Athrawon – Caerdydd a’r Ardaloedd Cyfagos

Teitl Swydd
Athrawon – Caerdydd a’r Ardaloedd Cyfagos
Enw’r Cwmni
Dosbarth
Lleoliad
Caerdydd
Cyflog
£172.98 y dydd
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Cyn gynted â phosib

Graddfa Gyflog – £172.98 y dydd

Caerdydd, dewch i gwrdd â Dosbarth. 💙

Dewis newydd i athrawon ar draws Caerdydd.

Mae Dosbarth yn asiantaeth annibynnol o Orllewin Cymru — a nawr, rydyn ni’n ehangu i Gaerdydd.

Efallai ein bod ni’n newydd i Gaerdydd, ond dydyn ni ddim yn newydd i waith cyflenwi. Gyda 10 mlynedd mewn busnes a dros 60 mlynedd o brofiad ym myd addysg rhyngom fel tîm, rydyn ni’n deall beth sydd ei angen ar athrawon ac ysgolion — achos mae addysg wastad wedi bod wrth galon Dosbarth.

Pwy all ymuno â’n tîm?

Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gan athrawon Cynradd ac Uwchradd — boed chi’n athro profiadol, newydd gymhwyso, yn dychwelyd i’r proffesiwn, yn chwilio am newid neu eisiau mwy o hyblygrwydd yn eich gwaith.

P’un ai ydych chi’n chwilio am waith rheolaidd, ychydig ddyddiau’r wythnos, gwaith cyflenwi achlysurol neu rôl tymor hirach, dywedwch wrthym beth sy’n gweithio i chi ac fe wnawn ni chwilio am waith sy’n addas i chi.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan Dosbarth?

  • Cyflog drwy PAYE, heb unrhyw ffioedd cudd gan gwmni cyflogres
  • Tîm sydd wedi’i sefydlu a’i reoli gan athrawon ac arbenigwyr ym myd addysg
  • Y dewis i gyfathrebu a gweithio gyda ni drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cefnogaeth ac arweiniad gan ein tîm 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn
  • Mynediad at waith drwy asiantaeth sydd ar fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gweithwyr asiantaeth, gan gynnwys athrawon cyflenwi
  • Cyfleoedd i ennill profiad a meithrin cysylltiadau gydag ysgolion
  • Mynediad at gyrsiau DPP achrededig, dwyieithog
  • Arweiniad gyrfa unigol a chefnogaeth i athrawon newydd gymhwyso
  • Dewis o waith, o gyflenwi dyddiol a gwaith tymor byr i rolau tymor hirach

Beth rydyn ni’n chwilio amdano?

I weithio fel Athro Cyflenwi drwy Dosbarth, bydd angen:

  • Y wybodaeth a’r gallu i addysgu’r cwricwlwm cenedlaethol
  • Brwdfrydedd dros addysgu ac agwedd gyfeillgar, hyblyg a dibynadwy
  • Dulliau addysgu amrywiol a hyblyg
  • Sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol
  • DBS cyfredol sydd wedi’i gofrestru gyda’r Gwasanaeth Diweddaru, neu barodrwydd i gwblhau gwiriad DBS newydd
  • Cofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA)
  • Statws Athro Cymwysedig (SAC) neu statws athro newydd gymhwyso
  • O leiaf ddau eirda proffesiynol

Mae Dosbarth wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant. Mae pob aelod o staff yn cwblhau’r gwiriadau diogelu a chydymffurfio perthnasol, ac rydyn ni’n darparu hyfforddiant diogelu fel rhan o’n proses recriwtio.

Barod am newid, neu jyst eisiau gwybod ychydig mwy am beth all Dosbarth ei gynnig? Cysylltwch â Gwion: GwionPhillips@dosbarth.cymru neu Marli : marliwilson@dosbarth.cymru heddiw am sgwrs anffurfiol am ymuno â thîm Dosbarth Caerdydd. 💙

Cyflogwr: Dosbarth

Sut i wneud cais

Cysylltwch â Gwion:  GwionPhillips@dosbarth.cymru neu Marli : marliwilson@dosbarth.cymru heddiw am sgwrs anffurfiol am ymuno â thîm Dosbarth Caerdydd. 💙