Cydlynydd Gweinyddol (contract 16 wythnos)

Teitl Swydd
Cydlynydd Gweinyddol (contract 16 wythnos)
Enw’r Cwmni
S4C
Lleoliad
Caerfyrddin
Cyflog
£26,000 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 26/01/2026

Rydym yn chwilio am unigolyn hynod drefnus i gefnogi’r timau Gweithrediadau a Phobl a Diwylliant ar brosiect hanfodol i gydlynu ein gofynion storio corfforol ar draws y timau.

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio’n systematig drwy gyfrol fawr o flychau sy’n cynnwys dogfennau papur hanesyddol, gan adolygu’r cynnwys, digideiddio cofnodion lle bo’n briodol, a nodi eitemau i’w cadw, eu trosglwyddo i storfa ddigidol neu eu gwaredu’n ddiogel yn unol â gofynion GDPR.

Yn ogystal, bydd yr ymgeiswydd llwyddiannus yn cefnogi trefnu a chydymffurfio ffolderi rhannu digidol, ac yn cyfrannu at wella safonau rheoli dogfennau a lleihau dibyniaeth ar storio corfforol yn y dyfodol. Bydd y rôl hon yn hanfodol i sicrhau trosglwyddiad trefnus a diogel o gofnodion papur i systemau digidol, gan symleiddio prosesau gweithredol a gwella cydymffurfiaeth ar draws yr adran.

Manylion Eraill

Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gweithio o’r Egin 5 diwrnod yr wythnos.

Cyflog: £26,000 y flwyddyn

Contract: Contract tymor penodol am 16 wythnos

Cyfnod Prawf: 8 wythnos

Oriau: Hyd at 35.75 awr yr wythnos

Gwyliau: Yn ogystal â’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau â thâl y flwyddyn. (Sylwer: bydd y nifer hwn yn cael ei gyfrifo’n ôl y gyfradd pro rata os ydych yn gweithio’n rhan amser).

Pensiwn: Mae staff cyflogedig yn gymwys i ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol a all gael ei ddiwygio o bryd i’w gilydd. Os ydych yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 26 Ionawr i Pobl@s4c.cymru neu Adran Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Dyddiad Cyfweliadau: 2 Chwefror 2026

Ni dderbynnir CV.

Mae croeso i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth

Cyflogwr: S4C

Sut i wneud cais

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 26 Ionawr i Pobl@s4c.cymru neu Adran Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Dyddiad Cyfweliadau: 2 Chwefror 2026

Ni dderbynnir CV.

Cliciwch ar y botwm “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth a ffurflen gais.