Cynghorydd Canolfan Gyswllt
Oriau: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener, 8am – 5pm
Ynglŷn â’r Swydd
Fel Cynghorydd Canolfan Gyswllt, chi fydd y pwynt cyswllt cyntaf i’n preswylwyr, a byddwch yn darparu gwasanaeth cyfeillgar, proffesiynol, ac ymatebol. Byddwch yn delio ag amrywiaeth eang o ymholiadau dros y ffôn, negeseuon e-bost, a sianeli digidol, i sicrhau bod preswylwyr yn derbyn gwybodaeth gywir a chymorth yn ôl yr angen.
Mae’r swydd hon yn ymdrin yn aml â sefyllfaoedd cymhleth neu heriol, sy’n gofyn am wydnwch, amynedd, a’r gallu i ddatrys problemau yn hyderus. Rhan allweddol o’r swydd hon yw datrys ymholiadau ar y pwynt cyswllt cyntaf lle bo’n bosibl, gan helpu i gynnig profiad cadarnhaol i gwsmeriaid a chynnal perthasoedd cadarn yn y gymuned.
Beth fyddwch yn ei wneud
- Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau preswylwyr
- Cyfathrebu dros y ffôn, negeseuon e-bost, a llwyfannau digidol
- Rhoi cyngor, gwybodaeth ac arweiniad clir
- Datrys problemau yn effeithlon, a hynny ar y cynnig cyntaf os yn bosibl
- Cofnodi a rheoli ymholiadau yn gywir gan ddefnyddio systemau cyfrifiadurol
- Cyfathrebu gydag empathi, proffesiynoldeb, a hyder, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd heriol
Ai dyma’r Swydd iawn i chi?
Gofynion hanfodol:
- Siaradwr Cymraeg rhugl (siarad, gwrando a darllen)
- Gallu i gyfathrebu’n hyderus yn Saesneg
- Yn teimlo’n gyfforddus i ddefnyddio cyfrifiaduron ar gyfer tasgau bob dydd
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf
- Gallu i gadw eich pen, dangos gwydnwch, a rheoli sgyrsiau heriol
- Profiad o ddarparu gwasanaeth da i gwsmeriaid (cyflogedig, gwirfoddol, neu bersonol)
Dymunol:
- Profiad o ddelio â phroblemau a’u datrys mewn ffordd adeiladol
Os ydych chi’n mwynhau helpu pobl, datrys problemau, a gweithio mewn amgylchedd prysur a heriol ar brydiau, gallai hon fod yn swydd berffaith i chi.
Pam dod i weithio gyda ni?
- Pensiwn – cyfraniadau cytafebol hyd at 8% gan y cyflogwr
- Gwyliau blynyddol – 25 diwrnod a gwyliau banc, yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth
- Hyblygrwydd o ran gwyliau – dewis i brynu neu werthu gwyliau blynyddol
- Tâl salwch – tâl salwch uwch y cwmni
- Manteision a gostyngiadau i’n gweithwyr, yn cynnwys:
- Ap Housing Perks – arbedion bob dydd ar eich siopa a nwyddau hanfodol
- Gostyngiad Blue Light – gostyngiadau ariannol gydag amrywiaeth eang o adwerthwyr, bwytai, a gwasanaethau
- Vivup – llwyfan llesiant a budd-daliadau sy’n cynnig gostyngiadau, gwobrwyon, a chymorth ymarferol
- …a llawer mwy!
Os ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn rydych chi’n angerddol dros ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ymgeisiwch nawr trwy’r botwm “Gwneud Cais” ac ymunwch â thîm ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid.

