Cynghorydd Llwybr Arfordir Cymru
Lleoliad Hyblyg yng Ngogledd Cymru
Gradd / Amrediad cyflog 5: £37,594 – £41,428
Patrwm gwaith: Llawn amser (37 awr y wythnos)
Math o gytundeb: Parhaol
Lefel hyfedredd yn y Gymraeg: B2 – Lefel uwch
Dyddiad cau: 12/04/2026
Y rôl
Oes gennych chi angerdd dros gael pobl allan i’r awyr agored? Ydych chi’n mwynhau gweithio gydag eraill ac oes gennych chi wybodaeth fapio technegol a sgiliau system gwybodaeth ddaearyddol?
Ymunwch â ni i gysylltu pobl â natur ar Lwybr Arfordir eiconig Cymru.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoli Llwybr Arfordir Cymru mewn partneriaeth; gyda chyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i gynnal, datblygu a hyrwyddo’r llwybr. Fel Swyddog Llwybr Arfordir Cymru (Gogledd) byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn gweithio ac yn cydweithio â chydweithwyr yn CNC a chynghorau Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy ac Ynys Môn i ddatblygu a hyrwyddo’r llwybr yn y rhanbarth.
Bydd gennych ddealltwriaeth dda o anghenion mynediad cyhoeddus a byddwch yn cyflawni amrywiaeth o dasgau yn yr awyr agored a dan do. Byddwch yn cynnal arolwg o gyflwr llwybrau, gweinyddu cyllid, cynghori awdurdodau lleol ar brosiectau, defnyddio a gweinyddu system gwybodaeth ddaearyddol CAMS i fonitro effaith, adrodd ar gynnydd a llywio cynllunio. Gan adrodd i arweinydd y Tîm Mynediad Awyr Agored a Hamdden, byddwch hefyd yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr sy’n arwain ar hyrwyddo, cynhwysiant, bioamrywiaeth a pholisi i helpu pobl o bob gallu a chefndir i fwynhau Llwybr Arfordir Cymru.
Mae gyrru yn hanfodol i’r rôl hon. Rhaid i chi fod â thrwydded yrru lawn a chyfredol yn y DU.
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi dull gweithio hyblyg. Byddwch chi’n cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn yr ardal uchod a chytunir ar batrwm gweithio hybrid addas.
I wneud ymholiad anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â Carys Drew at Carys.Drew@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal wythnos yn cychwyn 20 Ebrill 2026 ar Microsoft Teams
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn destun gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fel arfer, gwneir penodiadau o fewn 4 i 8 wythnos i’r dyddiad cau.
Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud
- Paratoi asesiadau technegol, gan dynnu ar ystod o wybodaeth a ffynonellau data.
- Cefnogi’r gwaith o baratoi deunydd i lywio datblygiad dogfennau polisi, cyngor statudol a chanllawiau CNC, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill; paratoi ar gyfer datblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
- Darparu gwybodaeth gywir ynghylch cynnydd yn rheolaidd i reolwyr, fel y gellir addasu a sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni yn ôl yr amserlen a’r gost.
- Cysylltu â staff perthnasol CNC ynghylch y rhyngweithio rhwng mynediad at dir a dulliau defnyddio tir eraill er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau prosiect, polisi neu strategaeth yn cael eu cyflawni mewn modd amserol ac effeithiol.
- Rheoli prosiectau tystiolaeth bychain, yn unol â’r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cefnogi ymgysylltiad â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru; Croeso Cymru, awdurdodau lleol; cyrff anllywodraethol Cymru a chyrff amgylcheddol eraill yng Nghymru a’r DU; a bod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid sy’n ymwneud â’ch adran o Lwybr Arfordir Cymru.
- Cynnal gwybodaeth am y sector hamdden a mynediad awyr agored, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a’r farchnad ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a Llwybr Arfordir Cymru.
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynir drwy’r byrddau busnes, er mwyn paratoi cynnyrch pendant yn ôl y gofyn.
- Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol y cytunir arno.
- Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
- Ymrwymiad i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â dealltwriaeth o sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
- Bod yn ymrwymedig i’ch datblygiad eich hun drwy ddefnydd effeithiol o’ch cynllun datblygu personal (a elwir yn Sgwrs)
- Unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y gofynnir amdanynt sy’n gymesur â gradd y rôl hon.
Eich cymwysterau, profiad, gwybodaeth a sgiliau
Yn eich cais a’ch cyfweliad, gofynnir i chi ddangos y sgiliau a’r profiad canlynol gan ddefnyddio dull STAR.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a’r UE, mewn perthynas â mynediad a hamdden awyr agored, llwybrau hir a hawliau tramwy cyhoeddus; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU sy’n berthnasol i Lwybr Arfordir Cymru, a’r materion a’r cyfleoedd yng Nghymru.
- Profiad o ddadansoddi arbenigol/technegol a dehongli amrediad o wybodaeth a data am yr amgylchedd a mynediad awyr agored; dadansoddi setiau data mawr; dehongli a chymhwyso deddfwriaeth berthnasol.
- Cymhwysedd mewn amrediad o feddalwedd TG, yn benodol Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a’r gyfres o feddalwedd Microsoft Office.
- Gweithio gyda/yn y sector hamdden a mynediad awyr agored, awdurdodau lleol, tirfeddianwyr a rheolwyr; grwpiau cenedlaethol a rhanbarthol Llwybr Arfordir Cymru; cynrychiolwyr sefydliadau awyr agored/cefn gwlad a chyrff gwirfoddol. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau gyda phrofiad o reoli prosiectau a chymwysterau yn y maes hwn. Rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd er mwyn helpu i ddatrys problemau, gan gynorthwyo pob pennaeth busnes yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu yn ôl yr angen.
- Meddu ar drwydded ddilys lawn a chyfredol y DU i yrru cerbydau fflyd CNC (ceir a faniau).
Gofynion y Gymraeg
- Hanfodol: B2 – Lefel uwch
Gofynion y Gymraeg
Buddion
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 28.97% gan y cyflogwr (bydd staff mewnol llwyddiannus yn aros yn eu cynllun pensiwn presennol)
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol
- manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

