Swyddog Busnes Cyllid Ymchwil, Datblygu ac Arloesi

Teitl Swydd
Swyddog Busnes Cyllid Ymchwil, Datblygu ac Arloesi
Enw’r Cwmni
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Lleoliad
Canolfan Ganser Felindre, Caerdydd
Cyflog
£32,557 to £39,631 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 03/11/2026

Mae’r swydd hon yn rhan o’r Tîm Cyllid sy’n adrodd i’r Uwch Bartner Busnes Cyllid Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yng Nghanolfan Ganser Felindre. Bydd deiliad y swydd yn darparu cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth gynhwysfawr ar gyfer rheolaeth ariannol ar draws portffolio Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (RD&I) o fewn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. 

Bydd y rôl yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth rheolaeth ariannol o ansawdd uchel, gan sicrhau adrodd, monitro a rhagfynegi ariannol cywir o weithgarwch a chyllidebau Ymchwil, Datblygu ac Arloesi. 

Bydd cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys cynhyrchu adroddiadau ariannol misol amserol a chywir, gwaith costio blynyddol ac ad hoc (gan gynnwys costio astudiaethau ymchwil a threialon clinigol), dadansoddi ariannol, darparu cyngor ariannol, a chefnogaeth i dîm rheoli Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a deiliaid cyllideb. 

Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu at gynllunio a rheolaeth ariannol effeithiol gweithgareddau Ymchwil, Datblygu ac Arloesi, gan sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon ac yn unol â pholisïau, gofynion ariannu ac amcanion strategol yr Ymddiriedolaeth.

Gallu siarad Cymraeg – Siaradwr Cymraeg (Lefel 1) neu barodrwydd i weithio tuag ato

Cyfeirnod Swydd
120-AC818-1026

Sut i wneud cais

Clicwich ar y botwm isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.