
Technegydd Hydrantau a Diffoddyddion
502234

Rydym yn chwilio am unigolyn i ymuno â'n Tîm Hydrantau a Diffoddyddion ym Mhencadlys Gwasanaeth Tân, Parc Busnes Forest View, Llantrisant, CF72 8LX.
Dan gyfarwyddyd y Rheolwr Tîm Hydrantau a Diffoddyddion bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am:
• Gynnal a chadw ac ail-lenwi diffoddyddion tân o fewn y sefydliad a darparu diffoddyddion tân i Orsafoedd Tân pan fydd angen ar fyr rybudd.
• Archwilio a chynnal a chadw hydrantau tân wedi'u mabwysiadu o fewn yr ardal gwasanaeth fel rhan o raglen archwilio dreiglol. Nodiadau:
• Mae sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
• Mae’r rôl hon yn cynnwys teithio cyson rhwng lleoliadau ar draws ardal De Cymru.
Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio’n annibynnol trwy ddefnyddio cludiant y Gwasanaeth. Cynhelir gwiriad Trwydded Yrru.
Manylion Ychwanegol
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn destun i'r canlynol:
• Prawf Cyffuriau ac Alcohol cyn y gwneir unrhyw benodiad.
• Gwiriad clirio DBS boddhaol
Rydym yn sefydliad sy'n ystyriol o deuluoedd a gweithredir polisi gweithio'n hyblyg. Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg. Mae croeso i chi gyfathrebu â ni naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg. Mae'r holl ddogfennaeth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac rydym yn croesawu cyfathrebu yn y ddwy iaith. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol. Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo yn y cam Llunio Rhestr Fer yn cael cyfle i gadarnhau eu dewis iaith ar gyfer cyfweliadau ac asesiadau (gan gynnwys gwaith papur, cyflwyniadau llafar a chwestiynau cyfweliad). Bydd y trefniadau'n cael eu cadarnhau yn dilyn gwahoddiad i gyfweliad a gellir darparu gwasanaeth Cyfieithu a/neu Gyfieithu ar y Pryd. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru'n credu yng ngwir werth gweithlu amrywiol ac rydym yn dymuno annog yn rhagweithiol ymgeiswyr o bob sector cymdeithas i ymgeisio.
Sut i wneud cais
-
Gellir lawr lwytho Ffurflen Gais, Manyleb Person a Swydd-Ddisgrifiad o dudalen Gyrfaoedd ein gwefan www.decymru-tan.gov.uk.
Nodwch nad ydym yn derbyn ffurflenni CV. Dylid dychwelyd Ffurflenni Cais gorffenedig at:- Y Tîm Recriwtio ac Asesu, Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Parc Busnes Forest View, Llantrisant CF72 8LX neu ebost i: personnel@southwales-fire.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 12:00 ganol dydd Ddydd Gwener 19eg o Awst 2022. -
Cyfeiriad y Cwmni:
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Parc Busnes Forest View
Llantrisant CF72 8LX -
Gwefan: