Cynghorydd Cynllunio Datblygu
Rhif Swydd: 202787
Tîm: Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu y Gogledd Orllewin
Lleoliad: Bangor – Maes y Ffynnon
Gradd / Amrediad cyflog: 5: £37,594 – £41,428
Patrwm Gwaith: Llawn amser – 37 awr y wythnos
Working hours: 37
Math o gytundeb: Parhaol
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg: A2 – Lefel sylfaen
Dyddiad cau: 20/05/2026
Y rôl
Rydym ni yn chwilio am bobl angerddol sydd â chefndir mewn gwyddor amgylcheddol, cynaliadwyedd neu gynllunio ac sydd eisiau’r cyfle i helpu i lunio dyfodol Cymru, i ymuno â’n Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu. Mae’r Gwasanaeth yn gyfrifol am ddylanwadu ar gynlluniau defnydd tir strategol a phrosiectau sy’n ceisio caniatâd cynllunio. Mae’r gwaith yn amrywiol, yn werthfawr, ac yn rhoi cyfle gwirioneddol i ddylanwadu ar ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru.
Mae’r rôl hon yn hyblyg ar draws Gogledd Cymru ond disgwylir presenoldeb rheolaidd yn ein swyddfa ym Mangor.
Fel aelod o’n Gwasanaeth cynllunio datblygu “Unwaith yng Nghymru”, byddwch yn ymgysylltu’n uniongyrchol ag Awdurdodau Cynllunio a datblygwyr ar amrywiaeth eang o gynigion gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, tai, adfywio economaidd, twristiaeth ac amaethyddiaeth. Byddwch yn cydweithio ag arbenigwyr technegol ar draws Cyfoeth Naturiol Cymru i greu a darparu cyngor cywir, cadarn a dylanwadol ar ystod eang o bynciau gan gynnwys safleoedd cadwraeth, Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd, risg llifogydd, ansawdd dŵr, ansawdd aer, tir halogedig, a thirwedd.
Rydym yn chwilio am unigolyn cydweithredol sydd â sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf a diddordeb brwd mewn diogelu’r amgylchedd a chynllunio. P’un a ydych chi’n awyddus i feithrin profiad mewn sector ystyrlon a dylanwadol neu chwarae rhan mewn diogelu’r amgylchedd drwy’r system gynllunio, mae’r rôl hon yn cynnig datblygiad proffesiynol yn y sector amgylcheddol a chynllunio, gan gyfrannu at wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda’ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Bydd cyfweliadau’n bod wyneb yn wyneb (bydd manylion amser a lleoliad yn cael eu rhannu ymlaen llaw)
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir apwyntiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Cynhyrchu cyngor ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol, gan gynnwys cyngor ar eu Hasesiad Amgylcheddol Strategol (gyda chefnogaeth lefel uwch lle bo angen) gan sicrhau bod y cyngor yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei gyflwyno erbyn yr amser gofynnol.
- Cynhyrchu cyngor ar gyfer ymholiadau cyn ymgeisio, ymgynghoriadau rheoli datblygu, Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (gyda chefnogaeth lefel uwch lle bo angen) gan sicrhau bod cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru yn gadarn, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael ei gyflwyno erbyn yr amserlen.
- Paratoi gwybodaeth mewn perthynas â heriau yn erbyn cyngor cynllunio datblygu CNC, gan gynnwys presenoldeb mewn Apeliadau ac Ymchwiliadau.
- Datblygu a chynnal perthnasoedd effeithiol â chwsmeriaid (mewnol ac allanol) a sicrhau dealltwriaeth dda o’u hanghenion.
- Nodi cyfleoedd i ddylanwadu ar brosiectau a chynlluniau datblygu lleol cyn gynted â phosibl.
- Cynnal cofnodion y gellir eu harchwilio o weithredoedd a chanlyniadau i gyfiawnhau a dangos bod yr holl ofynion cyfreithiol a gweithdrefnol wedi’u bodloni.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich huntrwy ddefnydd effeithiol o eich cynllun datblygu personol (a elwir yn Sgwrs).
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Profiad o brosesau cynllunio datblygu neu reolaeth a deddfwriaeth amgylcheddol a gweithio gyda’r sector datblygu.
- Profiad o gyfrannu at, cymhwyso a/neu adolygu asesiadau effaith amgylcheddol.
- Gallu cyfathrebu’n effeithiol ag Awdurdodau Cynllunio Lleol, busnes a’r cyhoedd, gan esbonio materion cymhleth a chael cefnogaeth trwy ddylanwadu.
- Sgiliau hunanreoli a threfnu cadarn ac effeithiol.
- Gallu dadansoddi gwybodaeth a sefyllfaoedd hynod gymhleth, datrys problemau, a ffurfio barn gadarn ar sail tystiolaeth.
- Gallu gweithio’n dda fel rhan o dîm ac arwain timau rhithwir.
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: Lefel A2 – Level sylfaenol
- Dymunol: LefelB2 – Lefel hyfedredd uwch
Os nad ydych chi’n bodloni gofynion lefelau’r Gymraeg ar gyfer y rôl hon, ni fydd eich cais yn cael ei roi ar y rhestr fer. Disgwylir i’r rhai sy’n bodloni’r lefel hanfodol yn y Gymraeg ond nid y lefel ddymunol, os cânt eu penodi, ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg tra byddant yn y rôl.

