Rheolwr Adnoddau Dynol
Cytundeb parhaol
Cyfle AD cyffrous o fewn Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Sefydlwyd y Comisiwn Brenhinol ym 1908 ac fe’i noddir gan Lywodraeth Cymru. Fel y corff ymchwilio ac archif genedlaethol ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru, mae ganddo rôl arweiniol wrth sicrhau bod treftadaeth archeolegol, adeiledig a morwrol Cymru yn cael ei chofnodi’n awdurdodol; mae hefyd yn ceisio hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r dreftadaeth hon, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r Comisiwn yn cadw Cofnod Cenedlaethol Henebion Cymru (NMRW) – sef yr adnodd gwybodaeth cenedlaethol sy’n ymwneud ag archeoleg, pensaernïaeth, a hanes diwydiannol a morwrol Cymru.
Rheolwr AD
Gan ateb i’r Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol, mae’r Rheolwr Adnoddau Dynol yn gyfrifol am sicrhau bod y Comisiwn yn cyflawni ei amcanion strategol trwy reoli ei swyddogaeth adnoddau dynol yn effeithiol.
Mae’r swydd yn rhan o dîm Gwasanaethau Corfforaethol y Comisiwn Brenhinol, sy’n cynnwys pedwar prif faes gweithgaredd: Cyllid a Gweithrediadau, Ymchwil a Datblygu Busnes, Adnoddau Dynol, a Chymorth Corfforaethol.
Cyflog: £37,112 to £45,379 y flwyddyn (a buddion)
Oriau gwaith: 29.6 awr yr wythnos dros 4 diwrnod. (Yn cyfateb i 0.8 o swydd llawn amser).
Am sgwrs anffurfiol plîs cysylltwch â Helen Pugsley, Rheolwr AD ar 01970 621220 neu thrwy e-bost: helen.pugsley@rcahmw.gov.uk
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth a ffurflen gais yma: RCAHMW | Gweithio i’r Comisiwn | Swyddi sy’n Wag ar hyn o bryd.
Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw 09:00, 09 Tachwedd 2026

