Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru : COMISIYNWYR
Allwch chi’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol gorau posibl ar gyfer pobl Cymru?
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw’r gwasanaeth archif ac ymchwilio cenedlaethol unigryw, annibynnol i Gymru, sy’n ymroddedig i gofnodi a dehongli yn awdurdodol ein hamgylchedd hanesyddol cyfoethog. Wedi’i leoli o fewn adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, mae’n gweithredu ar hyd braich o Lywodraeth Cymru, gyda staff arbenigol medrus yn darparu cyngor proffesiynol a gwybodaeth arbenigol i’r cyhoedd. Mae wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i Gymru, meithrin gwell dealltwriaeth o’n hadeiladau a’n tirweddau hanesyddol, a chydnabod y potensial i dreftadaeth helpu i wella bywydau pobl.
Rydym yn chwilio am bobl i ymuno â Bwrdd y Comisiynwyr sy’n barod i ddarparu her adeiladol ar draws busnes y Comisiwn Brenhinol i sicrhau bod pob agwedd ar ei strategaeth, ei gyfeiriad a’i gyflawniad yn cael eu craffu ar gyfer effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.
Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru o’r farn y dylai aelodau byrddau cyrff cyhoeddus adlewyrchu’r gymdeithas yng Nghymru – pobl o bob cefndir. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn annog ystod eang ac amrywiol o unigolion i wneud cais am swyddi ar gyrff cyhoeddus. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys menywod, pobl dan 30 oed, pobl o gefndir du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol.
Cydnabyddiaeth ariannol: £205 y diwrnod (a chostau Teithio a Chynhaliaeth) am ymrwymiad amser o ryw 10 diwrnod y flwyddyn
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 6 Ebrill 2026, 4yp. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwnnw. Disgwylir i’r cyfweliadau gael eu cynnal yn Mehefin 2026.
I gael manylion pellach, swydd ddisgrifiad ac i wneud cais, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud Cais’.

