Uwch-gyfieithydd
Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol
Dyddiad diwedd y contract: 12/11/2027
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg: C2 – Lefel hyfedredd uwch
Dyddiad cau: 11/10/2026
Y rôl
Ydych chi’n angerddol am y Gymraeg? Oes gennych chi sgiliau iaith creadigol rhagorol ac ydych chi’n mwynhau helpu eraill gyda’u hanghenion o ran y Gymraeg?
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn chwilio am Uwch-gyfieithydd profiadol a brwdfrydig i ymuno â’n Tîm Cyfieithu prysur.
Gan adrodd i Arweinydd y Tîm Cyfieithu, byddwch yn ymuno â thîm bach o gyfieithwyr proffesiynol ac yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith cyfathrebu CNC â chwsmeriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd ehangach – a hynny gyda Chymraeg clir, cywir a darllenadwy.
Fel Uwch Gyfieithydd, byddwch yn helpu i sicrhau cynnwys Cymraeg o safon uchel – yn gyson, yn greadigol, ac o fewn terfynau amser tynn. Byddwch yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddarparu cyngor a chymorth ieithyddol arbenigol, gan helpu i ddiogelu a gwella enw da CNC a chefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dyma gyfle cyffrous i gyfieithydd medrus sy’n angerddol am safon iaith, datblygu terminoleg a darparu gwasanaeth dwyieithog rhagorol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag Garmon Jones at Garmon.Jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 23/10/2026 ar Microsoft Teams.
Mae’r swydd hon swydd dros dro hyd at 12 Tachwedd 2027.
Amdanom ni
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw prif gorff amgylcheddol Cymru. Rydym yn gweithio i ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol Cymru, gan helpu pobl, cymunedau a busnesau i gael budd o reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy – nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r rôl hon yn y Tîm Cyfieithu, sy’n rhan o’r Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnach. Mae’r gyfarwyddiaeth yn chwarae rhan hanfodol o ran sut mae CNC yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â chwsmeriaid, partneriaid a rhanddeiliaid, gan helpu i feithrin ymddiriedaeth, cryfhau perthnasoedd a darparu gwasanaethau rhagorol. Mae’r gyfarwyddiaeth yn ganolog i gyflawni uchelgeisiau corfforaethol CNC, gan gynnwys ein hymrwymiadau i dryloywder, canolbwyntio ar gwsmeriaid, a thrawsnewid digidol.
Fel rhan o’r Tîm Cyfieithu, byddwch yn cyfrannu at sicrhau bod y Gymraeg wrth wraidd ein cyfathrebu. Drwy ddarparu gwasanaethau cyfieithu a chyngor ieithyddol o safon uchel, mae’r tîm yn cefnogi cydweithwyr ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfathrebu’n glir, yn gyson ac yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan ein helpu i ddiwallu anghenion y bobl a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ledled Cymru.
Mae ymuno â CNC yn golygu dod yn rhan o sefydliad sy’n gwerthfawrogi arbenigedd, cydweithio ac arloesedd, gan wneud cyfraniad ystyrlon at ddyfodol amgylchedd Cymru a’r iaith Gymraeg.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Helpu i ddarparu gwasanaeth cyfieithu a phrawfddarllen Cymraeg o safon uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
- Cyfieithu a phrawfddarllen ystod eang o ddogfennau i safon uchel iawn i fodloni gofynion ein polisi iaith Gymraeg a’n harddull ysgrifennu mewnol.
- Arwain ar sicrwydd ansawdd digonol ar gyfer gwasanaeth allanol Cyfoeth Naturiol Cymru, gan fonitro cysondeb a glynu wrth arddull y tîm.
- Cyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid i ddarparu lefelau uchel o wasanaeth a rheoli disgwyliadau’n effeithiol.
- Cyfrannu at gynllunio llif gwaith i sicrhau gwasanaeth llyfn a chyson.
- Rhoi sylw manwl i fanylion er mwyn cynnal safonau proffesiynol.
- Cynnal system gadw cofnodion effeithlon er mwyn olrhain galw a chostau.
- Meithrin perthnasoedd yn fewnol ac yn allanol i gefnogi darparu gwasanaethau dwyieithog gwell.
- Rhoi cyngor arbenigol i aelodau eraill o staff, gan ddefnyddio barn gadarn a’ch sgiliau proffesiynol, yn enwedig o ran terminoleg a chysondeb.
- Mentora a chefnogi aelodau eraill o’r tîm a chwilio’n rhagweithiol am ffyrdd o wella’n ehangach.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun a’ch tîm drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad helaeth o weithio fel cyfieithydd.
- Gwybodaeth weithredol o Microsoft Office a meddalwedd cof cyfieithu.
- Y gallu i ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol.
- Aelodaeth lawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, neu barodrwydd i weithio tuag at aelodaeth lawn.
- Ymwybyddiaeth o Safonau’r Gymraeg a pholisïau cysylltiedig sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
- Sgiliau rhyngbersonol da, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Ymwybyddiaeth o Safonau’r Gymraeg a pholisïau cysylltiedig sy’n ymwneud â’r Gymraeg.
- Dealltwriaeth a gwybodaeth am gylch gwaith, rolau, polisïau a blaenoriaethau CNC.
- Y gallu i wneud penderfyniadau da, yn arbennig o ran terminoleg a’r defnydd o’r Gymraeg.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: C2 – Lefel hyfedredd uwch
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r Gofynion y Gymraeg y rôl hon ni fydd eich cais yn cael ei ei adolygu.
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Oni nodir yn wahanol yn yr adran ‘Rôl’ yn yr hysbyseb hon, ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gynnig nawdd fisa ar gyfer y swydd hon. Er bod gennym drwydded ar gyfer nawdd fisa i Weithwyr Medrus, mae ond yn berthnasol i rolau penodol sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a’r gofynion cyflog a nodir gan Lywodraeth y DU o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

