
Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

Hoffech chi ddatblygu eich gyrfa ym maes cyfathrebu digidol drwy helpu i lunio ymgyrchoedd effeithiol sy’n gallu sbarduno arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru? Mae gennym ni gyfle cyffrous i ymuno â’n tîm deinamig a chyfeillgar fel Swyddog Marchnata a Chyfathrebu i’n helpu ni i greu cynnwys digidol unigryw.
Yn y rôl hon, byddwch yn datblygu amrywiol gyfryngau digidol ac yn cyflawni gweithgareddau marchnata a chyfathrebu sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac arloesedd ehangach ym maes iechyd a gofal.
Rydyn ni’n chwilio am rywun brwdfrydig ac sy’n barod am her newydd a chyffrous. Byddwch yn ddigidol fedrus ac yn awyddus i ddatblygu eich gyrfa – a bydd ein tîm wrth law i’ch helpu i loywi eich sgiliau cyfathrebu, eich sgiliau rhyngbersonol a’ch sgiliau dylunio yn y rôl hon.
Sut i wneud cais
-
Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais cliciwch yma
-
Cyfeiriad y Cwmni:
3 Assembly Square, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 4PL
-
Gwefan: