Cydlynydd Cyfleusterau

Teitl Swydd
Cydlynydd Cyfleusterau
Enw’r Cwmni
Cyfoeth Naturiol Cymru
Lleoliad
Bangor
Cyflog
£33,755 – £36,693
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 21/01/2026

Lleoliad: Bangor – Maes y Ffynnon
Gradd / Amrediad cyflog: 4: £33,755 – £36,693
Patrwm gwaith: Llawn amser
Math o gytundeb: Parhaol
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg: B2 – Lefel uwch
Dyddiad cau: 21/01/2026

Y rôl

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cyfleusterau proffesiynol a phrofiadol i arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyfleusterau ar draws sawl safle yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae hon yn rôl hanfodol, lle ceir cysylltiad uniongyrchol â’r cyhoedd, ac sy’n chwarae rhan allweddol wrth gynnal amgylcheddau diogel, effeithlon a chroesawgar i’n staff, ymwelwyr a defnyddwyr gwasanaeth.

Gan adrodd i uwch reolwyr, bydd y Cydlynydd Cyfleusterau yn gyfrifol am reoli gwasanaethau dyddiol (caled a meddal), gan sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion iechyd a diogelwch statudol. Mae’r rôl yn cynnwys goruchwylio tîm bychan ar y safle, cydlynu contractwyr allanol, a darparu cefnogaeth weithredol o safon uchel ar draws pob lleoliad.

Fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â chyfleusterau, disgwylir i ddeiliad y swydd ddangos ei fod yn gallu ffurfio barn gadarn, fod ganddo sgiliau trefnu rhagorol, ac ymrwymiad cryf i ragoriaeth y gwasanaeth. Rôl swyddfa yw hon sy’n gofyn am deithio’n rheolaidd rhwng safleoedd; felly mae trwydded yrru lawn y DU a dull o weithio hyblyg a rhagweithiol yn hanfodol.

Mae’r swydd hon yn cynnig y cyfle i gymryd perchnogaeth o bortffolio gweithredol amrywiol a deinamig, a chyfrannu’n ystyrlon at effeithiolrwydd a diogelwch ein safleoedd. Mae’n addas iawn i weithiwr cyfleusterau proffesiynol sydd â chefndir cadarn ym maes cydymffurfio, sgiliau rhyngbersonol rhagorol, a’r awydd i wneud gwahaniaeth ymarferol mewn amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol.

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch ag Steffan Banholzer at Steffan.Banholzer@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Bydd cyfweliadau’n cael eu bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.

Amdanom ni

Byddwch yn ymuno â thîm Cyfleusterau proffesiynol ac ymroddedig sy’n gyfrifol am sicrhau gweithrediad llyfn ein swyddfeydd, ein depos, a’n safleoedd lle ceir cysylltiad uniongyrchol â’r cyhoedd ar hyd a lled Gogledd Orllewin Cymru. Mae ein gwaith yn sicrhau bod pob amgylchedd yn ddiogel, yn ymarferol, ac yn cyd-fynd ag anghenion staff a defnyddwyr gwasanaeth.

Gan reoli portffolio amrywiol-o ddepos gweithredol i gyfleusterau cyhoeddus-byddwch yn gweithio’n agos â chydweithwyr, contractwyr a thimau mewnol i ddarparu gwasanaethau ymatebol ac effeithlon. Bydd eich rôl yn cefnogi cydymffurfiaeth, cydlyniant a gwelliant parhaus ar draws yr ystâd.

Mae hwn yn gyfle ardderchog i gyfrannu at dîm dynamig, lle bydd eich mewnbwn yn cael effaith uniongyrchol ar wella ansawdd, diogelwch a swyddogaeth ein lleoliadau.

Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud

  • Darparu amgylchedd gwaith diogel ac iach i staff, cwsmeriaid a chontractwyr CNC. 
  • Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rheng flaen rhagorol a meithrin diwylliant o welliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau. 
  • Darparu cyfrifoldeb goruchwylio ar gyfer Aelodau’r Tîm Cyfleusterau yn eich hwb, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei flaenoriaethu, gofynion y gyllideb wedi’u bodloni a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn cael ei gynnal.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
  • Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.

Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau

Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.

  1. Cymhwyster Lefel 4 mewn Rheoli Cyfleusterau neu debyg.
  2. Gwybodaeth ardderchog am waith rheoli iechyd a diogelwch sy’n ymwneud â’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc.
  3. Cymhwyster NEBOSH, IOSH neu iechyd a diogelwch tebyg, neu’n gweithio tuag ato.
  4. Profiad o ddarparu gwasanaethau cyfleusterau caled a meddal o fewn amgylchedd adeiledig.
  5. Profiad o gydlynu gwaith o fewn amgylchedd cyfleusterau.
  6. Dealltwriaeth dda o ddefnyddio system gyllid a meddalwedd/cymwysiadau eraill i fodloni gofynion eich maes cyfrifoldeb.
  7. Sgiliau trefnu da.
  8. Sgiliau ysgrifenedig a llafar da a’r gallu i gyfathrebu’n hyderus, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
  9. Sgiliau rhyngbersonol da gyda’r gallu i weithio dan bwysau gan ddefnyddio eich menter eich hun er mwyn cwrdd â therfynau amser tynn.
  10. Sgiliau TG da a sgiliau mewnbynnu data’n gywir.
  11. Byddai profiad o weithredu newid neu wella prosesau yn fanteisiol hefyd.

Gofynion y Gymraeg

  • Hanfodol: B2 – Lefel uwch

Buddion

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y botwm “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais