Arweinydd y Tîm Rhyddid Gwybodaeth, Cwynion a Gohebiaeth

Teitl Swydd
Arweinydd y Tîm Rhyddid Gwybodaeth, Cwynion a Gohebiaeth
Enw’r Cwmni
Cyfoeth Naturiol Cymru
Lleoliad
Hyblyg
Cyflog
£54,212 – £59,873
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 06/12/2026

Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain tîm proffil uchel sy’n gweithio wrth wraidd tryloywder, atebolrwydd a gwasanaeth cwsmeriaid o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel Arweinydd y Tîm Rhyddid Gwybodaeth, Cwynion a Gohebiaeth, byddwch yn arwain tîm o arbenigwyr sy’n gyfrifol am reoli ceisiadau a wneir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Byddwch hefyd yn goruchwylio gwasanaeth cwynion CNC ac yn helpu i lunio dull sy’n datblygu i ddelio â gohebiaeth. Byddwch yn sicrhau bod cwsmeriaid, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn cael ymatebion clir, amserol ac o ansawdd uchel wrth helpu CNC i gynnal y safonau uchaf o ran agoredrwydd ac atebolrwydd.

Gan adrodd i’r Pennaeth Cwsmeriaid, byddwch yn goruchwylio ceisiadau am wybodaeth, cwynion a gohebiaeth sefydliadol, gan sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu i safon sy’n gyson uchel ac yn unol â gofynion statudol. Byddwch yn rhoi cyngor arbenigol ar faterion cymhleth a sensitif, yn helpu’r broses o wneud penderfyniadau ar draws y sefydliad, ac yn helpu i reoli risg i enw da ar draws y sefydliad.

Byddwch yn gweithio’n agos gydag uwch arweinwyr a chydweithwyr ar draws CNC i wella gwasanaethau, nodi tueddiadau a chyfleoedd, a llywio’r gwaith o ddatblygu dull i ddelio â gohebiaeth. Mae llwyddiant yn y rôl hon yn golygu meithrin tîm sy’n perfformio’n dda, ysgogi gwelliant parhaus a sicrhau bod cwsmeriaid yn cael ymatebion clir, amserol ac o ansawdd uchel.

Mae’r rôl hon yn cynnig y cyfle i gyfuno arweinyddiaeth pobl, dylanwad strategol a rhagoriaeth cwsmeriaid mewn swydd lle bydd gan eich gwaith effaith weladwy ar draws y sefydliad a thu hwnt.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg.Byddwch yn cael eich contractio i’r swyddfa CNC agosaf i’ch cartref, ac fe gytunir patrwm gwaith hybrid priodol ar eich penodiad. Bydd unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb rheolaidd neu hyfforddiant yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Naomi Lawrence at naomi.lawrence@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 15/12/2026 ar Microsoft Teams

Amdanom ni

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru, rydym yn gweithio i amddiffyn a gwella amgylchedd Cymru, gan helpu pobl, lleoedd a natur i ffynnu am genedlaethau i ddod. Mae pob rôl yn cyfrannu at y diben hwnnw, gan gynnwys y ffordd rydym yn ymgysylltu â chwsmeriaid, rhanddeiliaid a chymunedau ledled Cymru.

Mae’r rôl hon yn rhan o’n Tîm Cwsmeriaid, sy’n rhan o’r Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Masnachol. Mae’r tîm yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli ceisiadau am wybodaeth, cwynion, gohebiaeth a cheisiadau gan gwsmeriaid, gan helpu i feithrin ymddiriedaeth, tryloywder a hyder yng ngwaith CNC.

Byddwch yn ymuno ag amgylchedd cefnogol a chydweithredol lle bydd eich arbenigedd yn cael ei werthfawrogi, eich syniadau’n cael eu croesawu a’ch datblygiad yn cael ei annog. Yn gyfnewid am hynny, byddwch yn cael y cyfle i lywio gwasanaethau, dylanwadu ar newid a helpu i ddarparu profiad rhagorol i’r rhai sy’n rhyngweithio ag CNC bob dydd.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Arwain a datblygu’r tîm, gan godi ymwybyddiaeth o’i swyddogaeth ac ymgorffori arferion gorau ar draws meysydd rhyddid gwybodaeth, cwynion, a rheoli gohebiaeth.
  • Sicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau statudol a pholisïau CNC, gan roi cyngor arbenigol i aelodau’r tîm ac uwch-reolwyr ar ofynion cyfreithiol a gweithdrefnol wrth ymdrin â cheisiadau am wybodaeth a gohebiaeth.
  • Goruchwylio gwaith achos a chyflenwi gwasanaethau, cefnogi ceisiadau cymhleth am wybodaeth a gohebiaeth, gan sicrhau ymatebion prydlon o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu safonau’r sefydliad.
  • Rheoli risgiau i enw da trwy wneud penderfyniadau gwybodus, defnyddio mewnwelediad strategol a chyfathrebu’n gyson, yn enwedig mewn meysydd sy’n sensitif yn wleidyddol neu’n amwys.
  • Meithrin a chynnal cydberthynasau effeithiol â rhanddeiliaid, gan gynnwys uwch-arweinwyr a rhanddeiliaid, er mwyn dylanwadu ar ganlyniadau a chefnogi blaenoriaethau sefydliadol.
  • Ysgogi gwelliant parhaus, nodi cyfleoedd i wella safonau, ymgorffori swyddogaethau newydd, ac arwain prosiectau allweddol sy’n cryfhau effaith y tîm.
  • Monitro perfformiad ac adrodd arno, gan ddadansoddi tueddiadau mewn cwynion, rhyddid gwybodaeth, a gohebiaeth i lywio’r gwaith o wneud penderfyniadau a datblygu gwasanaethau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun a’ch tîm drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Gwybodaeth helaeth am ddeddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, Cais am Wybodaeth Amgylcheddol 2004, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, a fframweithiau trin cwynion, gyda gallu profedig i’w dehongli a’u cymhwyso mewn senarios cymhleth.
  2. Profiad o arwain, gan gynnwys datblygu timau, ymgorffori swyddogaethau newydd a gyrru gwelliant parhaus ar draws meysydd gwasanaeth.
  3. Profiad cryf o nodi risgiau i enw da, a’u codi gydag uwch-reolwyr a rhanddeiliaid mewnol. Gallu cydweithio ag arweinwyr gwasanaeth a rhai sy’n gwneud penderfyniadau i reoli a lliniaru risgiau.
  4. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog sy’n eich galluogi i gyfathrebu’n effeithiol a phroffesiynol gyda’n holl gwsmeriaid mewnol ac allanol ar lefelau gwahanol.
  5. Profiad o gynghori uwch-arweinwyr, gan roi arweiniad ar faterion cyfreithiol a gweithdrefnol sy’n ymwneud â gohebiaeth, cwynion a cheisiadau am wybodaeth.
  6. Profiad o ddadansoddi setiau data a metrigau perfformiad cymhleth i nodi tueddiadau, risgiau a chyfleoedd i wella. Profiad o gynhyrchu adroddiadau clir, ymarferol sy’n llywio’r gwaith o wneud penderfyniadau ac yn cefnogi gwelliant parhaus gwasanaethau.
  7. Ymrwymiad i safonau proffesiynol, gyda hanes blaenorol o sicrhau cysondeb, tôn ac eglurder wrth gyfathrebu â’r cyhoedd.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: C1 – Lefel hyfedredd

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r Gofynion y Gymraeg y rôl hon ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.

Mae’r rôl hon yn bodloni’r meini prawf ar gyfer nawdd o dan y llwybr fisa i Weithwyr Medrus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn croesawu ceisiadau gan y rhai nad ydynt yn ddinasyddion o’r DU sy’n gymwys i wneud cais o dan y llwybr hwn, yn amodol ar gadarnhad gan y Swyddfa Gartref.

Sylwer, er y gallai fod yn bosib i ni gefnogi’r Dystysgrif Nawdd sy’n ofynnol ar gyfer cais am fisa, nid yw’r sefydliad yn talu cost y fisa ei hun, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig ar gyfer dibynyddion.

Rhaid i’r ymgeisydd fodloni Cymhwystra a Gofyniad Fisa ar gyfer Gweithiwr Medrus y DU o hyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/skilled-worker-visa

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Cliciwch ar “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.