Fferyllydd Oncoleg Uwch
Ydych chi’n fferyllydd ysbyty uchelgeisiol sy’n barod i gymryd y cam nesaf yn eich gyrfa? Mae Fferyllfa Gwasanaeth Canser Felindre yn chwilio am fferyllwyr talentog i ymuno â’n tîm arloesol a chroesawgar. Mae profiad blaenorol mewn oncoleg neu hematoleg yn ddymunol ond nid yn hanfodol, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fferyllwyr sydd â sgiliau clinigol cryf, barn broffesiynol gadarn a’r awydd i ddatblygu gyrfa arbenigol mewn fferylliaeth canser. Bydd rhaglen ymsefydlu a datblygu parhaus gynhwysfawr yn eich cefnogi i feithrin eich arbenigedd a’ch hyder mewn gofal canser. Fel rhan o sefydliad blaenllaw yn y GIG, mae ein canolfan ganser yn darparu triniaeth ac ymchwil arbenigol i boblogaeth o 1.5 miliwn o bobl ledled De-ddwyrain Cymru, gan gynnig cyfle cyffrous i adeiladu gyrfa werth chweil yn un o feysydd meddygaeth sy’n datblygu cyflymaf.
Fel Fferyllydd Uwch yng Ngwasanaeth Canser Felindre, byddwch yn darparu arbenigedd fferyllol hanfodol drwy gydol y broses o ddarparu triniaethau canser, gan ddefnyddio’r sgiliau a ddatblygwyd yn ystod eich profiad blaenorol mewn ysbyty. Byddwch yn cydweithio’n agos â thimau clinigol i weithredu meddyginiaethau newydd, datblygu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio a thyfu eich rôl presgripsiynu. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i gyfrannu at ein gwasanaethau rhagorol, gan gael effaith uniongyrchol ar fywydau cleifion canser.
Prif ddyletswyddau’r swydd
Cynorthwyo’r Prif Fferyllydd a Phrif Fferyllwyr i ddatblygu a chynnal y gwasanaeth fferyllol i Ymddiriedolaeth GIG Felindre i sicrhau ei fod yn ddiogel, yn effeithlon o ran defnyddio adnoddau a’i fod yn cydymffurfio â gofynion Llywodraethu Clinigol yr Ymddiriedolaeth.
Os ydych chi’n awyddus i gymhwyso’ch arbenigedd mewn lleoliad ystyrlon a gwerth chweil a dod yn rhan o dîm blaengar, rydym yn eich gwahodd i wneud cais a chyfrannu at ddyfodol gofal canser yn Ne Cymru.
Os oes angen cyfnod hyfforddi, bydd eich contract yn cael ei gyhoeddi o dan Atodiad 21: 75% o Fand 8a am 12 i 18 mis neu hyd nes y ceir cymhwyster.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
