Cwnselydd : Ara – Gwasanaeth Gamblo

Rydym ni angen Cwnselydd ar unwaith, i weithio o fewn ein gwasanaeth gamblo. Mae’r swydd hon yn swydd llawn amser 35 awr yr wythnos yn cynnwys 2 noswaith.

Lleoliad: De Cymru

Cyflog: £36,037

Cytundeb: Parhaol

Adran: Gwasanaethau Gamblo

Cymryd rôl Ymarferydd Cwnsela o fewn gwasanaethau gamblo Ara.  Darparu cwnsela unigol, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb i gleientiaid sydd wedi’u heffeithio gan gamblo niweidiol. Gweithio i ganllawiau gwasanaeth gamblo Ara, gan ddarparu ymyriadau cwnsela ar gyfer pob cleient sy’n cyfeirio eu hunain at y gwasanaeth. Mae angen i’r Cwnselydd fod wedi’i leoli yn Ne Cymru, ac mae siarad Cymraeg yn hanfodol.

Mae rhai o’r tasgau allweddol ar gyfer y rôl hon yn cynnwys:

  • Darparu cwnsela unigol i gleientiaid sydd wedi’u heffeithio gan gamblo niweidiol o fewn y strwythur triniaeth a amlinellir gan Wasanaeth Gamblo Ara.
  • Sicrhau bod systemau priodol ar waith i gasglu data perthnasol yn dilyn cyswllt cleient a chynnal cofnodion i ddiwallu anghenion sefydliadol
  • Ymgymryd â phrosesau rheoli risg ac asesu risg.
  • Datblygu cynlluniau rheoli risg a rhannu gwybodaeth fel y bo’n briodol er budd gorau’r Cleient a’r sefydliad.

Cliciwch yma am swydd ddisgrifiad llawn

Yn gyfnewid rydym ni’n cynnig:

  • Cyflog cystadleuol ac wedi’i feincnodi. 
  • Wythnos waith 35 awr i hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, gyda gweithio hyblyg. 
  • Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â holl wyliau banc y DU. 
  • Cynllun pensiwn, hyfforddiant cynhwysfawr, a Rhaglen Cymorth i Weithwyr 24 awr. 
  • Gwaith ystyrlon a boddhaus sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i rai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 2 Ionawr 2026

Cyfweliadau: Dydd Mercher 21 Ionawr 2026

I wneud cais, anfonwch e-bost i recruitment@recovery4all.co.uk gyda CV a llythyr eglurhaol.

Am ragor o wybodaeth am Ara cliciwch yma

Sut i wneud cais