AELOD – AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG

Teitl Swydd
AELOD – AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG
Enw’r Cwmni
Llywodraeth Cymru
Lleoliad
Lleoliad Rhithwir trwy MS Teams
Cyflog
£5,576 ynghyd â threuliau rhesymol – o leiaf 44 diwrnod y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 03/02/2026

Tâl – £5,576 ynghyd â threuliau rhesymol – o leiaf 44 diwrnod y flwyddyn

A allwch gyfrannu at warchod ein tirwedd a’n natur werthfawr, hyrwyddo cyfleoedd i bawb fwynhau, a helpu i gynnal bywyd cymdeithasol ac economaidd ei chymunedau? Allwch chi helpu ystod ehangach o bobl i fwynhau’r cyfan sydd gan y Parc i’w gynnig? Oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu i lunio dyfodol Bannau Brycheiniog a helpu’r Awdurdod i redeg yn effeithiol?

Rydym yn chwilio am unigolion angerddol a thalentog i helpu i roi arweiniad effeithiol i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi ymwneud â bwrdd sector cyhoeddus o’r blaen; rydym yn croesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd os oes gennych y sgiliau rydym yn chwilio amdanynt.

Croesewir ac anogir ceisiadau gan drawstoriad amrywiol o gymdeithas. Rydym yn sicrhau nad oes unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus yn cael triniaeth lai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd neu ymlyniad crefyddol.  Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a gwneir penodiadau ar sail teilyngdod.  

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 3 Chwefror 2026.

Am ragor o fanylion ac i wneud cais, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud Cais‘ nawr.

Cyfeirnod Swydd
3401

Sut i wneud cais

Am ragor o fanylion ac i wneud cais, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud Cais’ nawr.