Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru : CADEIRYDD

Teitl Swydd
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru : CADEIRYDD
Enw’r Cwmni
Llywodraeth Cymru
Lleoliad
Cynhelir cyfarfodydd fel arfer yn Aberystwyth a/neu’n rhithiol
Cyflog
£265 y diwrnod (a chostau Teithio a Chynhaliaeth)
Llawn/Rhan-amser
Rhan amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 06/04/2026

Allwch chi’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl ar gyfer pobl Cymru?

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw’r gwasanaeth archif ac ymchwilio cenedlaethol unigryw, annibynnol i Gymru, sy’n ymroddedig i gofnodi a dehongli yn awdurdodol ein hamgylchedd hanesyddol cyfoethog. Wedi’i leoli o fewn adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, mae’n gweithredu ar hyd braich o Lywodraeth Cymru, gyda staff arbenigol medrus yn darparu cyngor proffesiynol a gwybodaeth arbenigol i’r cyhoedd. Mae wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i Gymru, meithrin gwell dealltwriaeth o’n hadeiladau a’n tirweddau hanesyddol, a chydnabod y potensial i dreftadaeth helpu i wella bywydau pobl.

Mae’r Cadeirydd yn wyneb cyhoeddus i’r Comisiwn Brenhinol ac mae’n sicrhau bod gweithgarwch y Comisiwn yn cydymffurfio â’r dyletswyddau sydd wedi’u hymgorffori yn y Warant Brenhinol a gyfansoddwyd ynddo. Mae’r Cadeirydd hefyd yn chwarae rôl flaenllaw trwy ddarparu her adeiladol ar draws busnes y Comisiwn Brenhinol i sicrhau bod pob agwedd ar ei strategaeth, cyfeiriad a gweithrediad yn cael eu craffu ar gyfer effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.

Rydym yn awyddus i recriwtio Cadeirydd a fydd yn gallu cynnig arweiniad strategol sydd â phrofiad o arwain sefydliadau trwy gyfnod o newid ac sy’n gallu adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gydag ystod eang o randdeiliaid

 Mae Llywodraeth Cymru  a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru o’r farn y dylai aelodau byrddau cyrff cyhoeddus adlewyrchu’r gymdeithas yng Nghymru – pobl o bob cefndir. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn annog ystod eang ac amrywiol o unigolion i wneud cais am swyddi ar gyrff cyhoeddus.  Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys menywod, pobl dan 30 oed, pobl o gefndir du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol.

Cydnabyddiaeth ariannol:  £265 y diwrnod (a chostau Teithio a Chynhaliaeth) am ymrwymiad amser o ryw 24 diwrnod y flwyddyn

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 6 Ebrill 2026, 4yp.  Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwnnw. Disgwylir i’r cyfweliadau gael eu cynnal yn Mehefin 2026.

I gael manylion pellach, swydd ddisgrifiad ac i wneud cais, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud Cais

Sut i wneud cais

I gael manylion pellach, swydd ddisgrifiad ac i wneud cais, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud Cais’ isod.