Cynghoryddion Gyrfa/Cynghoryddion Gyrfa dan Hyfforddiant
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG), is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaethau hanfodol i bob oedran o ran cyfarwyddyd gyrfaoedd a darparu anogaeth. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn annibynnol a diduedd ac ar gael ledled Cymru, gan gynnwys drwy raglen Cymru’n Gweithio.
Fel cenedl, rydyn ni’n ffynnu wrth hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae gweithlu amrywiol yn arwain at wneud gwell penderfyniadau, mwy o greadigrwydd, timau cryfach a gweithleoedd hapusach – ac yn bwysicaf oll, dyma’r peth iawn i’w wneud. Mae ein hymrwymiad i amrywiaeth yn ein helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol a sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.
Swyddi Gwag – Cynghoryddion Gyrfa/Cynghoryddion Gyrfa dan Hyfforddiant
Swyddi amser llawn (37 awr) yng Ngogledd-ddwyrain Cymru (Sir y Fflint neu Wrecsam) a De Orllewin Cymru, ac un swydd naill ai amser llawn neu ran-amser (4 diwrnod) yng Nghanolbarth Powys.
- Cyflog Cynghorydd Gyrfa: £32,262 – £37,330 (gan ddechrau ar £32,262), pro rata ar gyfer rhan-amser.
- Cyflog Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant: £30,993, pro rata ar gyfer rhan-amser.
- Sgiliau Cymraeg: Hanfodol, amrywiaeth o lefelau sgiliau – sgiliau Hyfedr ar gyfer y swydd yn Gogledd-ddwyrain Cymru, Uwch ar gyfer y swydd yn Canolbarth Powys a Chanolradd ar gyfer y swydd yn Gorllewin Cymru (gweler isod am ragor o esboniad o’r lefelau sgiliau hyn).
Ydych chi’n rhywun sy’n gallu…
- Ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc ac oedolion i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflawni eu huchelgeisiau?
- Cyfrannu at ddatblygu sgiliau ac at lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol?
- Gweithio o fewn sefydliad cenedlaethol modern, arloesol lle gallwch chi wirioneddol wneud gwahaniaeth?
Fel yr unig sefydliad cenedlaethol sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd yng Nghymru mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth cyfarwyddyd i bob oedran. Mae ein tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc yn cefnogi dysgwyr yn y maes addysg tra mae ein Tîm Cymru’n Gweithio yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion i ymuno â’r farchnad lafur neu ail-ymuno â hi drwy asesu, cyfarwyddyd a chymorth wedi’i deilwra. Mae ein cynghorwyr yn angerddol dros helpu unigolion i wireddu eu potensial.
Ynglŷn â’r Swyddi:
2 swydd wag yn y Tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc:
Lleoliadau: Canolbarth Powys (mae angen sgiliau Cymraeg lefel Uwch); Gogledd Ddwyrain Cymru – Sir y Fflint neu Wrecsam (mae angen sgiliau Cymraeg lefel Hyfedr)
Mae’r swyddi hyn yn canolbwyntio ar baratoi pobl ifanc ar gyfer cyfnodau pontio allweddol yn eu haddysg a’u gyrfaoedd yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio ar draws ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, colegau AB a gyda’r rhai sydd wedi’u haddysgu y tu allan i leoliadau prif ffrwd. Fel gyda’n holl rolau cynghorydd, byddwch yn defnyddio ystod o offer i ddarparu cymorth un-i-un, sesiynau grŵp rhyngweithiol a chyflwyniadau digidol.
1 swydd wag yn y Tîm Peripatetig
Lleoliad: De Orllewin Cymru (mae angen sgiliau Cymraeg lefel Canolradd)
Bydd y rôl hon yn gweithio’n hyblyg ar draws y ddau faes cyflwyno gwasanaeth, sef Gwasanaethau i Bobl Ifanc a Chymru’n Gweithio, gan gefnogi rhanbarth y De Orllewin. Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i deithio i sawl lleoliad a dangos diddordeb cryf yn ein hystod lawn o wasanaethau i gwsmeriaid. Bydd gan bob ymgeisydd llwyddiannus leoliad cytundebol penodol. Mae amser teithio y tu hwnt i’r lleoliad hwn yn cyfrif fel oriau gwaith, a bydd costau teithio ychwanegol yn cael eu had-dalu.
Gwybodaeth Gyffredinol
- Rhaid i’n cynghorwyr/rhai dan hyfforddiant fod â thrafnidiaeth addas i gyflawni eu dyletswyddau a mynychu digwyddiadau dysgu a datblygu yng Nghymru ac, o bryd i’w gilydd, yn y DU.
- Rhaid i ymgeiswyr Cynghorydd Gyrfa feddu ar Ddiploma Lefel 6 FfCCh mewn Cyfarwyddyd a Datblygu Gyrfa (neu gymhwyster cyfatebol) a bod yn gymwys ar gyfer Cofrestr Ymarferwyr CDI.
- Rhaid i Gynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant feddu ar radd (neu gymhwyster cyfatebol) a byddant yn cwblhau’r Diploma Lefel 6 fel rhan o’r rôl, gyda rhywfaint o astudio annibynnol yn ofynnol.
- Mae angen Datgeliad DBS Manwl.
Disgrifiadau Lefelau Sgiliau Iaith Gymraeg
Canolradd: Byddwch yn gallu deall a chyfarthrebu’n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau diddorol, ac egluro syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus. Dylech hefyd allu darllen cyfathrebiadau gwaith syml a chynhyrchu negeseuon e-bost neu lythyrau clir, wedi’u strwythuro’n dda i rannu gwybodaeth, gwneud ceisiadau, neu drefnu gweithgareddau.
Uwch: Dylech allu dilyn y rhan fwyaf o drafodaethau, cyfrannu’n hyderus mewn sgyrsiau gyda siaradwyr rhugl, a mynegi eich barn yn glir ar ystod o bynciau bob dydd a phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith. Byddwch yn deall y rhan fwyaf o ddeunyddiau ysgrifenedig Cymraeg gyda chymorth geiriadur ac yn cynhyrchu adroddiadau byr, adolygiadau a gohebiaeth glir a chywir ar gyfer cynilleidfaoedd mewnol ac allanol.
Hyfedr: Gallwch ddeall yr hyn yr ydych yn ei glywed neu’n ei ddarllen yn rhugl, cyfathrebu’n rhugl ar bynciau cymleth, ac arwain neu gyfrannu at drafodaethau. Gallwch grynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau ac addasu eich arddull ar gyfer gwahanol gynilleidfaoedd a lleoliadau. Rydych yn medru gweithio ar lefel broffesiynol, gan gyfathrbu trwy amrywiol ddulliau yn y Gymraeg.
Mae disgrifiadau swydd llawn a ffurflenni cais ar gael yn Swyddi Gwag – Gyrfa Cymru (llyw.cymru).

