Gweithredwr Cynhyrchu Fferylliaeth
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Uwch Gynorthwyydd Fferyllol ymuno â’r tîm fferylliaeth yng Ngwasanaethau Canser Felindre. Mae hwn yn gyfle gwerth chweil i weithio o fewn canolfan ganser arbenigol, gan gefnogi darparu gwasanaethau fferylliaeth diogel, effeithlon ac o ansawdd uchel sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at ofal cleifion eithriadol. Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant a blaengar i ymuno â’n hadran gyfeillgar a deinamig a helpu i lunio datblygiad staff cymorth fferyllfa.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r Uwch Dechnegwyr Fferyllfa yng Ngwasanaethau Clinigol gyda hyfforddi a datblygu cynorthwywyr fferyllfa sy’n ymgymryd â chymwyseddau mewnol a chymwysterau NVQ yn unol â safonau cyfredol. Yn ogystal, bydd y rôl yn cynnwys cysylltu â thimau amlddisgyblaethol bob dydd, gan gynnwys cleifion a thimau clinigol, i sicrhau bod therapi gwrth-ganser systemig (SACT) yn cael ei gyflenwi’n ddiogel ac yn effeithlon
Byddai’r swydd hon yn addas i rywun sydd â phrofiad mewn fferyllfa ysbyty neu gymunedol sy’n awyddus i ddatblygu ei yrfa o fewn amgylchedd gofal iechyd arbenigol. Darperir hyfforddiant llawn i gefnogi’r broses o drosglwyddo i ymarfer fferyllfa ysbyty lle bo angen. Rhaid i chi feddu ar gymhwyster NVQ Lefel 2 llawn mewn Gwasanaethau Fferylliaeth neu gymhwyster dosbarthu cyfatebol a gallu dangos rhinweddau arweinyddiaeth cryf, profiad eang o weithio o fewn lleoliad fferyllfa a dealltwriaeth o ymarfer fferyllfa ysbyty.
Prif ddyletswyddau’r swydd
Mae’r rôl yn cynnwys goruchwylio staff iau, cefnogi hyfforddiant, a sicrhau cydymffurfiaeth â safonau cyfreithiol, proffesiynol a sefydliadol a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOPs) lleol.
Cydlynu a chyflawni’r gwaith o ddosbarthu meddyginiaethau a phresgripsiynau therapi gwrth-ganser systemig yn ddiogel ac yn amserol ar gyfer cleifion mewnol, cleifion dydd, cleifion allanol, a’r rhai sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty.
Cynnal gwiriadau cywirdeb terfynol ar eitemau a ddosbarthwyd.
Ymgymryd â dyletswyddau derbynfa gan gynnwys derbyn a dosbarthu presgripsiynau i gleifion, gofalwyr a staff gofal iechyd ac ateb y ffôn a datrys ymholiadau.
Rhoi cyngor sylfaenol i gleifion ar sut i gymryd eu meddyginiaethau a hybu iechyd yn unol â Gweithdrefnau Gweithredu Safonol / cymwyseddau e.e., rhoi’r gorau i ysmygu, eich meddyginiaethau, eich iechyd ac ati.
Mae Sgiliau Cymraeg yn ddymunol
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn trwy clicio ar “Rhagor o wybodaeth a gwneud cais”.
Os oes angen cyfnod hyfforddi, bydd eich contract yn cael ei gyhoeddi o dan Atodiad 21: 75% o Fand 8 am 12 i 18 mis neu hyd nes y ceir cymhwyster.
