Aelod o’r Tîm Perfformiad Asedau Perygl Llifogydd
Lleoliad: Hyblyg yng Ngogledd Cymru
Gradd / Amrediad cyflog 4: £33,755 – £36,693
Patrwm gwaith: Llawn amser – 37 awr y wythnos
Math o gytundeb: Parhaol
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg: C1 – Lefel hyfedredd
Dyddiad cau: 06/05/2026
Y rôl
A ydych chi’n barod i wneud gwahaniaeth go iawn wrth warchod cymunedau rhag effeithiau llifogydd?
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a thechnegol ei feddwl i ymuno â’n tîm Perfformiad Asedau, i gwmpasu Gogledd Cymru. Wedi’ch lleoli yn un o’n swyddfeydd niferus ar draws yr ardal, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm o beirianwyr a thechnegwyr medrus sy’n cynllunio, rheoli a chynnal asedau perygl llifogydd hanfodol, popeth o argloddiau a waliau llifogydd i glwydi llanw a gorsafoedd pwmpio.
Gan ddefnyddio eich gallu technegol a’ch llygad craff am ddata a systemau gwybodaeth ddaearyddol (GIS), byddwch yn helpu i ddatblygu rhaglenni buddsoddi wedi’u targedu i sicrhau bod ein hasedau’n parhau i allu gwrthsefyll risgiau llifogydd y presennol a rhai’r dyfodol. Allan yn y maes, byddwch yn arolygu ac yn monitro perfformiad asedau, gan lunio adroddiadau arolygu sy’n llunio ein cynlluniau cynnal a chadw a gwella.
Os ydych chi’n dod o gefndir peirianyddol neu reoli data asedau ac yn dymuno bod yn rhan o dîm blaengar a gwneud effaith wirioneddol, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â / ag John Davies at John.Davies@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb ar 29/04-1/05/2026 (bydd manylion lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynorthwyo i ddatblygu a rheoli rhaglen rheoli asedau sy’n seiliedig ar risg.
- Helpu i sicrhau bod penderfyniadau’n gyson, yn seiliedig ar risg, ac yn cydymffurfio â’r dull lleol a chenedlaethol y cytunwyd arno.
- Helpu i gynnal y System Rheoli Asedau Perygl Llifogydd Cenedlaethol, AMX, a data perygl llifogydd cysylltiedig.
- Casglu data wrth ffynonellau yn ôl y gofyn i helpu i ddadansoddi’r angen i reoli asedau perygl llifogydd.
- Cefnogi timau Gweithrediadau i allu cyflenwi’r rhaglen cynnal a chadw asedau trwy ddarparu gwybodaeth berthnasol.
- Helpu i baratoi rhag-astudiaethau dichonoldeb sy’n deillio o gynlluniau rheoli perygl llifogydd a chynlluniau rheoli traethlin.
- Cefnogi arferion gorau iechyd a diogelwch drwy fynd ati i hyrwyddo ymwybyddiaeth a sicrhau ein bod yn darparu arferion gweithio diogel i gydymffurfio â pholisïau a safonau CNC.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Mae addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn pwnc gwyddonol neu beirianyddol yn ddymunol, neu’r gallu i arddangos profiad perthnasol cyfatebol.
- Gwybodaeth am weithgareddau rheoli perygl llifogydd a dealltwriaeth o ddulliau ehangach o reoli asedau afonydd a’r arfordir.
- Gwybodaeth sylfaenol am dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Gwybodaeth am systemau GIS a CAD (e.e. ARCGIS, AutoCAD).
- Byddai rhywfaint o wybodaeth am iechyd a diogelwch a rheoliadau perthnasol, e.e. Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015, yn fantais.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: C1 – Lefel hyfedredd
- Dymunol:
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion A1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

