Rheolwr Cyffredinol – Grŵp Eiddo Sir Gaerfyrddin a Cheredigion
Parhaol, Llawn-amser (37.5 awr yr wythnos)
Crynodeb
Rydym yn chwilio am arweinydd strategol, cynhwysol, ac sy’n gallu ysbrydoli i ddod yn Rheolwr Cyffredinol nesaf Grŵp Eiddo Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Dyma gyfle prin i arwain portffolio amrywiol o leoedd ar draws Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. O dirweddau hanesyddol Dinefwr a Llanerchaeron, i unig fwynglawdd aur Rhufeinig hysbys y DU yn Nolaucothi ac arfordir anhygoel Ceredigion, mae’r portffolio yn cynrychioli’r gorau o dreftadaeth naturiol, ddiwylliannol a hanesyddol Cymru.
Fel Rheolwr Cyffredinol, byddwch yn arwain y lleoedd arbennig hyn ynghyd â chwarae rôl bwysig o fewn y tîm arweinyddiaeth ehangach yng Nghymru. Gyda’ch gilydd, byddwch yn helpu i sicrhau bod mwy o bobl ledled Cymru yn gallu profi byd natur, harddwch a threftadaeth, a chael budd ohonynt.
Yn ganolog i’r swydd hon mae’r gred y dylai byd natur, harddwch a threftadaeth fod i bawb. Byddwch yn helpu’r Ymddiriedolaeth gyrraedd ac ymgysylltu â mwy o bobl, wrth sicrhau bod y lleoedd sydd yn ein gofal yn parhau i fod yn berthnasol ac yn groesawgar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Ymrwymiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw “I bawb, am byth.” Mae dod â’r addewid yna’n fyw yn dechrau gyda’r bobl sy’n gweithio yno. Mae’n golygu adeiladu timau gydag ystod amrywiol o gefndiroedd, diwylliannau a phrofiadau. Mae’n golygu creu amgylchedd cynhwysol lle gall pawb ffynnu.
Mae ein rolau’n agored i bawb. Fodd bynnag, rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o gymunedau sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd gan eu bod wedi’u tangynrychioli o fewn yr Ymddiriedolaeth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Mae hon yn swydd barhaol, llawn amser.
- Wedi’i lleoli ar draws Grŵp Eiddo Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, gyda theithio rheoliad ledled Cymru a theithio achlysurol i gyfarfodydd a digwyddiadau cenedlaethol.
- Bydd gofyn ichi weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau’n achlysurol.
Sut brofiad yw gweithio yma?
Gan adrodd i’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Mynediad, Trefol ac Ysbrydoli, byddwch yn rhan o dîm arweinyddiaeth gydweithredol sy’n gweithio ledled Cymru i sicrhau y gall rhagor o bobl gael mynediad at fyd natur, harddwch a threftadaeth, ac elwa ohono.
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â Rheolwyr Cyffredinol, Rheolwyr Cyflawni Arbennig, Penaethiaid Marchnata a Chyfathrebu a Materion Allanol, a’r Uwch Reolwr Prosiect sy’n arwain ein gwaith yn y Cymoedd. Gyda’ch gilydd, byddwch yn helpu i lywio a chyflawni uchelgeisiau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i roi diwedd ar fynediad anghyfartal, gan ddatblygu perthnasedd ac effaith ar gyfer cymunedau ledled Cymru.
Mae portffolio Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn un o grwpiau eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n helpu i arwain ein gwaith i Roi Diwedd ar Fynediad Anghyfartal i fyd natur a threftadaeth – ein huchelgais i sicrhau fod gan bawb y cyfle i elw o fyd natur, harddwch a threftadaeth.
Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr o bob rhan o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, byddwch yn datblygu ac yn cryfhau perthnasoedd gyda sefydliadau, cymunedau a chyrff cyhoeddus ledled Cymru. Gwyddom fod rhoi diwedd ar fynediad anghyfartal yn gofyn am gamau gweithredu ar y cyd a chydweithredu hirdymor sydd y tu hwnt i alluoedd un sefydliad unigol.
Bydd deall diwylliant, treftadaeth a chymunedau Cymru yn bwysig o ran helpu i feithrin perthnasoedd dilys a sicrhau fod ein gwaith yn adlewyrchu ac yn dathlu’r hyn sy’n gwneud Cymru’n unigryw. Yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, lle mae 39.9% a 45.3% o’r trigolion yn gallu siarad Cymraeg, yn y drefn honno, mae iaith a diwylliant yn rhan hollbwysig o fywyd cymunedol a hunaniaeth leol. Fel Rheolwr Cyffredinol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau fod gwaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi’i wreiddio yn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu, gan greu cysylltiadau ystyrlon a phobl a phartneriaid.
Byddwch yn arwain tîm o staff a gwirfoddolwyr angerddol, gan greu amgylchedd lle mae pobl yn teimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi ac yn gallu ffynnu. Bydd deall yr hyn sy’n helpu unigolion a thimau i ffynnu, a dod â phobl ynghyd drwy weledigaeth gyffredin, yn ganolog i’ch llwyddiant.
Eich gwaith
Byddwch yn darparu arweinyddiaeth amlwg sy’n ysbrydoli ar draws y grŵp eiddo, gan sicrhau bod timau yn teimlo eu bod wedi’u grymuso a’u cefnogi i gyflawni canlyniadau rhagorol ar gyfer pobl, natur a threftadaeth.
Mae hon yn swydd arweinyddiaeth eang sy’n symud rhwng cyflawni gweithredol, arwain pobl, meddwl yn strategol, meithrin partneriaethau a chynllunio busnes. Byddwch yn arwain gweithrediadau cymhleth wrth ddylanwadu ar newid, llywio’r dyfodol a chyflawni canlyniadau sy’n ymestyn y tu hwnt i’r lleoedd yn ein gofal.
Wrth weithio gyda chydweithwyr, cymunedau, partneriaid a rhanddeiliaid, byddwch yn helpu i lywio a chyflawni’r weledigaeth hirdymor ar gyfer y portffolio, gan gydbwyso blaenoriaethau strategol gyda pherfformiad gweithredol cryf a chynaliadwyedd ariannol. Byddwch yn dod â phobl ynghyd o gwmpas pwrpas cyffredin ac yn creu’r amodau i dimau allu ffynnu.
Bydd pob diwrnod yn wahanol. Un diwrnod, gallech fod yn cefnogi timau drwy heriau gweithredol, a’r diwrnod nesaf, gallech fod yn datblygu partneriaethau, yn dylanwadu ar ffordd o feddwl genedlaethol, yn llywio cynlluniau hirdymor neu’n ystyried cyfleoedd newydd i ehangu mynediad, perthnasedd ac effaith.
Yn ganolog i’r swydd hon mae ymrwymiad i ddatblygu pobl. Byddwch yn meithrin talent ac yn datblygu arweinwyr y dyfodol, yn creu diwylliant cynhwysol, uchelgeisiol, sy’n perfformio’n dda, ac yn groesawgar, cefnogol ac yn grymuso pobl i wneud eu gwaith gorau.
Gan hyrwyddo pob math o fynediad a chynhwysiant, byddwch yn helpu i gael gwared ar rwystrau sy’n atal pobl rhag mwynhau byd natur, treftadaeth a diwylliant, a thrwy hynny’n sicrhau bod ein lleoedd yn berthnasol ac yn groesawgar i ystod ehangach o gynulleidfaoedd. Y tu hwnt i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, byddwch yn chwarae rhan sylweddol wrth ddatblygu partneriaethau a dylanwadu ar eraill i gyflawni canlyniadau cyffredin ar gyfer pobl, natur a threftadaeth.
Bydd cyfrifoldeb dros berfformiad ariannol, cynhyrchu incwm, rheoli risg, cyflawni gweithredol a chynllunio busnes hefyd o fewn eich cylch gorchwyl. Byddwch yn sicrhau fod y portffolio yn parhau yn wydn, yn gynaliadwy ac yn fasnachol lwyddiannus wrth gadw at ein diben elusennol.
Ein hymgeisydd delfrydol
Bydd gennych:
- Brofiad amlwg o arwain timau amrywiol, creu diwylliant lle gall pobl berfformio ar eu gorau a chyflawni canlyniadau sefydliadol uchelgeisiol.
- Sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu ardderchog, gyda’r gallu i feithrin ymddiriedaeth, dylanwadu ar eraill a chyfathrebu gweledigaeth glir.
- Arddull arweinyddiaeth gydweithredol, gyda phrofiad o ddwyn ynghyd gydweithwyr, cymunedau, partneriaid a rhanddeiliaid o gwmpas nodau cyffredin.
- Sgiliau strategol a gweithredol effeithiol, gan gynnwys profiad o reoli cyllidebau, risg a pherfformiad sefydliadol, gyda’r gallu i droi gweledigaeth yn gamau gweithredu ymarferol gydag effaith barhaus.
- Dull entrepreneuraidd a chyda meddylfryd masnachol, gyda phrofiad o gynllunio busnes, rheoli ariannol, cynhyrchu incwm a nodi cyfleoedd ar gyfer twf cynaliadwy.
- Profiad o arwain drwy gyfnodau o gymhlethdod, newid a thrawsnewid gan gynnal ffocws ar gyflawni a chanlyniadau.
- Profiad amlwg o feithrin perthnasoedd effeithiol gydag ystod eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys cymunedau lleol, grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli, partneriaid, gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid allanol.
- Dealltwriaeth o ddiwylliant, treftadaeth a chymunedau Cymru, ynghyd ag ymrwymiad i sicrhau bod y rhain yn cael eu hadlewyrchu, eu dathlu a’u rhannu drwy ein gwaith.
Rydym yn falch o’r rhan mae’r Gymraeg yn ei chwarae yn y llefydd a’r cymunedau rydym yn gofalu amdanynt ar hyd a lled Cymru. P’un a ydych chi’n siaradwr Cymraeg rhugl neu’n ddysgwr, byddwn yn eich cefnogi i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen ar gyfer eich swydd ac er mwyn ymgysylltu gydag iaith a diwylliant Cymru fel rhan o weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ar gyfer y swydd hon, rydym yn chwilio am o leiaf Lefel 2, a bydd disgwyl ichi weithio tuag at Lefel 3 o fewn 12 mis. Gweler y Fframwaith Cymhwysedd Iaith Gymraeg sydd ynghlwm am fanylion y sgiliau iaith Gymraeg sy’n gysylltiedig â’r lefelau hyn.
Er bod dealltwriaeth gref o ddiwylliant, treftadaeth a chymunedau Cymru’n bwysig, ni fydd angen ichi fod yn arbenigwr technegol mewn cadwraeth, rheoli treftadaeth nac adfer byd natur. Mae gennym eisoes dimau arbenigol ac yn chwilio am arweinwyr sy’n gallu dod â phobl ynghyd, datblygu gallu, ysbrydoli eraill a chreu’r amodau ar gyfer llwyddiant.
Y Broses Recriwtio
- Bydd cyfweliadau cam cyntaf ar-lein yn cael eu cynnal ddydd Llun y 23ain a dydd Mawrth y 24ain o Dachwedd.
- Bydd yr Ail Gam, y Diwrnod Asesu ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, yn cael ei gynnal ddydd Mawrth y 1af o Ragfyr.
- Dylai ymgeiswyr anelu at fod ar gael ar gyfer dau gam y broses recriwtio.
Cliciwch ar “Gwneud Cais” am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.

