Cynghorwr Gwasanaeth Cwsmer

Teitl Swydd
Cynghorwr Gwasanaeth Cwsmer
Enw’r Cwmni
Coleg Penybont
Lleoliad
Penybont
Cyflog
£25,948 y flwyddyn
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 28/06/2026

Diben y swydd: Darparu gwasanaeth cymorth rhagorol (Cymraeg a Saesneg) i holl fyfyrwyr a randdeiliadau Coleg Penybont.

Dydd Llun – Dydd Gwener ar sail rota 8yb – 8yp

Yr hyn rydym yn chwilio amdano:

● Y gallu i ateb galwadau ffôn, ymholiadau a negeseuon sgwrs fyw yn hyderus ynGymraeg

● Y gallu i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid

● Y gallu i weithredu systemau gweinyddu

● Dealltwriaeth o Google Suite

● Sgiliau rhyngbersonol da

● Gwydnwch

● Chwaraewr tîm

Os ydych yn credu y gallech gyfrannu at y tîm cefnogol hwn, hoffem glywed gennych! I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch y pecyn gwybodaeth y swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlantac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar Wiriad Manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion.

Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a’r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai’n well gennych i’ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.

Rydym wrthi’n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o’r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld agunrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a’u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o’i hunaniaeth a’i gymhwystra i weithio yn y DU.

Nid yw’r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa’r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o’u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.

Sylwer, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.

Sut i wneud cais

I wneud cais ac am fwy o wybodaeth, ewch i’r pecyn gwybodaeth isod :

Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu os hoffech ddysgu mwy amdanom, cysylltwch â ni heddiw:

Ffoniwch: 01656 302 302 est. 660

E-bostiwch: jobs@bridgend.ac.uk

Ewch i: bridgend.ac.uk

Dilynwch: @bridgendcollege