gaerdydd)
Cyflog: £39,403.00 y flwyddyn
Contract: 12 mis
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Rydym yn hapus i drafod oriau gwaith ac i ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n chwilio am waith hyblyg neu ran-amser. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio y tu allan i oriau swyddfa, rhai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ogystal â’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi’n rhan-amser, byddwch yn derbyn cyfran pro rata o’r gwyliau.
Pensiwn: Mae gan staff cyflogedig hawl i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol sy’n cael ei ddiwygio o bryd i’w gilydd. Os ydych chi’n aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel arfer o fewn y DU
Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn

