Crëwr Cynnwys Digidol

Teitl Swydd
Crëwr Cynnwys Digidol
Enw’r Cwmni
Tinopolis
Lleoliad
Llanelli
Cyflog
Yn ddibynnol ar brofiad
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 04/09/2026

Tinopolis – Llanelli

Rydym yn chwilio am Grëwr Cynnwys Digidol creadigol, cyflym a manwl i ymuno â thîm digidol Tinopolis Cymru yn Llanelli.

Byddwch yn creu, golygu, pecynnu a chyhoeddi cynnwys deniadol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol y cwmni, gan roi blaenoriaeth ddyddiol i Heno a Prynhawn Da. Byddwch yn gweithio’n agos gyda thimau golygyddol a chynhyrchu i greu fideos fertigol gwreiddiol, ail-lunio deunydd rhaglenni a chefnogi ffilmio digidol-yn-gyntaf.

Mae hon yn rôl ymarferol i rywun sydd â chrebwyll golygyddol cadarn, sgiliau golygu digidol hyderus a’r gallu i gyflawni gwaith creadigol o safon ar amserlen brysur.

Prif gyfrifoldebau

  • Creu fideos fertigol gwreiddiol ar gyfer llwyfannau cymdeithasol Tinopolis Cymru.
  • Clipio, golygu ac ail-lunio deunydd Heno, Prynhawn Da a chynyrchiadau eraill ar gyfer cynulleidfaoedd digidol.
  • Cefnogi a chyflawni sesiynau ffilmio digidol-yn-gyntaf, gan gynnwys defnyddio  kit iPhone/Osmo.
  • Ysgrifennu capsiynau a chopi Cymraeg cywir, naturiol ac addas i lais y rhaglen a’r llwyfan.
  • Ychwanegu isdeitlau, testun ar y sgrin a graffeg syml, a pharatoi thumbnails deniadol.
  • Dewis fformatau a thestun addas, amserlennu cyhoeddi a chynnal rhythm cyhoeddi dibynadwy drwy gydol y dydd.
  • Sicrhau bod cynnwys yn gywir yn olygyddol, yn hygyrch, wedi’i glirio o ran hawliau ac yn gyson yn weledol.
  • Cadw cofnodion cyfredol o asedau, fersiynau, cymeradwyo a chyhoeddi.
  • Ymateb i flaenoriaethau sy’n gallu newid yn sydyn ac addasu’n gyflym .
  • Cyfrannu syniadau ymarferol a chreadigol ar gyfer cynnwys a chefnogi cynyrchiadau yn unol â briffiau.
  • Defnyddio ymateb y gynulleidfa a data perfformiad i wella cynnwys a phenderfyniadau cyhoeddi.
  • Cyflawni gwaith yn unol â’r blaenoriaethau a’r amserlen a bennir gan Arweinydd y Tîm Cynnwys Digidol.

Sgiliau a phrofiad

Hanfodol:

  • Sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig cryf.
  • Gallu hyderus i olygu fideo yn Premiere Pro neu feddalwedd golygu debyg.
  • Profiad o greu a phecynnu cynnwys ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
  • Profiad o offer cyhoeddi cymdeithasol a chynhyrchu cynnwys gyda dyfeisiau symudol.
  • Crebwyll golygyddol cadarn, sylw rhagorol i fanylion a gallu i wirio cywirdeb.
  • Dealltwriaeth o isdeitlau, hygyrchedd, hawliau, caniatâd a phrosesau cymeradwyo.
  • Gallu ysgrifennu capsiynau a chopi deniadol, cywir a phriodol i’r llwyfan.
  • Gallu gweithio’n gyflym, trefnu sawl tasg ac ymateb yn dawel i flaenoriaethau newidiol.
  • Agwedd gydweithredol a’r gallu i dderbyn adborth a gweithio’n unol â briff ac amserlen.

Dymunol:

  • Profiad o greu cynnwys ar gyfer rhaglenni teledu, cynnwys byw neu raglenni cylchgrawn.
  • Sgiliau sylfaenol mewn graffeg, dylunio thumbnails neu animeiddio testun.
  • Profiad o ddefnyddio data perfformiad i brofi a gwella cynnwys cymdeithasol.

Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac rydym yn credu mewn amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.

Lleoliad: Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE

Cyflog:  Yn ddibynnol ar brofiad

Dyddiad Cau:  4 Medi 2026

Manylion Pellach

Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc pan fo angen.

Gwyliau:  Yn ychwanegol at wyliau banc statudol, bydd hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn:  Gall staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Tinopolis, yn ddarostyngedig i delerau’r cynllun. Ar hyn o bryd, mae Tinopolis yn cyfrannu 3% o’r cyflog sylfaenol a disgwylir cyfraniad staff o 5%.

Ceisiadau:  Dylid anfon llythyr cais a CV at swyddi@tinopolis.com, gan nodi ‘Crëwr Cynnwys Digidol’ yn glir.

Dyddiad ac amser cau: 4 Medi 2026

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd angen darparu tystiolaeth ddogfennol fel rhan o’r broses recriwtio.

Bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir wrth wneud cais yn cael ei thrin yn unol â Pholisi Diogelu Data Tinopolis. Gellir gofyn i ni ddileu data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg.

Sut i wneud cais

Ceisiadau:  Dylid anfon llythyr cais a CV at swyddi@tinopolis.com, gan nodi ‘Crëwr Cynnwys Digidol’ yn glir.

Dyddiad ac amser cau: 4 Medi 2026