Cyfarwyddwr Rhagoriaeth Dysgu a Blaenoriaethau Cenedlaethol
Fe fyddwch yn ymuno â thîm o gydweithwyr talentog ac ymroddedig, ac fel aelod allweddol o’n Uwch Dîm Arwain, fe fyddwch yn ein helpu i wireddu ein hamcanion a’n huchelgais. Fel Cyfarwyddwr, byddwch yn dylanwadu ar ddyfodol y proffesiwn addysg yng Nghymru, llunio’r rhaglenni dysgu proffesiynol a’r gefnogaeth sydd ar gael i addysgwyr a sefydlu Dysgu fel darparwr dysgu proffesiynol cenedlaethol effeithiol, cynhwysol ac ymatebol.
Cytundeb llawn amser, parhaol
Dyddiad cau: 19 Mehefin 2026
Am ragor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais, e-bostiwch:
sara.jermin@dysgu.llyw.cymru neu gwenllian.lansdowndavies@dysgu.llyw.cymru

