Hysbysebu i Siaradwr Cymraeg

Gwefan ar gyfer hysbysebu swyddi ble mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol yw Safle Swyddi.


Mae’r gwefan yn ddwyieithog ond mae’r strategaeth farchnata yn targedu siaradwyr Cymraeg sy’n chwilio am swydd newydd.


I sicrhau ymwelwyr i’r wefan rydym yn amrywio’r dulliau o farchnata ac yn sicrhau bod gweithgareddau marchnata yn digwydd yn gyson.

Mae gosod hysbyseb ar Safle Swyddi yn hawdd ac yn gost effeithiol. Mae’r pris yn amrywio felly cysylltwch i drafod. Bydd eich hysbyseb yn aros ar y wefan tan eich dyddiad cau. Bydd linc hefyd yn mynd allan ar ein gwasanaeth Trydar @safleswyddi, grwp a thudalen “Swyddi” ar Facebook, Linked in personol Tracey a thudalen “Swyddi” ar Linked in, instagram “Swyddi” a Snapchat “Swyddi Cymraeg” os dymunwch.


Os hoffech chi hysbysebu swydd ar Safle Swyddi yna cysylltwch â ni trwy e-bost post@safleswyddi.com

Os nad oes fersiwn Cymraeg o’r hysbyseb gennych fe allen ni drefnu cyfieithiad.