Hwylusydd Newid Busnes – Gwasanaethau Digidol
Mae’r swydd hon am gyfnod penodol/secondiad am 15 mis tan 31ain Mawrth 2028 cwrdd gofynion y gwasanaeth.
Os oes diddordeb gyda chi mewn ceisio am swydd secondiad, mae’n rhaid i chi gael caniatad eich rheolwr llinell presennol cyn i chi geisio am y swydd hon.
Bydd yr Hwylusydd Newid Busnes yn hanfodol i sicrhau bod portffolio o brosiectau trawsnewid digidol clinigol ac anghlinigol yn cael eu hymgorffori a’u mabwysiadu’n llwyddiannus ar draws gwasanaethau o fewn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre (Gwasanaethau Canser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru). Mae’r rôl hon yn chwarae rhan allweddol mewn hyrwyddo ffordd o weithio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, sy’n gynhwysol ac sy’n canolbwyntio ar ddatrys problemau o ran trawsnewid y gwasanaethau digidol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Bydd yr ymgeisydd buddugol yn cefnogi mabwysiadu datrysiadau digidol yn llwyddiannus ac yn mesur eu heffaith hefyd.
O dan arweiniad y Rheolwr Newid Busnes, bydd deiliad y swydd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu pecynnau cymorth a gweithdai i helpu timau i gyflawni newid ac arloesi ar draws yr Ymddiriedolaeth. Disgwylir i ddeiliad y swydd arwain yn annibynnol ar weithgareddau gan gynnwys cynllunio, trefnu a hwyluso gweithdai a chyfarfodydd, datblygu pecynnau hyfforddi a chodi proffil cyfleoedd arloesi a thrawsnewid digidol yn fewnol ac yn allanol, i gefnogi newid digidol a gwireddu manteision.
Mae hon yn swydd cyfnod sefydlog / secondiad am 15 mis.
Prif ddyletswyddau’r swydd
Bydd angen iddynt weithio’n annibynnol gyda rhanddeiliaid i ddylunio pecynnau cymorth priodol a sicrhau bod datrysiadau’n cael eu defnyddio i’r eithaf.
Bydd angen i ddeiliad y swydd ymgysylltu’n rhagweithiol ar draws y sefydliad a meddu ar sgiliau dylanwadu, gweithio mewn partneriaeth ac adeiladu perthnasoedd cryf. Bydd yn rhaid iddynt hefyd adeiladu rhwydwaith o hyrwyddwyr ar draws y sefydliad, gwella cyfathrebu dwyffordd a chreu cyfleoedd i gydweithio ar wasanaethau digidol cyfredol a newydd o’r cychwyn cyntaf. Bydd angen iddynt hefyd reoli rhanddeiliaid a safbwyntiau gwrthgyferbyniol, gan ystyried eu lefelau dylanwad a’u buddiannau penodol.
Dymunol
o Sgiliau Cymraeg lefelau 1 i 5 mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg.
