Aelod: Pwyllgor Archwilio a Risg

Teitl Swydd
Aelod: Pwyllgor Archwilio a Risg
Enw’r Cwmni
Comisiynydd y Gymraeg
Lleoliad
Cyfarfodydd chwarterol ar-lein neu yn swyddfa Caerdydd/Caernarfon
Cyflog
£198 y dydd (pro rata)
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 22/02/2026

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gwahodd ceisiadau ar gyfer dau aelod o Bwyllgor Archwilio a Risg Comisiynydd y Gymraeg.  

Rôl y Pwyllgor

Mae’r Comisiynydd, fel Swyddog Cyfrifyddu Comisiynydd y Gymraeg, wedi sefydlu Pwyllgor Archwilio a Risg (“y Pwyllgor”) sef pwyllgor o aelodau annibynnol, anweithredol i ddarparu cyngor gwrthrychol a diduedd ynghylch risg, rheolaeth a llywodraethiant.

Rydym yn chwilio yn arbennig am bobl sydd â phrofiad o systemau technegol a risgiau seibr, neu sydd â phrofiad rheoli ar lefel uwch, yn benodol ym maes Adnoddau Dynol. Fodd bynnag, byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a phrofiad.

Mae dyletswyddau aelodau’r Pwyllgor yn cynnwys craffu ar y canlynol a’u herio:

 – trefniadau rheolaeth ariannol;

 – rheolaethau mewnol a systemau rheoli risg;

 – trefniadau o ran cydymffurfio, chwythu’r chwiban a thwyll;

 – archwilio mewnol;

 – archwilio allanol;

Mae’r Pwyllgor yn cynnwys tri aelod annibynnol anweithredol, a’r Cadeirydd.

Ceir gwybodaeth ynglŷn â Chomisiynydd y Gymraeg ar y wefan gorfforaethol: Comisiynydd y Gymraeg

Pwrpas y swydd

Prif bwrpas y swydd, sef bod yn aelod o’r pwyllgor, yw rhoi cyngor a chefnogaeth i Gomisiynydd y Gymraeg.

Bydd yr aelodau yn mynychu ac yn cymryd rhan lawn yng nghyfarfodydd y Pwyllgor. Efallai y bydd angen mynychu cyfarfodydd eraill megis hyfforddi a datblygu yn ogystal â gweithgareddau eraill yn ôl gofyn y Comisiynydd.

Manyleb y person

  • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar y canlynol:
  • profiad o weithio ar lefel bwrdd neu dim rheoli, un ai yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat;
  • profiad o’r amgylchedd rheoleiddio, archwilio a risg;
  • profiad o ddarparu cyngor clir, diduedd ar risg, rheoli a llywodraethu;
  • profiad o gyrraedd amcanion corfforaethol a gwasanaethau;
  • dealltwriaeth o rôl y Comisiynydd a materion sydd yn effeithio ar yr iaith Gymraeg;
  • y gallu i siarad y Gymraeg;
  • sgiliau datrys a dadansoddi datblygedig;
  • y gallu i ddelio â sefyllfaoedd cymhleth;
  • y gallu i gydweithio’n llwyddiannus mewn tîm;
  • Byddai arbenigedd mewn rheoli systemau technegol a diogelwch seibr, neu brofiad o rheoli ar lefel uwch yn benodol ym maes Adnoddau Dynol yn sgiliau dymunol i’w cael.

Cyfnod y Penodiad

Bydd y penodiad am gyfnod o dair blynedd yn gychwynnol.  Yn amodol ar ofynion deddfwriaeth, gellir adnewyddu’r swydd am ail dymor yn unig, os yw perfformiad yn foddhaol.

Ymrwymiad ac Amser

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cyfarfod hyd at 4 gwaith y flwyddyn.  Gellir cynnal cyfarfodydd ychwanegol yn ôl y galw.  Disgwylir presenoldeb rheolaidd yn y cyfarfodydd hyn.

Taliadau cydnabyddiaeth a chostau

Bydd aelodau’r Pwyllgor yn derbyn ffi ar gyfer mynychu cyfarfodydd ac ar gyfer gwaith paratoadol cyn y cyfarfodydd a fydd yn cyfateb i £198 y dydd (pro rata).

Bydd unrhyw gostau yn rhinwedd eich swyddogaethau ar y Pwyllgor yn cael eu had-dalu yn unol â pholisi teithio a chynhaliaeth Comisiynydd y Gymraeg.

Ymgeisio

Dylid anfon CV, a llythyr eglurhaol gan nodi’r hyn y gallwch ei gynnig i’r swydd a’r modd yr ydych yn cyd-fynd â’r meini prawf a nodir ym manyldeb y person, gan amlinellu unrhyw wybodaeth berthnasol, sgiliau a phrofiad.  Wrth gyflwyno tystiolaeth i gefnogi eich cais, dylid cyfeirio at enghreifftiau pan ydych wedi defnyddio / dangos eich sgiliau yn eich amgylchedd busnes neu mewn unrhyw gyd-destunau eraill.

Dylid anfon yr wybodaeth at swyddi@cyg-wlc.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18:00 – Dydd Sul 22 Chwefror 2026

Noder:

Nid yw’r swyddi yn agored i gyflogeion presennol Comisiynydd y Gymraeg.

Bydd angen i Gomisiynydd y Gymraeg dderbyn tystlythyrau derbyniol.

Sut i wneud cais