
Swyddog Cyfathrebiadau, Atynnu ac Ymgysylltu

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n chwilio am weithiwr cyfathrebiadau ac ymgysylltu ymroddedig a chreadigol i ymuno â'n Tîm Y Wasg a Chyfathrebiadau prysur a leolir yn ein Pencadlys yn Llantrisant.
Mae cyfathrebu ac ymgysylltu ill dau'n chwarae rôl gritigol o fewn cenhadaeth y Gwasanaeth i ‘gadw De Cymru'n ddiogel wrth leihau risg’.
Bydd deilydd y swydd yn gweithio ar draws pob agwedd o gyfathrebu ac ymgysylltu, yn cynhyrchu datrysiadau arloesol wrth drefnu a hwyluso gweithgareddau ymgysylltu a chyfathrebiadau mewnol ac allanol. Bydd hyn yn cynnwys rheoli ymgyrchoedd, cysylltu â'r wasg, hwyluso a chydlynu digwyddiadau ymgysylltu lleol ac ar raddfa fawr.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr feddu ar sgiliau ysgrifennu cryf a'r gallu i ychwanegu dawn greadigol i'n cynnwys a gynhyrchwyd yn fewnol, gan gynnwys diwgyddiadau a gweithgareddau sy'n ymwneud â recriwtio, lleihau risg ac enw da'r Gwasanaeth. Bydd y swydd yn gofyn am weithio'n gydweithredol ag ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid ar draws 10 o Awdurdodau Unedol gan ddefnyddio amrediad o ddulliau i sbarduno Strategaeth Gyfathrebiadau ac Ymgysylltu'r Gwasanaeth yn rhagweithiol.
O fewn y rôl amrywiol hon, ni fydd un diwrnod yr un peth gyda therfynau amser cystadleuol, felly bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn effeithlon, yn drefnus a hyderus wrth weithio'n annibynnol. Yn ogystal â bod yn gallu defnyddio eich dyfeisgarwch a datblygu syniadau newyddd, mae'r Gwasanaeth yn chwilio am aelod tîm fydd yn mwynhau gweithio'n gydweithredol.
Mae'r gallu i deithio'n hanfodol ar gyfer y swydd hon, gan fydd y rôl yn gofyn am ymgysylltu ag adrannau mewnol ar draws ein Gorsafoedd a'n safleoedd o fewn De Cymru gan gynnwys partneriaid allanol a rhanddeiliaid allweddol.
Os ych chi’n storïwr creadigol sydd â llygad barcud am stori o’r newyddion, ry’n ni’n edrych ymlaen yn eiddgar i glywed gennych!
Sut i wneud cais
-
Gellir lawr lwytho Ffurflen Gais, Manyleb Person a Swydd-Ddisgrifiad o'n gwefan www.decymru-tan.gov.uk.
Dylid danfon ffurflenni cais gorffenedig at: Y Tîm Recriwtio ac Adnoddu, Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX neu drwy law e-bost at personél@decymru-tan.gov.uk. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 14eg o Orffennaf am 12:00 o'r gloch. Nodwch nad ydym yn derbyn ffurflenni CV. -
Cyfeiriad y Cwmni:
Business Park, Forest View, Llantrisant, Ynysmaerdy, Pontyclun CF72 8LX
-
e-bost:
-
Gwefan: