Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant

Teitl Swydd
Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant
Enw’r Cwmni
Gyrfa Cymru
Lleoliad
Abertawe, Powys/ Ceredigion, a Rhanbarthau De-ddwyrain, De-orllewin a Chanolbarth Cymru
Cyflog
gweler isod
Llawn/Rhan-amser
Llawn amser
Dyddiad Cau
Dyddiad Cau: 19/03/2026

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG), is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaethau hanfodol i bob oedran o ran cyfarwyddyd gyrfaoedd a darparu anogaeth. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn annibynnol a diduedd ac ar gael ledled Cymru, gan gynnwys drwy raglen Cymru’n Gweithio.

Fel cenedl, rydyn ni’n ffynnu wrth hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae gweithlu amrywiol yn arwain at wneud gwell penderfyniadau, mwy o greadigrwydd, timau cryfach a gweithleoedd hapusach – ac yn bwysicaf oll, dyma’r peth iawn i’w wneud. Mae ein hymrwymiad i amrywiaeth yn ein helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol a sicrhau bod ein gweithlu yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir.

Swyddi Gwag – Cynghorwyr Gyrfa/Cynghorwyr Gyrfa dan Hyfforddiant

Rolau amser llawn (37 awr) ar gael yn Abertawe, Powys/ Ceredigion, a Rhanbarthau De-ddwyrain, De-orllewin a Chanolbarth Cymru

  • Cyflog Cynghorydd Gyrfa: £32,262 – £37,330 (gan ddechrau ar £32,262).
  • Cyflog Cynghorydd Gyrfa dan Hyfforddiant: £30,993.
  • Sgiliau Cymraeg: Hanfodol, lefelau sgiliau naill ai Canolradd neu Uwch (gweler isod).

Ydych chi’n rhywun sy’n gallu…

  • Ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc ac oedolion i gymryd camau cadarnhaol tuag at gyflawni eu huchelgeisiau?
  • Cyfrannu at ddatblygu sgiliau ac at lwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol?
  • Gweithio o fewn sefydliad cenedlaethol modern, arloesol lle gallwch chi wirioneddol wneud gwahaniaeth?

Mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth cyfarwyddyd i bawb. Mae ein tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc yn cefnogi dysgwyr ym maes addysg, tra bod ein tîm Cymru’n Gweithio yn gweithio gyda chwsmeriaid yn y farchnad lafur. Gyrfa Cymru yw’r unig sefydliad cenedlaethol sy’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd diduedd yng Nghymru, ac mae ein cynghorwyr yn angerddol am helpu unigolion i wireddu eu potensial.

Ynglŷn â’r Rolau

Abertawe, Tîm Cymru’n Gweithio – Sgiliau Cymraeg Canolradd

Byddwch yn cefnogi pobl ifanc ac oedolion i fentro i’r farchnad lafur neu i ail-ymuno â’r farchnad lafur trwy asesu, rhoi cyfarwyddyd a darparu cymorth wedi’i deilwra. Mae hyn yn cynnwys gweithio gydag unigolion sy’n ddi-waith (tymor byr neu hirdymor), yn economaidd anweithgar, yn profi rhwystrau sy’n gysylltiedig ag iechyd neu anabledd, neu sy’n ceisio newid gyrfa. Ewch i’r farchnad lafur trwy asesu, rhoi cyfarwyddyd a chymorth wedi’i deilwra.

Byddwch hefyd yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol fel darparwyr hyfforddiant, y Ganolfan Byd Gwaith, carchardai, timau troseddau ieuenctid, cyflogwyr a sefydliadau eraill i helpu cwsmeriaid i symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth gynaliadwy.

Mae cynghorwyr yn defnyddio amrywiaeth o offer a dulliau, gan gynnwys cymorth un-i-un, sesiynau cyflogadwyedd grŵp a chyflwyniadau gan ddefnyddio technolegau digidol.

Yn benodol, rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â phrofiad mewn:

  • Sefydliadau addysg neu hyfforddiant
  • Cymorth iechyd, gofal cymdeithasol neu anabledd
  • Cefnogi oedolion sy’n dychwelyd i’r farchnad lafur
  • Gweithio gyda chymunedau ethnig leiafrifol amrywiol, ceiswyr lloches neu ffoaduriaid
  • Gweithio mewn lleoliad carchar.

Powys/Ceredigion, Tîm Gwasanaethau i Bobl Ifanc – Sgiliau Cymraeg Uwch

Mae’r rolau hyn yn canolbwyntio ar baratoi pobl ifanc ar gyfer cyfnodau pontio allweddol yn eu haddysg a’u gyrfaoedd yn y dyfodol. Byddwch yn gweithio ar draws ysgolion prif ffrwd, ysgolion arbennig, colegau AB a gyda’r rhai sydd wedi’u haddysgu y tu allan i leoliadau prif ffrwd. Fel gyda’n holl rolau cynghorydd, byddwch yn defnyddio ystod o offer i ddarparu cymorth un-i-un, sesiynau grŵp rhyngweithiol a chyflwyniadau digidol.

Rolau peripatetig, Rhanbarthau’r De-ddwyrain, y De-orllewin a’r Canolbarth – Sgiliau Cymraeg Canolradd

Bydd y cynghorwyr/y rhai o dan hyfforddiant hyn yn gweithio’n hyblyg ar draws y ddau faes darparu gwasanaeth, gan gefnogi un rhanbarth yr un. Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i deithio i sawl lleoliad a dangos diddordeb cryf yn ein hystod lawn o wasanaethau cwsmeriaid. Bydd gan bob ymgeisydd llwyddiannus leoliad cytundebol penodol. Mae amser teithio y tu hwnt i’r lleoliad hwn yn cyfrif fel oriau gwaith, a bydd costau teithio ychwanegol yn cael eu had-dalu.

Gwybodaeth Gyffredinol

  • Rhaid i gynghorwyr/rhai o dan hyfforddiant fod â thrafnidiaeth addas i gyflawni eu dyletswyddau a mynychu digwyddiadau dysgu a datblygu yng Nghymru ac, o bryd i’w gilydd, y DU.
  • Rhaid i ymgeiswyr Cynghorydd Gyrfaoedd feddu ar Ddiploma Lefel 6 FfCCh mewn Cyfarwyddyd Gyrfaoedd a Datblygiad (neu gyfwerth) a bod yn gymwys ar gyfer Cofrestr Ymarferwyr CDI.
  • Rhaid i Gynghorwyr Gyrfaoedd dan Hyfforddiant feddu ar radd (neu gyfwerth) a byddant yn cwblhau’r Diploma Lefel 6 fel rhan o’r rôl, gyda rhywfaint o astudio annibynnol yn angenrheidiol.
  • Mae angen gwiriad DBS manwl.

Disgrifiadau Lefelau Sgiliau Iaith Gymraeg

Canolradd: Byddwch yn gallu deall a chyfarthrebu’n glir ar bynciau bob dydd a phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith, cynnal sgyrsiau diddorol, ac egluro syniadau, profiadau a chynlluniau yn hyderus. Dylech hefyd allu darllen cyfathrebiadau gwaith syml a chynhyrchu negeseuon e-bost neu lythyrau clir, wedi’u strwythuro’n dda i rannu gwybodaeth, gwneud ceisiadau, neu drefnu gweithgareddau.

Uwch: Dylech allu dilyn y rhan fwyaf o drafodaethau, cyfrannu’n hyderus mewn sgyrsiau gyda siaradwyr rhugl, a mynegi eich barn yn glir ar ystod o bynciau bob dydd a phynciau sy’n gysylltiedig â gwaith. Byddwch yn deall y rhan fwyaf o ddeunyddiau ysgrifenedig Cymraeg gyda chymorth geiriadur ac yn cynhyrchu adroddiadau byr, adolygiadau a gohebiaeth glir a chywir ar gyfer cynilleidfaoedd mewnol ac allanol.

Mae disgrifiadau swydd llawn a ffurflenni cais ar gael yn Swyddi Gwag – Gyrfa Cymru (llyw.cymru).

Dyddiad Cau: Dydd Iau 19eg o Fawrth 2026 (hanner nôs).

Bydd gofyn i ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer fynychu Canolfan Asesu ar un o’r dyddiadau canlynol: 27ain o Ebrill, 28ain o Ebrill neu 6ed o Fai 2026 (trwy Microsoft Teams).


Cyfweliadau: Rhwng 27ain o Ebrill a’r 8fed o Fai 2026 (trwy Microsoft Teams).

Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol.

Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad oes unrhyw ymgeisydd yn derbyn triniaeth llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, hil neu ethnigrwydd, crefydd neu gred (gan gynnwys dim cred), statws priodas neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu gyfeiriadedd rhywiol. Rydyn ni’n hyrwyddo gweithle sy’n rhydd o wahaniaethu, gan drin pawb gydag urddas a pharch trwy gydol y broses recriwtio a chyflogaeth.

Sut i wneud cais

Cliciwch ar y ddolen “Gwneud Cais” isod am fwy o wybodaeth ac i wneud cais.