
Gweinyddwr
NU086

Mae'r swydd wag uchod wedi codi o fewn Uned Iechyd Galwedigaethol Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ym Mhont-y-clun.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio 37 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol cynhwysfawr ar gyfer yr Uned Iechyd Galwedigaethol, gan gynnwys trefnu apwyntiadau, ffeilio, llungopïo yn ogystal â darparu gwasanaeth derbynfa, delio ag ymwelwyr, ymholiadau ffôn ac ymholiadau eraill mewn modd cyfrinachol a sensitif.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad blaenorol o weithio mewn maes gweinyddol yn ogystal â phrofiad o gymwysiadau Microsoft Office. Rhaid i ymgeiswyr allu aml-dasgio a meddu ar agwedd hyblyg at eu gwaith.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol. Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â phrofiad a chymwysterau priodol yn ôl amlinelliad y Fanyleb Person.
Mae'r holl ddogfennaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg ill dau a chroesawn gyfathrebiadau yn y naill iaith â'r llall. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol. Mae GTADC yn credu fod gwir werth mewn cael gweithlu amrywiol ac rydym am fod yn rhagweithiol wrth annog ymgeiswyr o bob sector o’n cymuned i ymgeisio.
Sut i wneud cais
-
Gellir lawr lwytho pecyn cais gan gynnwys y Fanyleb Person a'r Swydd-Ddisgrifiad o Adran Swyddi Cyfredol Gwefan Gwasanaeth Tân & Achub De Cymru:
www.decymru-tan.gov.uk.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais gorffenedig at: personel@decymru-tan.gov.uk
-
e-bost:
-
Gwefan: