Prif Ddadansoddwr Data
Ydych chi’n teimlo’n frwdfrydig ynghylch sut y gall gwasanaethau digidol drawsnewid gofal iechyd, ar gyfer ein rhoddwyr, cleifion a chydweithwyr?
Mae gennym gyfle cyffrous yn y Tîm Gwasanaethau Digidol ar gyfer Prif Peiriannydd Data, i weithio ar y cyd ar draws yr Ymddiriedolaeth a GIG Cymru yn ehangach, i ddarparu systemau digidol trawsnewidiol a gwasanaethau dan arweiniad mewnwelediad.
Rydym mewn cyfnod cyffrous o newid, fel y nodir yn y ddogfen Cyrchfan 2033, sy’n cynnwys agor canolfan ganser newydd o safon fyd-eang i ymestyn a gwella triniaeth canser arbenigol, ynghyd â darparu gofal canser yn nes at adref mewn safleoedd rhanbarthol. Ar gyfer Gwasanaeth Gwaed Cymru, rydym yn trawsnewid gwasanaethau gwaed a thrawsblaniadau, ac yn gwella galluoedd presennol, ochr yn ochr â datblygu gwasanaethau newydd, gan gynnwys plasma ar gyfer meddyginiaethau.
Mae strategaeth ddigidol uchelgeisiol yn cefnogi hyn, a fydd yn chwyldroi’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau – o gyd-gynhyrchu technolegau arloesol, gweithio ar gynhwysiant digidol, i fewnosod data a mewnwelediad i’n bywyd bob dydd. Mae ein tîm yma i ddarparu atebion digidol newydd a gwasanaeth digidol dyddiol rhagorol, i wella gwasanaethau a chanlyniadau.
Rydym yn cydnabod bod gwasanaeth trawsnewid digidol llwyddiannus yn ymwneud cymaint â’n pobl a’n diwylliant ag y mae i’w wneud â thechnoleg.
Prif ddyletswyddau’r swydd
Byddwch yn gwneud y canlynol:
Defnyddio eich sgiliau arweinyddiaeth, technegol a chyfathrebu i arwain datblygiad, dadansoddi, dehongli, cyflwyno, a chyfathrebu ynghylch ein rhaglenni gwaith, gan wella effeithlonrwydd ac ansawdd ein llifau a’n piblinellau data, datblygu a gwreiddio safonau data ac ein cefnogi i fudo i’r cwmwl, er mwyn cefnogi cyflwyno ein strategaeth ddigidol.Cymhwyso a rhannu’ch gwybodaeth dechnegol ragorol ar draws ystod o feysydd Peirianneg Data gan gynnwys: SQL, gweinyddion SQL, SSMS, SSRS, SSAS a SSIS, Cwmwl (Azure, Google), Azure DevOps, cronfeydd data a phiblinellau ETL / ELT.Darparu rheolaeth weithredol o ddydd i ddydd ar gyfer cyflawni’r portffolio peirianneg, ac ar y cyd â chyfoedion, sicrhau bod adnoddau ar gyfer tasgau i fodloni’r safon uchel o ran ansawdd ac amseroldeb a ddisgwylir.Cefnogi llywodraethu data drwy greu a chynnal prosesau safonol, dogfennaeth a rheoli fersiynauCefnogi’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Data a Mewnwelediad i barhau i lunio, sefydlu a gweithredu Data a Mewnwelediad yr Ymddiriedolaeth gyfan fel rhan o’r tîm Gwasanaethau Digidol, gan weithio i ymgorffori ethos ystwyth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr i’n ffyrdd o weithio.
Siaradwr Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
