Hanes Safle Swyddi
Wedi’i sefydlu ym mis Ionawr 2007, mae Safle Swyddi yn un man canolog lle gall siaradwyr Cymraeg chwilio am swyddi lle mae cyflogwyr yn chwilio am siaradwyr Cymraeg.

Mae Safle Swyddi yn chwaer gwmni i Job Trac Cymru Cyf.
Sefydlwyd Job Trac Cymru yn 2002 gan Tracey Williams, yn wreiddiol fel gwasanaeth adnoddau dynol ac asiantaeth recriwtio yn darparu gwasanaeth cyfrwng Cymraeg i wahanol gwmnïau ledled Cymru. Yn 2007 fel ymateb i anghenion cyflogwyr a’r cynnydd mewn dulliau recriwtio ar-lein, lansiodd Tracey Safle Swyddi fel cangen recriwtio ar-lein y busnes.
Mae Safle Swyddi wedi mynd o nerth i nerth, yn cadw i fyny gyda’r cyfryngau cymdeithasol diweddaraf ac roedd yn un o’r apiau gyntaf a grëwyd yn yr iaith Gymraeg.
Mae wedi helpu miloedd o bobl a chwmnïau ar draws Cymru, Lloegr a hyd yn oed Patagonia i recriwtio siaradwyr Cymraeg. Nod Tracey yn wreiddiol oedd i helpu unigolion i ddefnyddio’u Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol, a thrwy hynny chwarae rhan fach mewn cadw’r Gymraeg yn fyw o fewn y gweithle a galluogi siaradwyr y Gymraeg i ddefnyddio eu hiaith gyntaf yn eu gweithgareddau bob dydd.


Gwobr i gwmni sy’n helpu siaradwyr Cymraeg i mewn i’r byd gwaith
“Rydym yn hynod falch i dderbyn yr anrhydedd hon am y trydydd tro. Dwi’n credu hefyd mai ni yw’r unig gwmni sydd wedi ennill y wobr tair blynedd yn olynol! Mae’n dangos pwysigrwydd cynyddol y Gymraeg yn y gweithle a’r nifer o gwmnïau sydd eisiau sicrhau bod ganddyn nhw’r ymgeiswyr cywir ar gyfer y swydd.”
“Roedd defnyddio fy iaith Gymraeg yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i mi yn fy ngyrfa ac fe wnaeth fy annog i adeiladu’r busnes hwn. Mae Safle Swyddi bellach yn cefnogi eraill i gael y cyfleoedd hyn ar gyfer eu gyrfa neu eu busnes.”
Tracey Williams, Cyfarwyddwraig


Y dyfodol
Wrth symud ymlaen, mae Tracey yn parhau i annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’u Cymraeg yn y gweithle. Mae hi’n cefnogi pob math o gyflogwyr i recriwtio siaradwyr Cymraeg ac yn parhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol, effeithlon ac wedi’i deilwra i gyd-fynd â’u hanghenion.
Cysylltwch
Rydym yn postio ein cyfleoedd gwaith yn rheolaidd ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, dilynwch a rhannwch

