Asesydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol : ACT
Hyd contract: Parhaol, llawn amser
Oriau: 37 awr dros 5 diwrnod
Lleoliad: Ar lawr gwlad/O gartref
Cyflog Cychwynnol: £26250 + £1500 cymhorthdal siaradwr Cymraeg (£27,750yf)
Dyddiad cau: 6.12.25
Beth byddwch yn ei wneud:
Rydym yn edrych am unigolyn angerddol, i gyflwyno a threfnu hyfforddiant, gweithdai, a gweithgareddau dysgu cyfunol i ganiatáu dysgwyr i lwyddo ym mhob deilliant dysgu ar y llwybr Iechyd a Gofal Cymdeithasol tra’n cwrdd gofynion y sefydliadau gwobrwyo, Llywodraeth Cymru, Fframwaith Archwiliad Cyffredin Estyn ac ACT.
Mae’r rôl ar lawr gwlad ac yn ofynnol i’r Asesydd ddarparu ar draws llwybrau, fodd bynnag, bydd yr hyfforddwr yn cael ei reoli’n uniongyrchol gan y Rheolwr Llwybr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae ACT wedi’i ymrwymo i hyrwyddo’r iaith Gymraeg i staff a dysgwyr, ac er nad yw’n cael ei ystyried fel maen prawf gofynnol, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon.
Beth rydyn ni ei hangen gennych chi:
• Profiad galwedigaethol yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gofynnol)
• Cymhwyster galwedigaethol ar isafswm o Lefel 3 neu gywerth (yn Iechyd a Gofal Cymdeithasol) (Gofynnol)
• Angerddol dros hyfforddiant/addysgu gyda chreadigrwydd gryf (Gofynnol)
• Y gallu i ddatblygu eraill (Gofynnol)
• Sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol (Gofynnol)
• Y gallu i flaenoriaethu a rheoli llwyth gwaith ei hun (Gofynnol)
• Cymhwyster asesydd (neu’r parodrwydd i’w gwblhau)
Pam gweithio i ACT?
Fel Darparwr Hyfforddiant mwyaf Cymru, mae ACT i gyd am y pobl. Diwylliant gyda theimlad teuluol ac rydym yn credu mai ein gweithwyr yw ein ased pennaf. Rydym i gyd yn angerddol tu hwnt am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl wrth ddarparu rhaglenni addysgu a chyfleoedd rhagorol.
Ein Gwerthoedd:
Yn ACT, rydym yn ymfalchïo wrth feithrin diwylliant o barch, tegwch, ac urddas i bawb. Rydyn yn credu mewn creu amgylchedd gynhwysol ble mae pob unigolyn yn teimlo’u gwerth a’u grymuso i ffynnu.
Mae FREDIE yn golygu Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant, ac Ymrwymiad – gwerthoedd sy’n graidd i bopeth rydym yn ei wneud yn ACT. O rhyngweithio gyda staff i’n ymrwymiad gyda dysgwyr, mae’r egwyddorion hyn yn tywys ein ffordd o weithio, sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i lwyddo.
Datganiad Amrywiaeth
Mae ACT yn ymroi i ymarferion recriwtio teg a saff, gan sicrhau cydraddoldeb i bob ymgeisydd a staff. Dydyn ni ddim yn gwahaniaethu ar ryw, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodol neu sifil, ailbennu rhywedd, hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedl wreiddiol, crefydd neu gred, anabledd neu oed. Mae ein cwestiynu a chyfuno gwybodaeth er mwyn ein helpu i gynnal arfer gorau am gyfleoedd cyfartal ac adnabod y rhwystrau am gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle. Ni fydd yr wybodaeth sy’n cael ei goladu gennych chi yn cael ei ddefnyddio mewn unrhyw benderfyniad sy’n eich effeithio chi.
Rydym yn hapus i ystyried unrhyw addasiadau rhesymol gall ymgeiswyr fod eu hangen yn ystod y broses recriwtio, cysylltwch dros e-bost gydag unrhyw anghenion.
Beth nesaf?:
Rydym yn neilltuo’r gallu i gau’r swydd wag os ydyn ni’n derbyn ceisiadau digonol ar gyfer y rôl.
Bydd ymgeiswyr yn cael ei hysbysu am y broses ymgeisio dros e-bost (cofiwch wirio ffolderi junk neu spam)
Proses cyfweliad yn cynnwys:
• Cyfweliad wyneb yn wyneb yn ein Prif Swyddfa gyda thasg gwaith (er enghraifft – dysgu micro neu dasg ysgrifenedig, bydd manylion llawn yn cael ei ddarparu cyn y cyfweliad)
Rydym yn awyddus i’r broses cyflogi eich caniatáu i fod ar eich gorau, felly os ydych chi angen i ni wneud unrhyw addasiadau, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y swydd wag cysylltwch gyda ni ar recruitment@acttraining.org.uk.
Gwneud Cais
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.

