Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol

Teitl Swydd
Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol
Enw’r Cwmni
Tinopolis
Lleoliad
Llanelli
Cyflog
Yn ddibynnol ar brofiad
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 04/09/2026

Tinopolis – Llanelli

Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol creadigol, trefnus a hyderus yn olygyddol i arwain gwaith dyddiol tîm digidol Tinopolis Cymru yn Llanelli.

Byddwch yn datblygu ac yn creu cynnwys digidol-yn-gyntaf ar draws y cwmni, gan weithio’n bennaf gyda Heno a Prynhawn Da a chefnogi cynyrchiadau eraill. Byddwch yn troi syniadau’n fformatau cryf, yn cynllunio sesiynau ffilmio, yn briffio cyfranwyr a chydweithwyr, ac yn goruchwylio’r gwaith o’r syniad cyntaf hyd at gyhoeddi.

Mae hon yn rôl arwain ymarferol sy’n cyfuno creadigrwydd, cynllunio, barn olygyddol a dealltwriaeth o gynulleidfaoedd. Byddwch yn adrodd i’r Pennaeth Cynhyrchu Digidol ac yn rheoli gwaith, yn gosod blaenoriaethau ac yn cynnal ansawdd a chysondeb cynnwys y tîm.

Prif gyfrifoldebau

  • Arwain gwaith dyddiol y Tîm Cynnwys Digidol, gan reoli gwaith a gosod  blaenoriaethau gweithredol gwaith clir.
  • Datblygu syniadau, fformatau a chynlluniau cynnwys digidol-yn-gyntaf ar gyfer Heno, Prynhawn Da,  cynhyrchiadau eraill a cheisio am gomisiynau newydd.
  • Cynllunio sesiynau ffilmio digidol, briffio cyfranwyr a chydweithwyr, a goruchwylio’r gwaith hyd at ei gyhoeddi.
  • Cynhyrchu cynnwys pwrpasol ar gyfer YouTube, fideo ffurf fer, podlediadau a phodlediadau fideo.
  • Cynghori timau ar agoriadau fideo, strwythur, gofynion ffilmio a thriniaeth briodol ar gyfer pob llwyfan.
  • Adnabod cyfleoedd i ddilyn straeon ymhellach ac i ail-lunio neu ailddefnyddio deunydd archif.
  • Cynnal safonau uchel o ran adrodd straeon, cywirdeb, hygyrchedd, tôn, hawliau a chyflwyniad gweledol.
  • Defnyddio dealltwriaeth o’r gynulleidfa a data perfformiad i brofi, gwella a datblygu cynnwys newydd.
  • Gosod amcanion, rhoi adborth, cefnogi datblygiad aelodau’r tîm a rheoli perfformiad pan fo angen.
  • Rhannu gwybodaeth ymarferol ar draws timau cynhyrchu a gwella templedi a llifoedd gwaith.
  • Rheoli sawl blaenoriaeth yn annibynnol a sicrhau bod amserlenni cynhyrchu yn glir ac yn realistig.
  • Cyfeirio materion sensitif, cymhleth neu risg uchel at y Pennaeth Cynhyrchu Digidol.

Sgiliau a phrofiad

Hanfodol:

  • Sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig cryf.
  • Profiad sylweddol o ddatblygu a chynhyrchu cynnwys digidol ar gyfer sawl llwyfan.
  • Dealltwriaeth gadarn o YouTube, fideo ffurf fer, podlediadau a phodlediadau fideo.
  • Profiad o arwain tîm, gosod gwaith, rhoi adborth a chefnogi datblygiad staff.
  • Barn olygyddol hyderus a dealltwriaeth o gywirdeb, hawliau, hygyrchedd a rheoli risg.
  • Gallu datblygu syniad o’r cysyniad cyntaf hyd at ffilmio, golygu, pecynnu a chyhoeddi.
  • Gallu defnyddio data perfformiad ac ymateb cynulleidfaoedd i wneud penderfyniadau cynnwys.
  • Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i reoli sawl blaenoriaeth yn dawel dan bwysau.
  • Sgiliau cyfathrebu a chydweithio cryf ar draws timau creadigol, golygyddol a chynhyrchu.

Dymunol:

  • Profiad o weithio gyda rhaglenni teledu, cynnwys byw neu raglenni cylchgrawn.
  • Profiad o ddatblygu llifoedd gwaith, templedi neu hyfforddiant ar gyfer timau cynnwys.
  • Dealltwriaeth o ddefnyddio deunydd archif a chynllunio cynnwys sy’n meithrin cynulleidfaoedd dros amser.
  • Dealltwriaeth o ddefnydd deallusrwydd artiffisial ar gyfer gwella effeithlonrwydd prosesau cynhyrchu

Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac rydym yn credu mewn amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Lleoliad: Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE

Cyflog:  Yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau: 4 Medi 2026

Manylion Pellach

Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc pan fo angen.

Gwyliau:  Yn ychwanegol at wyliau banc statudol, bydd hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn: Gall staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Tinopolis, yn ddarostyngedig i delerau’r cynllun. Ar hyn o bryd, mae Tinopolis yn cyfrannu 3% o’r cyflog sylfaenol a disgwylir cyfraniad staff o 5%.

Ceisiadau:  Dylid anfon llythyr cais a CV at swyddi@tinopolis.com, gan nodi ‘Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol’ yn glir.

Dyddiad ac amser cau: 4 Medi 2026.

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd angen darparu tystiolaeth ddogfennol fel rhan o’r broses recriwtio.

Bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir wrth wneud cais yn cael ei thrin yn unol â Pholisi Diogelu Data Tinopolis. Gellir gofyn i ni ddileu data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg.

Sut i wneud cais

Dylid anfon llythyr cais a CV at swyddi@tinopolis.com, gan nodi ‘Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol’ yn glir.

Dyddiad ac amser cau: 4 Medi 2026.