
Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol

Cyfle rhagorol i ymuno â thîm Yes Cymru. Mae Yes Cymru yn hyrwyddo annibyniaeth i Gymru drwy ystod o weithgareddau, er mwyn dangos y byddai Cymru, fel cymaint o genhedloedd eraill drwy'r byd, yn fwy effeithiol drwy ofalu am ei materion ei hun fel rhan o deulu Ewropeaidd a rhyngwladol ehangach.
Rydym ni'n edrych am Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a fydd yn ymgysylltu a datblygu ein dilynwyr cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter, Instagram, TikTok a You Tube. Mae’r swydd yn cynnwys creu, postio ac ymateb i weithgareddau cyfryngau cymdeithasol o fewn ein strategaeth gyffredinol a gwerthoedd a moeseg.
Mae'r gallu i gyfathrebu i safon foddhaol ar lafar ac yn ysgrifenedig drwy'r Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mi fyddwch chi'n wych wrth gyflawni'r canlynol
• Yn frwdfrydig am annibyniaeth a bwriad YesCymru
• Deall effaith y cyfryngau cymdeithasol wrth yrru’r cymhelliad yma
• Datblygu cyfrifon YesCymru ar draws amrywiaeth o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol gan dargedu cynulleidfaoedd allweddol
• Creu Cylchlythyr
• Creu graffeg, GIF, fideos ac anghenion eraill
• Golygu fideo a chynnwys delweddol eraill
• Cynyddu aelodaeth YesCymru drwy ymgysylltu cyfryngau cymdeithasol
• Monitro ac adrodd ar berfformiad ymgysylltu cyfryngau cymdeithasol ar draws pob sianel
• Bod ar flaen y gȃd gyda thueddiadau cymdeithasol a llwyfannau newydd
• Adolygu sianeli yn gyson a nodi cyfleoedd newydd i dyfu a datblygu
Gallwch chi ddisgwyl:
● 33 diwrnod o wyliau'r flwyddyn pro rata, sy'n cynnwys Gwyliau Banc
● Cynllun Pensiwn y Cwmni
● Gweithio o gartref - oriau hyblyg er y bydd angen presenoldeb mewn cyfarfodydd neu achlysuron a drefnwyd.
Gofynion y Swydd
● Profiad blaenorol mewn swydd debyg
● Y gallu i gynllunio, saethu a golygu ffilmiau byr o ansawdd uchel gydag amrywiaeth eang o drawsnewidiadau
● Profiad o reoli datblygiad cynnwys
● Profiad o ddefnyddio holl becynnau Microsoft a dylunio
● I ddangos creadigrwydd a throchi yn y cyfryngau cymdeithasol
● Trefnus
● Llygad am fanylder
Cymwysterau
● Cyfryngau Cymdeithasol (blwyddyn yn ddelfrydol)
● Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata (blwyddyn yn ddelfrydol)
Sut i wneud cais
-
Danfonwch eich CV a llythyr cais at andrew@yes.cymru erbyn y 5.6.22
-
Gwefan: