Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid

Teitl Swydd
Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid
Enw’r Cwmni
NatWest Group
Lleoliad
Bangor / Hybrid
Cyflog
£27,090 y flwyddyn (pro rata yn ôl yr oriau a weithir)
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 31/10/2026

Trosolwg:

Yn y rôl hon, byddwch yn defnyddio’ch arbenigedd mewn gwasanaeth cwsmeriaid wrth ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid a’u cyfeirio ymlaen. Boed hynny’n golygu cyflawni trafodion bancio o ddydd i ddydd, fel talu biliau, neu helpu ein cwsmeriaid i nodi’r cynhyrchion a’r gwasanaethau sy’n addas iddynt, chi fydd ar ben arall y ffôn yn ateb eu galwadau.

Enw’r Cyflogwr: NatWest Group

Cyflog: £27,090 y flwyddyn (pro rata yn ôl yr oriau a weithir)

Lleoliad: Bangor / Hybrid

Byddwch yn treulio rhan o’ch amser yn gweithio gartref gyda’ch tîm drwy ddulliau digidol. Byddwch hefyd yn gweithio’n rheolaidd yn eich swyddfa neu’ch hwb er mwyn cydweithio â’ch cydweithwyr.

Lefel mynediad

Mae hyn yn rhoi syniad cyffredinol yn unig ac nid yw bob amser yn adlewyrchu’r cyfrifoldebau o ddydd i ddydd. Gweler y disgrifiad swydd am y manylion llawn.

Disgrifiad swydd

Mae’r rôl hon wedi’i lleoli yn y Deyrnas Unedig ac felly rhaid ichi weithio yn y Deyrnas Unedig ar bob diwrnod gwaith arferol.

Ymunwch â ni fel Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid ym Mangor, Gogledd Cymru.

– Chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cymorth i’n cwsmeriaid bancio personol yn un o’n timau bancio dros y ffôn
– Byddwn yn disgwyl ichi ddarparu gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid, gan gadw eu hanghenion a’u nodau ariannol mewn cof bob amser
– Byddwch yn addysgu cwsmeriaid am y gwahanol ffyrdd y gallant fancio ac yn eu cefnogi i ddewis yr opsiynau sy’n gweithio orau iddynt
– Nid yw’r swydd hon yn bodloni’r gofynion nawdd ar gyfer fisa Gweithiwr Medrus

Yr hyn y byddwch yn ei wneud

Yn y rôl hon, byddwch yn defnyddio’ch arbenigedd mewn gwasanaeth cwsmeriaid wrth ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid a’u cyfeirio ymlaen. Boed hynny’n golygu cyflawni trafodion bancio o ddydd i ddydd, fel talu biliau, neu helpu ein cwsmeriaid i nodi’r cynhyrchion a’r gwasanaethau sy’n addas iddynt, chi fydd ar ben arall y ffôn yn ateb eu galwadau.

Fel Cynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid, byddwn yn dibynnu arnoch i egluro’r opsiynau sydd ar gael i’n cwsmeriaid wrth fancio gyda ni, fel y gallant wneud dewisiadau gwybodus.

Byddwch yn helpu ein cwsmeriaid drwy wneud y canlynol:

– Cael effaith gadarnhaol ym mhob galwad gyda chwsmer drwy gynnal y sgyrsiau cywir yn effeithlon ac yn effeithiol er mwyn diwallu eu hanghenion
– Datrys problemau, meithrin perthnasoedd rhagorol dros y ffôn a darparu gwasanaeth cyfeillgar, amserol a phroffesiynol
– Meithrin cysylltiadau gwirioneddol â chwsmeriaid ac ymroi i ddod o hyd i’r ateb cywir i ddiwallu eu hanghenion
– Gwella prosesau a gweithdrefnau er mwyn sicrhau’r lefel uchaf bosibl o foddhad cwsmeriaid ac effeithlonrwydd
– Cynnal gwybodaeth fanwl am gynhyrchion a gwasanaethau ariannol er mwyn helpu i ddatrys ymholiadau cymhleth gan gwsmeriaid

Y sgiliau y bydd eu hangen arnoch

Mae hon yn rôl sy’n cael ei harwain gan anghenion cwsmeriaid, felly mae profiad blaenorol o weithio mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid yn ddelfrydol. Bydd profiad o weithio dros y ffôn yn fantais, ond nid yw’n hanfodol. I lwyddo yn y rôl hon, bydd angen ichi allu siarad a chyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae ymroddiad ac angerdd dros helpu cwsmeriaid yn hanfodol. Byddwch yn rhywun sy’n mwynhau gweithio gyda phobl ac sydd â sgiliau gwrando a chyfathrebu rhagorol.

Rydym hefyd am ichi ddangos:

– Y penderfynoldeb i fynd yr ail filltir dros ein cwsmeriaid bob dydd er mwyn darparu gwasanaeth sydd wir yn bersonol
– Y gallu i sicrhau canlyniadau o safon gan roi sylw manwl i fanylion
– Sgiliau da wrth ddefnyddio bysellfwrdd a’r gallu i ymdrin â sawl tasg ar yr un pryd, gan eich galluogi i symud rhwng gwahanol systemau a phrosesu gwybodaeth wrth siarad â chwsmeriaid
– Sgiliau trefnu da a brwdfrydedd dros barhau i ddysgu a datblygu sgiliau newydd

Beth arall y bydd angen ichi ei wybod

Rydym yma i’n cwsmeriaid, beth bynnag fo’r amser o’r dydd neu’r nos, felly bydd angen ichi fod yn hyblyg ac ymrwymo i weithio ar sail rota.

Bydd eich oriau gwaith rhwng 8am a 6pm, o ddydd Llun i ddydd Sul, a byddwch yn gweithio sifftiau ar sail rota. Rhaid ichi fod yn gwbl hyblyg ac yn gallu gweithio unrhyw un o’r oriau hyn.

Mae gweithio ar wyliau banc yn rhan o’r rôl hon.

Byddwch yn cael rhaglen hyfforddi gynhwysfawr, ynghyd ag arweiniad a chymorth parhaus i hybu’ch datblygiad. Pan fyddwch yn barod, byddwn yn eich helpu i fynd â’ch gyrfa i’r lefel nesaf.

Sut byddwn yn eich gwobrwyo

Cyflog: £27,090 y flwyddyn (pro rata yn ôl yr oriau a weithir)

Byddwch yn ymuno â ni ar gyflog cystadleuol o £27,090 ac, yn ogystal â hynny, byddwch yn cael cyfraniad i’ch helpu i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad. Gallwch ddewis o blith amrywiaeth o fuddion diogelu, gofal iechyd neu ffordd o fyw drwy NatWest Group Benefits, ein rhaglen wobrwyo gwbl hyblyg.

Bydd gennych hawl hael i 33 diwrnod o wyliau, pro rata yn ôl yr oriau a weithir. Efallai y bydd gofyn ichi weithio ar wyliau banc.

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y botwm “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.