Uwch Swyddog Prosiect, Cymru

Teitl Swydd
Uwch Swyddog Prosiect, Cymru
Enw’r Cwmni
Ymddiriedolaeth Lythrennedd Genedlaethol
Lleoliad
Gweithio gartref / Caerdydd
Cyflog
£28,500 y flwyddyn, pro rata (0.8 cyfwerth ag amser llawn) / £22,800 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 06/10/2026

Rhan-amser, 28 awr yr wythnos
Contract cyfnod penodol hyd at ddiwedd mis Chwefror 2028
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd fel rôl gweithio gartref

Rydyn ni’n grymuso pobl â’r sgiliau llythrennedd y mae arnyn nhw eu hangen i lwyddo mewn bywyd. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n helpu pobl i newid eu straeon. Fe allech chi ymuno â ni i gefnogi prosiect newydd cyffrous yn gweithio gyda thadau, teidiau a gofalwyr gwrywaidd eraill yng Nghaerdydd.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Byddwch yn arwain y broses o gyflwyno prosiect peilot o ddydd i ddydd ledled Caerdydd, gan gynnwys popeth o ddatblygu partneriaethau ac ymchwil i gyflawni. Prosiect newydd arloesol yw hwn sy’n archwilio sut gall gwirfoddoli ennyn ymgysylltiad tadau, teidiau, a gofalwyr gwrywaidd yn well wrth gefnogi llythrennedd ac addysg eu plant. Gan weithio ar y cyd ar draws yr Ymddiriedolaeth Lythrennedd Genedlaethol a chydag amrywiaeth o bartneriaid allanol, byddwch yn sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei amcanion, ei gerrig milltir a’i ofynion adrodd ar yr un pryd â chynhyrchu gwybodaeth werthfawr sy’n llywio arferion gwirfoddoli yn y dyfodol.

Byddwch wedi’ch lleoli yn ein tîm cymunedau, ac yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr o bob rhan o’r sefydliad, gan gynnwys ein tîm yng Nghymru yn ogystal â’n timau addysg, cymunedau, cyfathrebu, ymchwil a gwerthuso. Bydd rhanddeiliaid allanol yn cynnwys sefydliadau cymunedol, sefydliadau cymorth teulu, partneriaid cyflawni, ysgolion, rhiant-wirfoddolwyr, llyfrgelloedd, rhwydweithiau addysg, partneriaid iaith Gymraeg, sefydliadau ymchwil a gwirfoddoli ledled Cymru, a’r cyfryngau lleol a chenedlaethol.

Mae’r rôl hon wedi’i lleoli yng Nghaerdydd a bydd yn cynnwys teithio’n rheolaidd o amgylch yr ardal. Bydd rhywfaint o deithio cenedlaethol, hefyd – ar gyfer ein diwrnodau i ffwrdd sefydliadol, a gynhelir yn Llundain deirgwaith y flwyddyn, yn ogystal ag oddeutu tri diwrnod tîm y flwyddyn. Telir yr holl gostau teithio.

Beth rydyn ni’n chwilio amdano

Bydd gennych sgiliau ymchwil cryf a’r gallu i ddadansoddi data o amrywiaeth o ffynonellau. Bydd gennych hefyd brofiad o ddatblygu a rheoli partneriaethau a chyflawni rhaglenni cymunedol/gwirfoddol. Bydd angen i chi fyw yn ardal Caerdydd, neu o fewn cyrraedd rhwydd iddi, a meddu ar ddealltwriaeth dda o’r gymuned a’i theuluoedd i allu eu cynnwys yn y broses o gynllunio a chyflawni’r rhaglen.

O ganlyniad i natur y rôl, bydd arnoch angen trwydded yrru a mynediad i’ch cerbyd eich hun. Byddwch yn rheoli cyflenwadau llyfrau a danfoniadau, yn ogystal ag adnoddau eraill, a bydd hyfforddiant codi a chario’n cael ei ddarparu.

Mae’r rôl hon yn ddarostyngedig i wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â’n polisi diogelu a’n gweithdrefnau recriwtio mwy diogel.

Pam mae ein gwaith mor allweddol

Mae llythrennedd yn newid popeth.

Mae’n rhoi’r offer i chi fanteisio i’r eithaf ar fywyd, a’r pŵer i ffurfio eich dyfodol. Mae’n allwedd i wybodaeth, hyder ac ysbrydoliaeth. Mae’n ganlyniadau gwell yn yr ysgol, a swyddi gwell. Os bydd plant yn tyfu heb yr offer i gyfathrebu, heb lyfrau i’w darllen neu gyfleoedd i ysgrifennu, bydd yn anoddach iddynt gyrraedd eu nod.

Elusen annibynnol yw’r Ymddiriedolaeth Lythrennedd Genedlaethol sy’n helpu pobl i oresgyn yr heriau hyn a newid eu cyfleoedd mewn bywyd trwy bŵer geiriau – darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando. O eiriau cyntaf, ar hyd yr ysgol i hyfforddiant, swyddi a thu hwnt.

  • Rydyn ni’n gweithio ar y cyd mewn cymunedau lleol, gan ganolbwyntio ein gwaith ar 20 ardal o’r Deyrnas Unedig sy’n wynebu’r heriau mwyaf.
  • Rydyn ni’n cynorthwyo ysgolion, gan ddatblygu’r offer a’r technegau mwyaf effeithiol a darparu adnoddau a rhaglenni i ymgysylltu â phlant a’u hysbrydoli.
  • Rydyn ni’n ymgyrchu i wneud llythrennedd yn flaenoriaeth i wleidyddion a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
  • Rydyn ni’n cynorthwyo oedolion agored i niwed, pobl yn y system cyfiawnder troseddol a sefydliadau troseddwyr ifanc i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd.

Beth rydyn ni’n ei gynnig i chi

Mae ein tîm yn frwd ynglŷn â’n cenhadaeth ac mae gennym ddiwylliant gwaith cryf a chadarnhaol, wedi’i seilio ar werthoedd a rennir a pharch. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o opsiynau gweithio hyblyg ac yn hyrwyddo gweithle lle gallwch fod yn chi eich hun a chyfrannu at ein llwyddiant, pwy bynnag yr ydych chi.

Yn ogystal â chyflog cystadleuol, rydyn ni’n cynnig buddion eraill gan gynnwys lwfans gwyliau hael sy’n dod i gyfanswm o 39 diwrnod (gan gynnwys gwyliau banc a chau’r swyddfa rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd), cyfraniadau pensiwn o 8% o’r cyflog blynyddol, cynllun beicio i’r gwaith, rhaglen cymorth i gyflogeion a buddion iechyd a lles eraill.

Manylion ymgeisio

Ein pobl yw ein hased pwysicaf ac rydyn ni’n gwerthfawrogi a pharchu amrywiaeth ar bob ffurf (gweledig ac anweledig). Rydyn ni’n arbennig o awyddus i gael ceisiadau gan bobl o gefndiroedd Du ac Asiaidd, yn ogystal ag ymgeiswyr ag anableddau ac o’r cymunedau rydyn ni’n gweithio ynddynt. Hoffem gynyddu cynrychiolaeth y grwpiau hyn ymhlith ein staff gan ein bod yn gwybod y bydd mwy o amrywiaeth yn cynyddu effaith ein gwaith yn fwy fyth.

I wneud cais: cliciwch yma

Dyddiad cau: 6 Hydref 2026

Sylwch nad ydym yn derbyn CVs. Dim asiantaethau na safleoedd recriwtio. Rhif elusen gofrestredig 1116260 (Cymru a Lloegr) a SC042944 (yr Alban).

Please note: While Welsh language skills are desirable for this role, we are currently only able to accept applications submitted in English. We value the Welsh language and are committed to increasing our capacity to communicate and deliver services bilingually by growing the number of Welsh-speaking staff across our organisation.

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y botwm Gwneud Cais isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.