Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol
Tinopolis – Llanelli
Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol creadigol, trefnus a hyderus yn olygyddol i arwain gwaith dyddiol tîm digidol Tinopolis Cymru yn Llanelli.
Byddwch yn datblygu ac yn creu cynnwys digidol-yn-gyntaf ar draws y cwmni, gan weithio’n bennaf gyda Heno a Prynhawn Da a chefnogi cynyrchiadau eraill. Byddwch yn troi syniadau’n fformatau cryf, yn cynllunio sesiynau ffilmio, yn briffio cyfranwyr a chydweithwyr, ac yn goruchwylio’r gwaith o’r syniad cyntaf hyd at gyhoeddi.
Mae hon yn rôl arwain ymarferol sy’n cyfuno creadigrwydd, cynllunio, barn olygyddol a dealltwriaeth o gynulleidfaoedd. Byddwch yn adrodd i’r Pennaeth Cynhyrchu Digidol ac yn rheoli gwaith, yn gosod blaenoriaethau ac yn cynnal ansawdd a chysondeb cynnwys y tîm.
Prif gyfrifoldebau
- Arwain gwaith dyddiol y Tîm Cynnwys Digidol, gan reoli gwaith a gosod blaenoriaethau gweithredol gwaith clir.
- Datblygu syniadau, fformatau a chynlluniau cynnwys digidol-yn-gyntaf ar gyfer Heno, Prynhawn Da, cynhyrchiadau eraill a cheisio am gomisiynau newydd.
- Cynllunio sesiynau ffilmio digidol, briffio cyfranwyr a chydweithwyr, a goruchwylio’r gwaith hyd at ei gyhoeddi.
- Cynhyrchu cynnwys pwrpasol ar gyfer YouTube, fideo ffurf fer, podlediadau a phodlediadau fideo.
- Cynghori timau ar agoriadau fideo, strwythur, gofynion ffilmio a thriniaeth briodol ar gyfer pob llwyfan.
- Adnabod cyfleoedd i ddilyn straeon ymhellach ac i ail-lunio neu ailddefnyddio deunydd archif.
- Cynnal safonau uchel o ran adrodd straeon, cywirdeb, hygyrchedd, tôn, hawliau a chyflwyniad gweledol.
- Defnyddio dealltwriaeth o’r gynulleidfa a data perfformiad i brofi, gwella a datblygu cynnwys newydd.
- Gosod amcanion, rhoi adborth, cefnogi datblygiad aelodau’r tîm a rheoli perfformiad pan fo angen.
- Rhannu gwybodaeth ymarferol ar draws timau cynhyrchu a gwella templedi a llifoedd gwaith.
- Rheoli sawl blaenoriaeth yn annibynnol a sicrhau bod amserlenni cynhyrchu yn glir ac yn realistig.
- Cyfeirio materion sensitif, cymhleth neu risg uchel at y Pennaeth Cynhyrchu Digidol.
Sgiliau a phrofiad
Hanfodol:
- Sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig cryf.
- Profiad sylweddol o ddatblygu a chynhyrchu cynnwys digidol ar gyfer sawl llwyfan.
- Dealltwriaeth gadarn o YouTube, fideo ffurf fer, podlediadau a phodlediadau fideo.
- Profiad o arwain tîm, gosod gwaith, rhoi adborth a chefnogi datblygiad staff.
- Barn olygyddol hyderus a dealltwriaeth o gywirdeb, hawliau, hygyrchedd a rheoli risg.
- Gallu datblygu syniad o’r cysyniad cyntaf hyd at ffilmio, golygu, pecynnu a chyhoeddi.
- Gallu defnyddio data perfformiad ac ymateb cynulleidfaoedd i wneud penderfyniadau cynnwys.
- Sgiliau trefnu rhagorol a’r gallu i reoli sawl blaenoriaeth yn dawel dan bwysau.
- Sgiliau cyfathrebu a chydweithio cryf ar draws timau creadigol, golygyddol a chynhyrchu.
Dymunol:
- Profiad o weithio gyda rhaglenni teledu, cynnwys byw neu raglenni cylchgrawn.
- Profiad o ddatblygu llifoedd gwaith, templedi neu hyfforddiant ar gyfer timau cynnwys.
- Dealltwriaeth o ddefnyddio deunydd archif a chynllunio cynnwys sy’n meithrin cynulleidfaoedd dros amser.
- Dealltwriaeth o ddefnydd deallusrwydd artiffisial ar gyfer gwella effeithlonrwydd prosesau cynhyrchu
Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac rydym yn credu mewn amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Lleoliad: Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau: 4 Medi 2026
Manylion Pellach
Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc pan fo angen.
Gwyliau: Yn ychwanegol at wyliau banc statudol, bydd hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn: Gall staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Tinopolis, yn ddarostyngedig i delerau’r cynllun. Ar hyn o bryd, mae Tinopolis yn cyfrannu 3% o’r cyflog sylfaenol a disgwylir cyfraniad staff o 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon llythyr cais a CV at swyddi@tinopolis.com, gan nodi ‘Arweinydd Tîm Cynnwys Digidol’ yn glir.
Dyddiad ac amser cau: 4 Medi 2026.
Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd angen darparu tystiolaeth ddogfennol fel rhan o’r broses recriwtio.
Bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir wrth wneud cais yn cael ei thrin yn unol â Pholisi Diogelu Data Tinopolis. Gellir gofyn i ni ddileu data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg.

