Comisiynydd Chwaraeon

Teitl Swydd
Comisiynydd Chwaraeon
Enw’r Cwmni
S4C
Lleoliad
Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 3 ddiwrnod yn y swyddfa)
Cyflog
Cyflog cystadleuol yn ddibynnol ar sgiliau a phrofiad. Bydd y cyflog dim llai na £70,000 y flwyddyn.
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 06/07/2026

Pam ymuno ag S4C?

Mae S4C yn ddarlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus Am Ddim yn y DU. Rydym yn darlledu 7 diwrnod yr wythnos yn y Gymraeg ac mae chwaraeon yn rhan bwysig o’r amserlen gyda dros 550 awr yn cael eu dangos bob blwyddyn.

Yn S4C, rydym yn angerddol dros greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar dy orau; Balch o S4C; Dathlu Pawb; Cer amdani

Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni gyflwyno ein strategaeth cynnwys aml-blatfform newydd. Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig, creadigol a brwdfrydig sydd â diddordeb brwd mewn darlledu chwaraeon i ymuno â’n tîm o Gomisiynwyr. Mae’n rôl heriol, sy’n cyffwrdd â bron pob agwedd ar ddarlledu chwaraeon ac mae pob diwrnod yn wahanol.

Trosolwg o’r Swydd

Chwaraeon yw un o gonglfeini cynnwys S4C ar bob platfform a dyma gyfle cyffrous ymuno gyda’r tîm comisiynu gan arwain ar negydu a sicrhau hawliau chwaraeon o bob math gan gyfrannu at ymestyn at y gynulleidfa led led Cymru. Fel aelod o’r tîm comisiynu, byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Cynnwys i greu a goruchwylio strategaeth cyhoeddi cynnwys chwaraeon aml-blatfform ar gyfer S4C, gan gyfrannu’n sylweddol at gyflawni ein strategaeth gynnwys.

Byddwch yn cyflwyno ac yn comisiynu ystod eang o gynnwys chwaraeon byw gan gyflenwyr. Byddwch yn cydbwyso rhagoriaeth olygyddol â’r holl ofynion cydymffurfio a chyllidebol, gan sicrhau bod y cynnwys a gomisiynwyd yn cyd-fynd yn strategol â gweledigaeth S4C.

Byddwch yn gyswllt allweddol ac adeiladol â’r sector cynhyrchu annibynnol a darlledwyr eraill, gan gydweithio i nodi cyfleoedd i ehangu darpariaeth chwaraeon S4C, gan dargedu cynulleidfaoedd sy’n defnyddio’r cynnwys hwnnw mewn nifer o fformatau a gwahanol blatfformau cyhoeddi. Byddwch yn gyfrifol am drafod a sicrhau hawliau chwaraeon i ddarlledu a chyd-ddarlledu ystod eang o chwaraeon byw o’r llwyfan rhyngwladol i chwaraeon ar lawr gwlad ar S4C.

Bydd eich cyfraniad a’ch dylanwad fel arweinydd yn hollbwysig wrth i S4C drawsnewid yn gyhoeddwr cynnwys aml-blatfform. 

Sut i wneud cais

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 y bore, Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2026 at
pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

O ystyried natur y rôl hon, rydym yn ymwybodol o ddigwyddiadau mawr y calendr chwaraeon dros y misoedd nesaf. Felly, ein bwriad ar hyn o bryd yw cyrraedd rhestr fer yn fuan ar ôl y dyddiad cau, gyda cyfweliadau wedi’u cynllunio ar gyfer canol mis Gorffennaf, ac rydym yn annog ceisiadau cynnar. Fodd bynnag, rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer y rôl ac mae’n bosibl y bydd angen addasu’r amserlen os bydd angen.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn
Saesneg.