Nyrs Gofrestredig Clinig
Ydych chi’n nyrs gofrestredig brwdfrydig, tosturiol, blaengar, deinamig ac ymroddedig, sy’n chwilio am her newydd yn eich gyrfa o fewn sefydliad blaengar, sy’n canolbwyntio ar staff?
Ydych chi’n angerddol ac wedi ymrwymo i ddarparu gofal o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwella gwasanaethau parhaus? Os felly, mae gennym ddewis gyrfa i chi.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Nyrs Gofrestredig band 5 yn ein tîm casglu gwaed hanfodol, wedi’u lleoli yn Talbot Green o fewn Gwasanaeth Gwaed Cymru. Mae rôl nyrsio o fewn y gwasanaethau casglu yn rhoi datblygiad i staff o amrywiaeth o sgiliau clinigol a thechnegau casglu gan gynnwys casglu gwaed cyflawn.
Gan weithio fel rhan o dîm deinamig, mae rôl y Nyrs Casglu Gwaed yn rôl glinigol sy’n gyfrifol am gefnogi’r Nyrsys Cofrestredig Clinig Uwch a’r tîm casglu gwaed ehangach wrth ddarparu gofal unigol o ansawdd uchel i’n rhoddwyr sy’n achub bywydau. Fel Nyrs casglu gwaed bydd disgwyl i chi ddarparu arweinyddiaeth glinigol effeithiol a thosturiol er mwyn sicrhau gofal gorau posibl o roddwyr.
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu ein staff a byddai ymgeiswyr llwyddiannus yn gwneud cynnydd trwy rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar sail ychwanegol i sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n ddigonol gyda’r wybodaeth a’r sgiliau arbenigol angenrheidiol i ymgymryd â’r rôl glinigol allweddol hon.
Prif ddyletswyddau’r swydd
Cefnogi’r Uwch Nyrs Clinig i sicrhau bod modd casglu’r gwaed mewn clinigau rhoddwyr yn ddiogel ac effeithiol.
Cefnogi’r Uwch Nyrs Clinig ym mhob agwedd ar nyrsio a gofal clinigol rhoddwyr, gan sicrhau amgylchedd diogel i bawb wrth weithio yn y clinig. Cael eich cydnabod fel ffynhonnell wybodaeth glinigol am gyngor a chyfeiriad i staff anghlinigol.
Bydd gofyn i’r holl staff symud yn hyblyg drwy wahanol dimau a chyfleusterau casglu gwaed fel cyfleusterau rhoi gwaed symudol, safleoedd statig a chlinigau cymunedol sy’n cwmpasu ardal ddaearyddol fawr.
Mae gofyniad y bydd deiliad y swydd yn cynnal teithiau wedi’u trefnu a fydd yn cynnwys arosiadau dros nos sawl gwaith y flwyddyn.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
