Arweinydd Ymarferwyr Clinigol Uwch Therapi Gwrth-Ganser Systemig

Teitl Swydd
Arweinydd Ymarferwyr Clinigol Uwch Therapi Gwrth-Ganser Systemig
Enw’r Cwmni
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Lleoliad
Canolfan Ganser Felindre, Caerdydd
Cyflog
£58,379 – £65,723 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 11/11/2026

Mae cyfle cyffrous wedi codi i Ymarferydd Clinigol Uwch (ACP) profiadol a deinamig i ymuno â Chanolfan Canser Felindre fel  Arweinydd gweithlu Ymarferwyr Clinigol Uwch SACT

Bydd y swydd arweinyddiaeth newydd hon yn darparu arweinyddiaeth strategol, weithredol a chlinigol i weithlu Ymarferwyr Clinigol Uwch (ACP) Therapi Gwrth-Ganser Systemig (SACT) ar amser tyngedfennol i Ganolfan Ganser Felindre. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gwneud cyfraniad sylweddol at drawsnewid gwasanaethau, datblygu’r gweithlu ac at ddarparu gofal canser diogel o ansawdd uchel wrth inni baratoi i symud i’r Ganolfan Ganser Felindre newydd (CGFn).

Mae hwn yn gyfle unigryw i Ymarferydd Clinigol Uwch profiadol ddylanwadu ar gyfeiriad ymarfer uwch yn y dyfodol o fewn gwasanaethau canser, gan gefnogi dulliau arloesol o ddarparu gofal, gwella gwasanaethau’n barhaus, a chynaliadwyedd hirdymor y gweithlu.

Fel Arweinydd gweithlu ACP SACT, byddwch yn darparu arweinyddiaeth strategol a phroffesiynol i’r gweithlu, sy’n cynnwys Ymarferwyr Clinigol Uwch cymwys/dan hyfforddiant sy’n gweithio ar draws gwasanaethau Therapi Gwrth-Ganser Systemig (SACT).

Prif ddyletswyddau’r swydd

Arwain a rheoli gweithlu ACP a Hyfforddeion ACP SACT, a darparu arweinyddiaeth broffesiynol, goruchwyliaeth a chymorth i Ymarferwyr Clinigol Uwch drwy gydol eu datblygiad proffesiynol a’u dilyniant gyrfa.

Arwain mentrau trawsnewid gwasanaethau a chyfrannu at ddatblygu modelau gofal newydd sy’n gysylltiedig â symud i’r CGFn.

Hyrwyddo a datblygu ymarfer clinigol uwch ar draws gwasanaethau canser, gan gefnogi arloesedd, gwella ansawdd, ymchwil ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Sicrhau bod ymarfer Ymarferwyr Clinigol Uwch yn cael ei gyflwyno’n ddiogel, yn effeithiol ac yn unol â safonau proffesiynol a sefydliadol.

Sicrhau fod Fframwaith Llywodraethu a Sicrwydd ACP yn cael ei gweithredu’n effeithiol a’i goruchwylio’n barhaus, a’i bod yn cyd-fynd â safonau cenedlaethol ac yn cynnwys; trefniadau goruchwylio, asesiadau cymhwysedd, achredu Ymarferwyr Clinigol Uwch, adolygu portffolio a datblygiad proffesiynol parhaus.

Darparu sicrwydd ynghylch gallu Ymarferwyr Clinigol Uwch, eu cwmpas ymarfer a threfniadau llywodraethu’r gweithlu, a sicrhau cydymffurfiaeth â fframweithiau ymarfer uwch cenedlaethol a safonau’r sefydliad.

Cefnogi gwybodaeth am y gweithlu, adrodd a darparu sicrwydd sefydliadol mewn perthynas â rolau ymarfer uwch.
Cynrychioli’r gweithlu Ymarferwyr Clinigol Uwch mewn fforymau amlddisgyblaethol, sefydliadol a rhanbarthol, a chyfrannu at lunio cyfeiriad strategol gwasanaethau canser a datblygu ymarfer clinigol uwch ar draws Cymru.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.

Cyfeirnod Swydd
120-NMR171-1026