Swyddog Datblygu Cymunedol

Teitl Swydd
Swyddog Datblygu Cymunedol
Enw’r Cwmni
Menter Iaith Maldwyn
Lleoliad
Swyddfa Drenewydd (Caniateir gweithio o adref)
Cyflog
£26,000
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 09/10/2026

Mae Menter Iaith Maldwyn yn edrych am unigolyn brwdfrydig i ymuno ẩ’r tîm i hyrwyddo’r Gymraeg ym Maldwyn.

Fel rhan o ddyletswyddau’r Swyddog Datblygu byddai disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus:

– Ddatblygu a hyrwyddo cysylltiadau a phartneriaethau er mwyn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ym Maldwyn;
– Cydweithio â phartneriaid y Fforwm Sirol i gefnogi unrhyw weithgaredd sy’n bodoli eisoes trwy gyfrwng y Gymraeg a llenwi bylchau yn y ddarpariaeth bresennol;
– Ymgymryd â rhai dyletswyddau gweinyddol y Fenter;
– Trefnu gweithgareddau Cymraeg yn y gymuned;
– Gweithio â theuluoedd a rheini â phlant ifanc ar brosiectau a chynlluniau i hybu’r defnydd o Gymraeg;
– Cynnal prosiectau cyfredol ynghyd â chreu prosiectau newydd, arloesol a chreadigol;
– Datblygu gwaith y Fenter gan adnabod cyfleoedd datblygu a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg
– Creu a pharatoi deunyddiau marchnata a datblygu ymgyrchoedd marchnata penodol fel bo’r angen a chodi proffil y Fenter yn y wasg lleol a chenedlaethol;
– Gweithio ar y cyd â’r Pwyllgor Rheoli, Prif Swyddog a Staff Menter Iaith Maldwyn i gyflawni nod ac amcanion y Fenter yn llwyddiannus
– Gweithio i gyflawni targedau Llywodraeth Cymru a chefnogi Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg
– Paratoi ceisiadau am nawdd ar gyfer datblygu a chyllido prosiectau a gweithgareddau;
– Cynorthwyo i reoli gwariant cyllideb prosiectau a gweithgareddau’r Fenter;
– Mynychu cyfarfodydd ar ran y Prif Swyddog pan fo angen.

Mae’n hanfodol fod yr ymgeisydd llwyddiannus:
 – yn dangos ymrwymiad brwd i’r iaith Gymraeg a datblygiad cymunedol
– yn meddu ar sgiliau cyfathrebu ardderchog yn y Gymraeg a Saesneg, yn ysgrifenedig ac ar lafar

– yn frwdfrydig a chreadigol
– yn drefnus
– yn gallu cydweithio ag eraill ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol ardderchog
– gallu datblygu prosiectau o ddydd i ddydd
– gallu rhwydweithio ar draws sectorau ar lefel gymunedol
– barod i weithio’n annibynnol neu dan arweiniad
– barod i weithio oriau hyblyg ac anghymdeithasol sy’n cynnwys gyda’r hwyr /penwythnosau
– fodlon cael archwiliad manwl Biwro Cofnodi Troseddau (CRB)
– gallu defnyddio cyfrifiadur a meddalwedd priodol yn hyderus
– gallu gyrru a chael defnydd o fodur

Byddai o fantais i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y canlynol:
– ​Byddai safon addysgiadol hyd at radd yn ddymunol ond ddim yn hanfodol
– Byddai profiad o weithio gyda phlant bach yn ddymunol, ond ddim yn hanfodol
 

Sut i wneud cais

Am ffurflen gais, e-bostiwch : rhian@mentermaldwyn.cymru