Cyfieithydd (Cymraeg)
Math o Gontract: Amser llawn, Cyfnod Penodol (10 mis)
Cyflog: £33,231 – £35,370 y flwyddyn pro rata (Gradd 6)
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion â phrofiad helaeth yn y maes am swydd cyfieithydd gyda’r Tîm Cyfieithu yn CBAC. Bydd yr unigolyn yn gweithio mewn adran brysur ac yn cyfrannu at sicrhau bod CBAC yn darparu gwasanaeth dwyieithog llawn i’w gwsmeriaid a’i randdeiliaid yn fewnol ac yn allanol.
Yr her
CBAC yw prif gorff dyfarnu Cymru. Ymhlith yr hyn yr ydym yn ei gyfrannu at ein cymunedau addysg y mae darpariaeth cymwysterau dibynadwy a chefnogaeth arbenigol, fel y gall ein dysgwyr gael y cyfle i gyrraedd eu potensial yn llawn.
Dyma gyfle gwych felly i fod yn rhan o gorff sy’n annog ac yn gwella meddyliau’r dyfodol.
Y rôl
Mae hon yn rôl sy’n allweddol o ran sicrhau bod CBAC yn cynnig gwasanaeth dwyieithog llawn i’w gwsmeriaid a’i randdeiliaid. Un o’i nodau hanfodol yw cynnal safonau ieithyddol uchel CBAC a gwneir hynny drwy drafod a chydweithio. Disgwylir i’r unigolyn wneud defnydd llawn o feddalwedd cof cyfieithu (Déjà Vu) wrth ei waith bob dydd, felly byddai’n fanteisiol i unrhyw ymgeisydd fod â phrofiad o weithio gyda meddalwedd cof cyfieithu.
Yr unigolyn
I ffynnu yn y rôl hon, byddwch chi’n aelod cydwybodol a gweithgar o’r tîm ac yn gallu cyfathrebu’n rhwydd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gallwch dalu sylw gofalus a manwl gywir i’ch gwaith a bydd gennych ddiddordeb ym maes terminoleg y Gymraeg. Byddwch chi’n cydweithio’n agos ag aelodau eraill y Tîm Cyfieithu ac aelodau’r Gwasanaeth Iaith yn ehangach, ond byddwch chi hefyd yn gallu gweithio’n annibynnol i gyflawni tasgau’n brydlon yn ôl amserlenni tynn. Mae CBAC yn un o’r cyrff sy’n ganolog i’r byd addysgu ac asesu yng Nghymru ac mae’n bwysig bod ei ddeunyddiau’n cyfateb i’r hyn sydd ar gael yn ehangach.
Ein buddion
Yn CBAC, rydym yn falch o fod yn lle cynhwysol a chefnogol i weithio. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion ardderchog, gan gynnwys: 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (yn ogystal ag 16 o wyliau statudol / ychwanegol) wedi’u haddasu ar gyfer patrymau gweithio rhan-amser / cywasgedig, gwersi Cymraeg am ddim, cynllun pensiwn hael a nifer o bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd. Gall dilyn gyrfa gyda CBAC fod yn hynod o werthfawr a byddwch chi’n cael eich annog i ddilyn y cyfleoedd gwych sydd ar gael i ddatblygu eich sgiliau, yn broffesiynol ac yn bersonol.
Rydyn ni’n gweithredu model gweithio hybrid, sy’n galluogi’r ymgeisydd llwyddiannus i rannu ei amser rhwng gweithio yn swyddfeydd CBAC a gweithio gartref, yn dibynnu ar anghenion y busnes. Gwahoddir ceisiadau felly gan unigolion ar draws y DU ond bydd gofyn gweithio’n rheolaidd o’n swyddfeydd yng Nghaerdydd – er y gellir trafod rhywfaint o hyblygrwydd o ran hyn, mae’r tîm yn mynychu’r swyddfa 1 diwrnod y mis.
Os hoffech wybod mwy am y rôl hon, neu am weithio yn CBAC, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm Adnoddau Dynol (AD@cbac.co.uk), a fydd yn fwy na pharod i helpu.
Rôl cyfrwng Cymraeg yw hon felly bydd gofyn i unrhyw ymgeiswyr ddangos eu gallu i’r safon ddigonol yn rhan o’u cais.
Dyddiad cau: 23:59; dydd Sul 20 Medi 2026
Cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 28 Medi 2026
The above advertisement is for a post as Translator at WJEC. Fluency in Welsh and English is an essential requirement for the post. Applications should be submitted bilingually or through the medium of Welsh.
SWYDD-DDISGRIFIAD
Teitl y Swydd: Cyfieithydd (Cymraeg)
Adran: Gwasanaeth Iaith
Is-Adran: Cyfieithu
Yn atebol i: Arweinydd yr Uned Gyfieithu
Graddfa: 6
Lleoliad: Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd
Prif ddiben y Swydd:
Cyfrannu at y gwaith o ddarparu gwasanaeth dwyieithog llawn yn CBAC. Bydd gofyn gwneud defnydd llawn o dechnoleg cyfieithu o ddydd i ddydd er mwyn cyflawni’r gwaith.
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau:
Dan gyfarwyddyd cyffredinol Arweinydd yr Uned Gyfieithu:
- Gweithio fel rhan o dîm cyfieithu prysur yn ateb gofynion cyfieithu corff sy’n cyflym ddatblygu.
- Gwneud gwaith cyfieithu, golygu neu ddarllen proflenni dogfennau a gynhyrchir yn fewnol (gall y rhain cynnwys deunyddiau gweinyddol ar gyfer canolfannau, deunyddiau pwnc-benodol ac amrywiaeth o ddeunyddiau corfforaethol e.e. cyllid, AD, Marchnata) neu olygu a darllen proflenni gwaith unrhyw ddogfennau a gyfieithir yn allanol.
- Sicrhau y dilynir yr arddull a’r cywair priodol ar gyfer y gynulleidfa darged wrth gyfieithu gan ddefnyddio Arddulliadur ac Arddulliadur Papurau Cwestiynau CBAC
- Gwneud defnydd llawn o feddalwedd cyfieithu Déjà vu yn ddyddiol ar gyfer cwblhau unrhyw waith cyfieithu gan gyfrannu at gefnogi’r defnydd o’r cof.
- Ymgynghori â’r rheolwr llinell ynglŷn â’r hyn sy’n angenrheidiol gan weithio’n ôl gweithdrefnau addas a blaengynllunio’n effeithiol.
- Darparu cyfieithiadau o ddydd i ddydd o unrhyw ohebiaeth cyfrwng Cymraeg a gyfeirir at aelodau o’r staff nad ydynt yn medru’r Gymraeg a chyfieithu’r ymateb i ohebiaeth o’r fath i’r Gymraeg.
- Gallu gweithio’n hyblyg ac ar adegau yn fyrfyfyr er mwyn ateb gofynion y Gwasanaeth Iaith a CBAC yn ehangach ar fyrder.
- Cyfrannu at unrhyw drafodaeth â golygyddion y Gwasanaeth Iaith yn rhan o’r gwaith bob dydd o ddatblygu gwasanaeth dwyieithog o safon yn CBAC.
- Yn rhan o hyn, cyfrannu at waith termau’r Gwasanaeth Iaith sy’n cynnwys cydweithio â Chanolfan Bedwyr.
Arall
- Deall a chydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau CBAC a nodir yn y Llawlyfr Staff; yn benodol, sicrhau eich bod yn deall eich rôl a’ch cyfrifoldebau mewn perthynas â Diogelu, Diogelwch Gwybodaeth, GDPR, Cyfrinachedd, yr iaith Gymraeg ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
- Cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gefnogi egwyddorion ac arfer cydraddoldeb cyfle fel y’i nodir ym Mholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth CBAC, gan ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym mhob project, polisi ac arfer.
- Bod yn aelod rhagweithiol o’r tîm, gan gyfrannu’n gadarnhaol at gyfarfodydd a phrojectau i gefnogi nodau ac amcanion CBAC.
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu personol a phroffesiynol sy’n berthnasol i’r rôl.
- Ymgymryd â dyletswyddau eraill yn ôl y galw sy’n gymesur â gradd y swydd.
Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn

