Aelod o’r Tîm Gweithlu Integredig

Teitl Swydd
Aelod o’r Tîm Gweithlu Integredig
Enw’r Cwmni
Cyfoeth Naturiol Cymru
Lleoliad
Hyblyg yng Ngogledd-orllewin Cymru
Cyflog
£26,861 – £27,910
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 15/02/2026

Math o gytundeb: Penodiad Cyfnod Penodol (FTA)
Dyddiad diwedd y contract: 31/07/2026
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg: A2 – Lefel sylfaen
Dyddiad cau: 15/02/2026

Y rôl

Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaus i amgylchedd Cymru a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Fel aelod o’r Tîm Gweithlu Integredig, byddwch yn rhan o’r tîm rheng flaen sy’n gyfrifol am gadw ein hasedau’n ddiogel, yn ddibynadwy ac yn wydn ar gyfer y dyfodol. O gynnal seilwaith sy’n hanfodol i’r gwaith o atal llifogydd i gyflawni gwelliannau cyfalaf ar draws tir a reolir gan CNC, bydd eich gwaith yn helpu’n uniongyrchol i warchod pobl, eiddo a natur.

Mae hon yn rôl ymarferol lle nad oes dau ddiwrnod yr un fath. Byddwch yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ac yn gweithio ar brosiectau gwella ar asedau CNC, yn cynorthwyo gyda chyflawni gwaith adeiladu a gwella, ac yn chwarae rôl hanfodol yn ystod digwyddiadau ac argyfyngau amgylcheddol. Byddwch hefyd yn cymryd rhan yn ein rota wrth gefn, gan gyflenwi y tu allan i oriau pan fo angen i helpu i gadw cymunedau’n ddiogel.

Os ydych chi’n rhagweithiol, yn ymarferol, ac yn frwd dros ddiogelu adnoddau naturiol Cymru, mae hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio’ch sgiliau er budd yr amgylchedd a chymdeithas yn ehangach. Bydd eich cyfraniad yn helpu i sicrhau bod tirweddau, dyfrffyrdd a chynefinoedd Cymru yn parhau’n warchodedig, yn hygyrch ac yn wydn am genedlaethau i ddod.

Penodiad cyfnod penodol yw hwn tan 31 Gorffennaf 2026

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Jordan Dooley at jordan.dooley@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb yr wythnos yn dechrau yr 2ail o Fawrth 2026 (bydd manylion lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau. 

Amdanom ni

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ymroddedig i reoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy. Mae ein diben yn glir: gwarchod, gwella a dathlu adnoddau naturiol Cymru, cynnal llesiant ein cymunedau, a helpu i feithrin cenedl wydn a llewyrchus am genedlaethau i ddod.

Fodd bynnag, rydym yn fwy na bod yn rheoleiddiwr neu warcheidwad yr awyr agored. Rydym yn dîm sy’n cael ei yrru gan frwdfrydedd am y tirweddau, y bywyd gwyllt a’r bobl sy’n gwneud Cymru’n eithriadol. Y nod gyda phob penderfyniad a wnawn, a phob prosiect a gyflawnwn yw creu newid cadarnhaol a pharhaus er lles natur a chymdeithas.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

Byddwch yn darparu gwasanaeth gwaith llaw er mwyn cynnal asedau CNC, a fydd yn cynnwys asedau perygl o lifogydd a thir a reolir gan CNC.

  • Bydd y gallu gennych i ddefnyddio cyfarpar megis offer llaw, a all gynnwys llifiau cadwyn.
  • Byddwch yn gallu gweithredu fel arolygwr a thaflwr / arwyddwr.
  • Byddwch yn deall cynlluniau technegol a chyfleustodau ac yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli). 
  • Byddwch yn defnyddio peiriannau a chyfarpar bach, h.y. Aebi / Reform, peiriannau torri gwair wrth gerdded, peiriannau naddu pren ac ati. 
  • Byddwch yn rhan o dîm ymateb i ddigwyddiadau.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun trwy ddefnydd effeithiol o Sgwrs.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau 

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

Gofynion y Gymraeg

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Cyfeirnod Swydd
200185

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.