Aelod: Cyngor Llywodraethu Tribiwnlys Prisio Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am unigolyn medrus sydd â phrofiad cyfredol neu ddiweddar o weithredu ar lefel uwch mewn sefydliad y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol i ymuno â Chyngor Llywodraethu pedwar aelod Tribiwnlys Prisio Cymru o ddechrau 2026. Mae’r swydd hon yn cynnig y cyfle i wneud cyfraniad pwysig i fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r gallu i weithredu fel aelod effeithiol o’r bwrdd, i feddwl yn strategol, ac i ddangos sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf yn briodweddau pwysig a geisir mewn ymgeiswyr ar gyfer y penodiad hwn.

Mae Tribiwnlys Prisio Cymru yn gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru, Asiantaeth y Swyddfa Brisio a’r awdurdodau lleol ac mae’n cynnwys aelodau lleygo blith y cyhoedd sy’n eistedd yn wirfoddol i wrando ar apeliadau sy’n ymwneud â phrisiadau ar gyfer dibenion ardrethi annomestig, a phrisiadau ac atebolrwydd mewn perthynas â’r dreth gyngor ac ardrethi draenio.

Sefydlwyd Cyngor Llywodraethu Tribiwnlys Prisio Cymru ar 1 Gorffennaf 2010 o dan ddarpariaethau yn Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru 2010. Mae’r rheoliadau hyn yn rhagnodi y bydd y Cyngor Llywodraethu yn cynnwys Llywydd y Tribiwnlys Prisio yng Nghymru, y Cynrychiolwyr Rhanbarthol ac unrhyw berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

Bydd rôl y penodai llwyddiannus fel a ganlyn:

  • Darparu mewnbwn annibynnol, gwybodus i Gyngor Llywodraethu Tribiwnlys Prisio Cymru, gan ddod â phersbectif allanol i’w waith.
  • Cyfrannu ar lefel strategol ar faterion rheoli corfforaethol gan gynnwys cyfathrebu, perfformiad ac effeithlonrwydd.
  • Helpu i sicrhau bod Tribiwnlys Prisio Cymru yn parhau i ddatblygu fel sefydliad sector cyhoeddus modern.

Ni fydd y penodai yn treulio mwy na deuddeg diwrnod y flwyddyn ar waith Tribiwnlys Prisio Cymru. Mae’r Tribiwnlys yn cyfarfod dim mwy nag unwaith y mis a chynhelir y cyfarfodydd gan amlaf yn y Drenewydd, Powys, yn y Canolbarth gyda chyfarfodydd achlysurol hefyd yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd, yn y De. Nid yw aelodau’r Cyngor Llywodraethu, gan gynnwys y Llywydd, yn gyflogedig ac maen nhw’n gwasanaethu yn wirfoddol, ac yn ddi-dâl. Bydd treuliau teithio a threuliau rhesymol eraill yn cael eu talu gan gynnwys, pan fo’n briodol, lwfans colli enillion.

Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ei gwaith, gan gynnwys penodiadau i gyrff cyhoeddus. Croesewir ac anogir ceisiadau gan bob grŵp ac rydym yn sicrhau na fydd unrhyw ymgeisydd cymwys am swydd gyhoeddus yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol, a phenodir ar sail teilyngdod.

Os ydych yn meddwl y gallwch ddod â’r math cywir o brofiad, gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen yn ogystal ag ymrwymiad gwirioneddol i wella gwasanaethau cyhoeddus, hoffem glywed gennych. 

I gael rhagor o fanylion ac i wneud cais, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ nawr.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 09/12/2025, 16:00

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.

Sut i wneud cais