Tiwtor/Asesydd Gwaith Ieuenctid
Dyma gyfle i unigolyn brwdfrydig ymuno ag Adran Prentisiaethau’r Urdd fel Tiwtor/Asesydd Gwaith Ieuenctid. Cyfle arbennig i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o Weithwyr Ieuenctid Cynorthwyol.
Nodwch: Un swydd sydd ar gael. Bydd y penodiad priodol yn ddibynnol ar lefel cymwysterau a phrofiad yr unigolyn fel a nodir yn adran Manyleb y Person a’r Meini Prawf (tudalen 2-5).
Uwch-Diwtor / Asesydd Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid
Cyflog : Graddfa 5: £31,745 – £35,365 y flwyddyn neu
Tiwtor / Asesydd Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid
Graddfa 4: £29,409 – £31,430 y flwyddyn neu
Tiwtor / Asesydd Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid (o dan hyfforddiant)
Graddfa 3: £26,204 – £28,566 y flwyddyn
Prif bwrpas y swydd:
Yn dilyn llwyddiannau Adran Brentisiaethau’r Urdd a’r Rhaglen Prentisiaethau Gwaith Ieuenctid yn mynd o nerth i nerth, mae yna angen am asesydd eiddgar i ymuno â’r tîm.
Bydd y swydd hon yn un allweddol er mwyn darparu dysgu, addysgu ac asesu o’r safon uchaf i brentisiaid Gwaith Ieuenctid.
Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol (yn berthnasol os o dan hyfforddiant):
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd ag hyfforddiant i’w gymhwyso i asesu cymwysterau galwedigaethol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cychwyn gweithio tuag at gymhwyster TAQA Lefel 3 ac mi fydd ei waith yn cael ei gydlofnodi gan Asesydd / Tiwtor profiadol tan ei fod yn gymwys.
Byddent hefyd yn derbyn arweiniad a chymorth gan staff profiadol, ynghyd ag amryw o gyfleoedd hyfforddi eraill.
Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn.
Gofynion:
Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar drwydded yrru llawn ac yswiriant priodol sydd â sicrwydd ar gyfer defnydd busnes. Bydd gofyn i deiliaid y swydd deithio yn rheolaidd ar hyd a lled y wlad.
Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus cofrestri fel Gweithiwr Ieuenctid / Gweithiwr Ieuenctid Cynorthwyol ac fel Ymarferydd Dysgu’n Seiliedig ar Waith gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg.
Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus berchnogi’r holl rinweddau o Egwyddorion Gweithio i’r Urdd trwy gydol eu cyflogaeth.
Gwiriadau Perthnasol: Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael ei wirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
