Arweinydd Creadigol

Teitl Swydd
Arweinydd Creadigol
Enw’r Cwmni
S4C
Lleoliad
Caerdydd *
Cyflog
£55,000 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 13/04/2026

Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Creadigol ysbrydoledig i arwain ar hunaniaeth a hyrwyddo gweledol a brand S4C mewn tirwedd ddigidol, aml-blatfform. Mae’r rôl yn gofyn am ddealltwriaeth ddofn ac angerdd am y pwysigrwydd o frand a stori gref, unigryw sy’n dal sylw a denu cynulleidfaoedd newydd.

Byddwch yn gyfrifol am arwain tîm o unigolion creadigol sy’n meddu ar arbenigaethau amrywiol gan gynnwys dylunio, golygu, sgriptio a chynhyrchu asedau hyrwyddo ar gyfer S4C a’i ystod o ymgyrchoedd cynnwys – wedi’i ysbrydoli a’i arwain gan strategaeth hyrwyddo S4C.

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C a’r tîm creadigol ar adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C – Mwy na Sianel Deledu. Bydd disgwyl i chi gyfrannu ar lwyddiant y strategaeth yma gan weithredu strategaeth frand newydd sy’n cysoni ein hunaniaeth weledol er mwyn helpu tyfu cynulleidfaoedd, codi proffil a gwella canfyddiad S4C mewn hinsawdd gystadleuol iawn.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn angerddol am gynnwys S4C ac sydd â gweledigaeth ddigidol arloesol i ymgysylltu a chreu argraff gyda chynulleidfaoedd newydd. Unigolyn sy’n frwdfrydig i arwain ac i ddenu cynulleidfaoedd newydd i holl blatfformau’r sianel drwy ein holl asedau hyrwyddo.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Beth fyddwch chi’n ei wneud?

Bydd yr Arweinydd yn cefnogi’r Pennaeth Marchnata tra’n arwain tîm o unigolion creadigol o ddydd i ddydd. Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal brand, hunaniaeth a hyrwyddo gweledol S4C gan chwarae rhan ganolog yn gweithredu’r is-strategaeth farchnata er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd mor eang â phosib. Gan weithio’n agos gyda thimau Marchnata, Digidol a Chyfathrebu bydd disgwyl i’r Arweinydd gyfrannu’n strategol a gweithredol at lwyddiant ein hymgyrchoedd integredig gan fesur perfformiad ar draws sianeli amrywiol. Ynghyd â’r Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata a’r Pennaeth Marchnata, byddwch yn gosod cyfeiriad clir i frand gweledol S4C er mwyn ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau digidol sy’n wynebu’r sector ddarlledu.

Gyda dealltwriaeth ddofn o lwyfannau hyrwyddo digidol a thueddiadau cynulleidfaoedd a phrynwyr sy’n esblygu, bydd disgwyl i chi arwain ar arloesedd hyrwyddo creadigol ar draws y sefydliad er mwyn manteisio ar gyfleoedd i farchnata S4C a’i holl gynnwys. Byddwch yn cydweithio gyda’r Tîm Ymchwil i sicrhau bod unrhyw gynlluniau ac ymdrechion hyrwyddo wedi eu targedu a’i seilio ar y mewnwelediadau diweddaraf o ran tueddiadau ac ymddygiadau cynulleidfaoedd gan eu profi lle bo’n bosib.

Bydd gennych sgiliau creadigol cryf gyda phrofiad gweithredol o gynhyrchu ystod o ymgyrchoedd ac asedau, yn ogystal â throsolwg strategol er mwyn medru gosod amcanion, gyrru canlyniadau a sicrhau llwyddiant. Yn fedrus iawn o ran sut i ddatblygu a diogelu stori brand a chreu ymgyrchoedd gweledol trawiadol, byddwch yn gweithredu gydag angerdd a dealltwriaeth o arloesedd cyfryngau a digidol. Byddwch yn rheolwr profiadol sy’n medru ysbrydoli gan ddod â phobl at ei gilydd i wireddu gweledigaeth, gyda chefndir cryf o arwain ar greu asedau creadigol a’r gallu i ddatblygu cynlluniau integredig sy’n cynyddu ymgysylltiad.

Mae’r rôl hon yn eistedd o fewn yr Adran Marchnata, Cyfathrebu ac Ymchwil ond yn allweddol i’r cydweithio agos gyda’r Tîm Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol ar ymgyrchoedd integredig.

Manylion Swydd

Manylion eraill

Lleoliad: *Swyddfa S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd (o leiaf 3 ddiwrnod yn y swyddfa). Bydd disgwyl i chi weithio o’r swyddfa yn barhaus am y bythefnos gyntaf er mwyn hyfforddi.  Bydd disgwyl i chi fynychu/gweithio o swyddfeydd eraill yn ôl yr angen.

Cyflog: £55,000 y flwyddyn

Cytundeb:  Parhaol 

Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.   

Cyfnod prawf: 6 mis 

Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o’r gwyliau. 

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.   

Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig 

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 13 Ebrill 2026 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV. 

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Dyddiad Cyfweliad: 28 Ebrill 2026, lleoliad i’w cadarnhau. 

Cliciwch isod neu ar y botwm “Gwneud Cais” am fwy o fanylion a ffurflen gais.

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth

Cyflogwr: S4C

Sut i wneud cais

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 13 Ebrill 2026 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyddiad Cyfweliad: 28 Ebrill 2026, lleoliad i’w cadarnhau.

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth