ADNODD – Penodi Aelodau i’r Bwrdd (3)
Y lefel gyfredol o ran taliad cydnabyddiaeth yw £95 y dydd, ynghyd â threuliau teithio a threuliau rhesymol eraill. Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd wyneb yn wyneb ac yn rhithwir. Mae dau o’r pedwar cyfarfod blynyddol yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, a cheir ymuno’n rhithwir. Mae’r cyfarfodydd eraill yn cael eu cynnal ar-lein drwy Microsoft Teams. Mae’r penodiad am dymor cychwynnol o dair blynedd, a disgwylir ymrwymiad o un diwrnod y mis o leiaf ar gyfartaledd. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Awst 2026.
Mae Adnodd yn gyfrifol am ddarpariaeth adnoddau addysgu a dysgu Cymraeg a Saesneg i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau. Ei weledigaeth yw bod adnoddau addysgol o ansawdd uchel ar gael i bob dysgwr ac ymarferydd, beth bynnag fo’u cefndiroedd, sy’n ysbrydoli dysgu, yn cefnogi eu lles ac yn meithrin cariad gydol oes at ddysgu. Mae Adnodd yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ar draws y sector addysg, ac mae’n atebol i Weinidogion Cymru.
Rydym yn recriwtio tri Aelod Bwrdd i helpu i lywio cyfeiriad strategol Adnodd. Fel Aelod o’r Bwrdd, byddwch yn cefnogi’r Cadeirydd i osod blaenoriaethau’r sefydliad, yn monitro perfformiad, ac yn sicrhau bod Adnodd yn cyflawni ei gyfrifoldebau deddfwriaethol yn effeithiol. Byddwch yn chwarae rôl bwysig wrth ddarparu arweinyddiaeth strategol a her adeiladol, ac wrth oruchwylio prosesau llywodraethiant, risg a pherfformiad.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dod â phrofiad lefel uwch a chrebwyll cadarn, a bydd ganddynt y gallu i ddadansoddi materion cymhleth a chyfrannu at benderfyniadau effeithiol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unigolion sydd â phrofiad o drawsnewid sefydliad, technolegau digidol, deallusrwydd artiffisial, technolegau cyfathrebu a/neu dechnolegau seiber. Byddwch yn gallu gweithio gydag eraill, darparu her annibynnol pan fo angen, a byddwch yn dangos ymrwymiad cryf i gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar sgiliau Cymraeg Lefel 4 neu uwch, a chynhelir y cyfweliadau drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf. Bydd cymorth ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus sy’n dymuno datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach. Ymhlith elfennau’r profiad y byddai’n ddymunol ei weld mae arweinyddiaeth addysgol, datblygu cynnyrch digidol, technolegau seiber, profiad fel ymarferydd mewn lleoliad addysgol, a phrofiad personol fel rhan o grŵp dan anfantais neu a dangynrychiolir.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar ddyfodol adnoddau addysgol yng Nghymru a helpu i lywio sut y caiff y Cwricwlwm i Gymru ei roi ar waith. Bydd Aelodau’r Bwrdd yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr addysg proffesiynol profiadol, arweinwyr y sector a phartneriaid, gan elwa ar yr un pryd o raglen o ddysgu a datblygu proffesiynol sy’n cwmpasu meysydd fel seiberddiogelwch, diogelu data, rheoli risg a deallusrwydd artiffisial. Mae Adnodd wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol, dwyieithog ac i gefnogi lles a datblygiad cenedlaethau’r dyfodol ledled Cymru.
Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac i’w hymgorffori ym mhob agwedd ar ei gwaith, gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp, a bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar sail teilyngdod, yn unol ag egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored.
I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais‘ nawr.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 31 Awst 2026.

